Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf I.djvu/268

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Wrth ymadael, dywedai: "Os ewch chwi i'r nefoedd o'm blaen i, cofiwch fi at John Harry, a dywedwch fy mod inau hefyd yn dyfod." Dro arall, galwodd wyr i John Harry, sef y Parch. T. Harris, Hwlffordd, yn nhy Mr. Hill yn Llundain. "Pwy ydych chwi?" ebai Mr. Hill. "Yr wyf yn wyr i'r diweddar John Harry, o Dreamlod," atebai yr ymwelydd. Ar hyn, ymunionodd Mr. Hill; sefydlodd ei lygaid ar y dyn ieuanc, ac meddai, mewn llais llawn o deimlad: "Os oes un dyn o'n byd llygredig ni yn y nef, y mae yr hen John Harry yno. Efallai mai ei berthynas a'r hen John Harry a barodd i Mr. T. Harris gael ei ddewis gwedi hyn i fod yn weinidog Wooton-under-Edge, lle yr arosodd am rai blynyddoedd. Gyda Rowland y glynodd efengylydd Treamlod yn yr ymraniad, a bu yn nodedig o ddefnyddiol yn nghylchoedd Methodistaidd Penfro hyd ddiwedd ei oes. Pregethai unwaith yn y mis yn nghapel Woodstock. Gelwid y Sabbathau yno yn ol enw y pregethwr a fyddai yn gweinyddu. "Sul Rowland " y gelwid Sul pen y mis; "Sul John Harry" oedd yr ail; "Sul Henry Richard," tad Eben a Thomas Richard, oedd y trydydd; a "Sul William Griffith "oedd yr olaf. Bu John Harry farw yn y flwyddyn 1788, yn nhŷ offeiriad Trefdraeth. Yn ei angladd, pregethwyd gan Sampson Thomas, oddiar y geiriau: Gwyn eu byd y meirw, y rhai sydd yn marw yn yr Arglwydd." Pregethwyd hefyd ar yr amgylchiad yn eglwys Treamlod, gan Mr. Rowland, oddiar y geiriau : "Ac os o braidd y mae y cyfiawn yn gadwedig, pa le yr ymddengys yr annuwiol a'r pechadur?" Nid yw yr hen John Harry heb fod rhai o'i hiliogaeth yn gweinyddu mewn pethau sanctaidd, yn mysg y Methodistiaid, hyd y dydd hwn. Mab iddo oedd y Parch. Evan Harris, a gafodd ei ordeinio yn mysg y fyntai gyntaf yn Llandilo Fawr, yn y flwyddyn 1811. Mab iddo yntau oedd y Parch. Thomas Harris, gwr o ddoniau arbenig, ond a derfynodd ei yrfa mewn cysylltiad a'r Eglwys Wladol. Gorwyr i John Harry yw y Parch. James Harris, Clarbeston Road; ac yr ydym yn deall fod mab iddo yntau eto wedi cychwyn gyda gweinidog- aeth y Gair.

Un o gynghorwyr hynotaf Penfro oedd William Edward, Rhydygele. Darllenwn am dano yn nghofnodau Trefecca yn cael caniatad i ymweled a chymdeithasau Tyddewi, Penrhos, a Mounton, yn wythnosol, ar brawf, hyd y Gymdeithasfa ddyfodol. Yr oedd yn llawn tân a chyffro, a meddai lawer o dalent naturiol, a medr i gyfarch pechaduriaid, ond ei fod yn drwsgl ac yn dra anwrteithiedig. Methodist ydoedd; dan weinidogaeth Howell Harris y cawsai ei argyhoeddi; ond ymgymysgai gryn lawer a'r Ymneillduwyr, ac yn eu cyfarfodydd arbenig, eisteddai bob amser yn mysg y swyddogion. Edrychent hwy arno ef fel un rhy danbaid, a rhy ddireol; credai yntau eu bod hwy yn rhy farwaidd ac anefengylaidd. Gyda llawer o ffraethineb, dangosai iddynt unwaith y gwahaniaeth rhwng ei ddull ef yn pregethu, a'r eiddynt hwy, trwy gymhariaeth o dộ ar dân. "Eich dull chwi," meddai, "yw dweyd: Wrth deithio yn y nos, yn 1af, Mi a ganfum dân. Yn 2il, Mi a welais fwg. Yn 3ydd, Mi a ddeallais fod y tý yn llosgi. Yn 4ydd, Mi a wybum fod y teulu ynddo mewn trwmgwsg. Yn 5ed, Mi a ddaethum i'ch deffro, a'ch galw allan, rhag eich dyfetha. Fy null inau, wedi deall fod y ty ar dân, a'r teulu yn cysgu, yw gwaeddu, heb na chyntaf nac ail: Iwb! Iwb! Hawyr! Hawyr! Deffrowch! Deuwch allan ar frys, y mae y ty ar dân, onide fe'ch llosgir yn lludw!"

Saer oedd William Edward wrth ei grefft. Arweiniwyd ef unwaith, wrth ddilyn ei gelfyddyd, i fysg y Saeson a breswyliai ran o Benfro, a hyny mewn palasdy, lle yr oedd pobl dra boneddigaidd yn byw. Yn fuan, aeth y si allan fod y saer yn bregethwr. Gwedi ei holi, a chael fod y chwedl yn wir, trefnodd y foneddiges fod iddo gael anerch y teulu y Sul canlynol. Y Sul a ddaeth, ac esgynodd William Edward i ben ystôl, er mwyn bod yn uwch na'i wrandawyr. Tynodd lyfr allan o'i logell, gan ddarllen yn Saesneg o hono fel testun: "Pwy bynag a yr ei was neu ei forwyn i godi pytatws, neu i dori bresych, ar foreu Sabbath, a ddemnir dros byth." "Dyma fy nhestun, madam," meddai; "yn awr, gyda'ch cenad, mi a af yn mlaen." Eithr cyffrodd y foneddiges yn enbyd; nid oedd yn ddieuog yn ngwyneb y cyhuddiad; a bloeddiodd yn groch: "Nag ewch ddim yn mlaen, yr adyn; dewch i lawr ar unwaith; dim ychwaneg o'r fath gleber!" Ac i lawr y bu raid iddo ddod, heb wneyd rhagor na darllen y testun, a therfynodd y cyfarfod. Dengys yr hanesyn fod tân a zêl yn yspryd y cynghorwr, ond yn fynych fod y