mai ar ei thir hi yr oedd yn sefyll. "O'r goreu,"' atebai'r cynghorwr, "mi a safaf ar y brif-ffordd." I'r brif-ffordd yr aed, rhoddodd y pregethwr air allan i ganu, eithr y tafarnwr a ddaeth, gan regu na chaffai aros yno, a galw ar y bechgyn i barotoi'r cerig. Dyma y rhai hyny yn rhuthro yn erbyn yr ychydig saint oedd wedi ymgynull ar yr heol, a chyda mwrdd-dra yn eu hwynebau, a chan floeddio fod y brif-ffordd yn rhydd i bawb, gwthient y gynulleidfa fechan o'u blaen, fel na chaffai aros. Yr oedd pastynau yn eu dwylaw, ond, meddai Thomas James: "Mor bell ag yr wyf yn cofio, nid oedd arnom ofn. Yr oedd tân yn llosgi yn fy nghalon trwy yr amser." Yn awr y mae yn myned yn frwydr rhwng y ddwy deyrnas, pob un o'r ddwy yn ymladd a'u harfau priodol ei hun. Gwaeddodd y pregethwr am osteg, fel y gallai siarad a'r arweinydd; eithr pan y cymerodd ef allan o'r dorf, yr oedd y dyn mor wan fel y crynai yn ei wyddfod, ac aeth i ffwrdd a'i liniau yn curo ynghyd. Ail gychwynwyd yr odfa; tra y canai ac y gweddi'ai y saint yr oedd gweision y diafol yn taflu tom a darnau o goed atynt; gorchuddiwyd gwyneb William Evans, Nantmel, a llaid. Ond ni chafodd neb niwed; y Beibl agored, a'u dillad yn unig, a gafodd gam. A'r Iesu gariodd y dydd. Pregethodd Thomas James am awr a haner, oddiar y geiriau: "Ac ar y graig hon yr adeiladaf fy eglwys, a phyrth uffern nis gorchfygant hi," gan argyhoeddi yr annuwiol, a chadarnhau yr wyn. Ar derfyn ei bregeth teimlai gariad mawr at ei elynion, a chymhellai hwynt gyda thaerni i ddyfod at y Gwaredwr, gan ddangos ei fod yn alluog i achub hyd yr eithaf. Trowyd yr wylmabsant yn gyfarfod pregethu; ac ar y terfyn aeth y tafarnwr at ŵr Duw, gan ei wahodd i'w dŷ i swpera. Diwedda Thomas James ei lythyr gyda'r geiriau: " Nid i ni, O Arglwydd, nid i ni, ond i'th enw dy hun dod y gogoniant."
Yn y Gymdeithasfa gyntaf yn Watford, cafodd ei dderbyn fel cynghorwr cyhoedd, ond ni phenodwyd maes iddo i'w arolygu, oblegyd rhyw helynt ynglyn a'i amgylchiadau. Erbyn ail Gymdeithasfa Watford, ymddengys fod y rhwystr wedi cael ei symud, a chafodd yntau ei osod yn arolygwr ar seiadau Brycheiniog, oeddynt yr ochr nesaf i Drefecca i'r afon Wysg. Cyflawnodd yn ffyddlawn y gorchwyl a gawsai ei ymddiried iddo, fel y dengys yr adroddiadau a anfonodd i mewn. Bu mewn aml i helynt wrth wasanaethu praidd Duw. Mewn llythyr a anfonodd at Cennick, Mawrth 26, 1743, rhydd hanes ei ymweliad a rhyw seiat, ar gyffyniau Siroedd Maesyfed a Brycheiniog, yn nghwmni James Beaumont, a brawd arall. Er cyrhaedd y lle, rhaid oedd iddynt groesi yr afon Wy; a pherswadiodd boneddwr y badwyr i godi crogbris arnynt. Pan na thalent, gwnaed y cwch yn sicr wrth raff yn nghanol yr afon; a daeth llu o bobl i lan y dwfr, o'r Gelli a manau eraill, er cael digrifwch wrth eu gweled yn methu myned nac yn ol nac yn mlaen. Ond yr oedd beiddgarwch a dyfais yn y cynghorwyr; troisant y cwch yn bwlpud i'r Iesu; a dechreuasant bregethu i'r dorf oedd o'r ddau tu. Ffyrnigodd yr erlidwyr, ac ymroisant i luchio cerig at y llefarwyr. Eithr cadwodd Duw ei weision yn rhyfedd; ni anafwyd un o'r tri; ac ymddengys i'r odfa, na chawsai ei chyhoeddi yn mlaen llaw, fod yn foddion i achub amryw. Gwedi i'r cynghorwyr gael eu cadw uwch ben y dwfr am bump awr, yn canu, ac yn gweddïo, ac yn cynghori, caed allan nad oedd gan y cychwyr yr un drwydded; a bu dda ganddynt gymeryd y tri brawd i dir. Tybia Thomas James ddarfod clwyfo cydwybodau y cychwyr eu hunain.
Gorchuddir rhan olaf bywyd y gwas ffyddlawn hwn i Grist a thywyllwch. Y cyfeiriad olaf a gawn ato yw yn llythyr Rice Williams, Rhagfyr 29, 1748. Ni cheir ei enw yn mysg y rhai a ymlynent wrth Harris adeg yr ymraniad. Naill ai yr oedd wedi marw yn flaenorol, neu ynte bwriodd ei goelbren, yn yr argyfwng pwysig hwnw, gyda Daniel Rowland, a Williams, Pantycelyn. Y mae yn sicr fod Thomas James yn un o'r cynghorwyr mwyaf defnyddiol. Cyfunai yn ei dymheredd y llew a'r oen. Nid oedd arno ofn perygl; mentrai i ganol yr erlidwyr yn ddi fraw; ond yr oedd yn nodedig o dirion a gostyngedig wrth drin y praidd.
Y cynghorwr nesaf a ddaw dan ein sylw yw Thomas William, arolygydd adran o Sir Forganwg. Ychydig o'i hanes sydd ar gael; ond ymddengys iddo gael ei argyhoeddi ar daith gyntaf Howell Harris i blwyf Eglwys llan, yn y flwyddyn 1738, ac iddo ddechreu cynghori ar unwaith. Pan yr ymneillduodd y Methodistiaid. o Watford, oblegyd cyfeiliornadau David Williams, y gweinidog, gan ymsefydlu yn y Groeswen, yr oedd Thomas Williams yn