Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf I.djvu/283

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

un y mae y Cristion yn marw yn rhinwedd ei undeb â Christ; sef ei bod (a) yn farwolaeth boenus, (b) yn farwolaeth araf a dyhoenus, (c) yn farwolaeth gywilyddus, ond (d) ei bod yn dwyn llawenydd i'r enaid. (3) Dangosodd natur y bywyd sydd i'w gael trwy undeb â Christ, a'r fath ddirgelwch yw y credadyn; ei fod yn farw ac eto yn fyw, yn wan ac eto yn gadarn, yn bechadurus ac eto yn bur, yn ddall ac eto yn gweled, yn cwympo ac eto ar ei draed. Y casgliad oedd fod pawb amddifad o'r bywyd hwn o dan y felldith. Gwaeddai gydag awdurdod: "Bechadur, beth wnei di! Dere allan oddi tan y gyfraith, ac oddiwrth bechod, a hunan, a'r byd, a rho dy hun i Grist.' Cafodd nerth anghyffredin; yr oedd calon Harris yn gyffrous o'i fewn hyd yr Amen, a theimlai sicrwydd ynddo y gwnai Duw ddisgyn, a bendithio'r gwaith.

O Gapel Evan aeth Harris yn ei flaen ar draws Siroedd Caerfyrddin, Morganwg, a Mynwy, gan bregethu efengyl gras Duw yn Abertawe, Castellnedd, Llantrisant, Watford, a Llanfihangel, a lleoedd eraill, a chyrhaeddodd Bryste dydd Mercher, pen y pythefnos er pan y cychwynodd o gartref. Brysiodd gyda'i gydymaith, James Beaumont, i'r ystafell newydd i wrando Mr. Mansfield yn pregethu. Pwnc y bregeth oedd cyfiawnhad heb weithredoedd y ddeddf; eglurai y llefarwr y mater mor glir, gan ddangos geudeb yr egwyddor o wneyd hyn, a'r llall, ac arall, er mwyn cael bywyd, fel y llanwyd enaid Harris a diolchgarwch i Dduw am gyfodi y fath oleuni yn y wlad. Teimlai ei falchder hefyd yn cael rhyw gymaint o glwyf am ddarfod iddo dybio nas gallai y cyfryw oleuni ddyfod "heb fod rhai o honom ni yn eu mysg." Ai y Cymry a olyga wrth y"ni," nis gwyddom. Bwriadai fod yn bresenol mewn Cymdeithasfa Fisol yn Mryste, ond yr oedd drosodd cyn iddo gyrhaedd. Eithr wedi clywed y penderfyniadau teimlai y gallai gymeradwyo yr oll. Boreu dydd Iau ail gychwynodd tua Llundain, gan gyrhaedd yno oddeutu pump prydnawn dydd Gwener. Elai i mewn i'r ddinas trwy Hyde Park, gan basio yr adeiladau mwyaf gorwych perthynol iddi, ond prin y sylwai ar y mawredd oedd o'i gwmpas; agorodd Duw ei lygaid i ganfod gogoniant byd arall, a gwychder ty ei Dad, yr hwn ogoniant sydd dragywyddol, tra y mae mawredd daear i ddiflanu. Er mor flinedig ydoedd, aeth y noson hono i'r Tabernacl i wrando Mr. Whitefield yn pregethu, a theimlo ei enaid yn ymddarostwng ynddo tan ddylanwad y gwirionedd. Boreu dydd Sadwrn aeth Howell Harris, yn ngwmni Whitefield, i gyfarfod â John a Charles Wesley. Teimlai nad oedd yn gymhwys i fod yn mysg y cyfryw gymdeithion, ac y byddai yn fraint iddo gael bod wrth eu traed i'w cynorthwyo. Mater eu hymgynghoriad oedd gwaith mawr y diwygiad, y posiblrwydd o undeb rhyngddynt, a'r priodoldeb o neillduo personau i gyfarfod er cael cydweithrediad. Cafwyd cryn ymddiddan gyda golwg ar gyfranogi o'r sacrament yn nghyd; nid oedd y ddau Wesley yn teimlo eu hunain yn rhydd i hyny; ofnent rhag i gyfarfyddiad canlynwyr Whitefield a'u canlynwyr hwythau beri dadleuon. Cydunent mai dymunol cael pregethwyr diurddau, eu bod gan bob eglwys; mai gwell peidio ymffurfio yn blaid wahaniaethol hyd nes y byddai iddynt gael eu gwthio allan o Eglwys Loegr; ac hefyd i roddi cyfraith ar y werinos a ymosodai arnynt, fel y gallent gadw eu rhyddid. Eithr nid oedd y Diwygwyr am ddial; bwriadent faddeu i'r rhai a'i camdriniai wedi iddynt ddeall ddarfod iddynt droseddu cyfraith y tir. Penderfynasant yn mhellach apelio at y gyfraith wladol rhag traha y llysoedd Eglwysig. Ymadawyd mewn teimlad hyfryd, wedi cydymostwng gerbron gorsedd gras. Dydd Mercher, yn mhen yr wythnos, y dechreuodd y Gymdeithasfa, yr hon oedd yn gyffredinol i'r holl frodyr Saesnig. Pwnc cyntaf yr ymdriniaeth oedd y priodoldeb o ymwahanu oddiwrth yr Eglwys Sefydledig. Meddai Howell Harris: "Darfu i'r brawd Whitefield a minau sefyll yn erbyn; ac yn y pen draw darbwyllwyd y brodyr i aros fel yr ydym. Yr wyf yn cael nad yw yr Arglwydd am ddinystrio yr Eglwys Genedlaethol dlawd hon. Yn (1) Y mae ganddo lawer o eneidiau da o'i mewn, nad ydynt yn ymuno â ni. (2) Y mae yn cadw ac yn bendithio y brawd W. yn fawr. (3) Y mae yn goruwch-lywodraethu malais y clerigwyr. (4) Y mae wedi argraffu yn ddwfn ar feddwl y brawd Whitefield y bydd iddo gael ei wneyd yn esgob, a thrwy hyn y mae yn ei gadw yn mlaen fel y mae yn awr. (5) Y mae yn rhagluniaethol wedi ein cadw rhag ysgar oddiwrthi hyd yn hyn. Parhaodd y ddadl yn hir; dadleuais (1) brydferthwch ffurf yr ordeiniad yn ein mysg; (2) fod yn rhaid i'r sawl a fyddo