Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf I.djvu/292

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dranoeth am wyth, oddiar 1 Cor. xv. 53, dan arddeliad anarferol. O gwmpas deg, cychwynodd Harris ac yntau tua'r Fenni. Ar eu ffordd pasient gymydogaeth Pontypwl, maes llafur y Parch. Edmund Jones. Llonwyd Howell Harris yn fawr wrth glywed am ymdrechion a llwyddiant y gŵr da hwnw. Meddai: "Cefais lawer o undeb ag ef, a serch ato, er ddarfod i Satan ar y cyntaf geisio creu pellder rhyngom, fel nad oeddwn yn hoffi ei weled." Fe gofir mai Edmund Jones fuasai a'r llaw flaenaf yn lluniad ac anfoniad allan y proclamasiwn hwnw yn erbyn y Methodistiaid; ac felly y mae yr yspryd a ddengys Harris yn y difyniad uchod yn fawrfrydig anarferol.

Y mae y llythyr canlynol, a anfonwyd at arweinwyr y diwygiad gan aelodau seiat Mynyddislwyn, yn esbonio ei hun, ac yn taflu goleuni pruddaidd ar fywyd llygredig clerigwyr Eglwys Loegr ar y pryd:

Anwyl frodyr; yr ydym mewn cyfyngder yn ein meddyliau o herwydd ein bod yn ffaelu bod yn gyfranog o'r ordinhadau. O herwydd y mae ein cuwrad ni yn un ag y mae y gair am dano ei fod wedi ei dyngu yn odinebwr, ac oblegyd hyny yr ydym yn methu cael rhyddid i gydfwyta, heb dori gorchymyn Duw. Yr ydym yn dymuno cael eich barn chwi ar y mater. Yr ydym yn gweled fod yr ordinhadau yn foddion na ddylid eu hesgeuluso, ac na ddylid, ychwaith, bwyso arnynt yn ormod. Dymuno cael cynghor oddiwrthych yr ydym, gyda chofio am danom gerbron gorseddfainc y gras." Dyddiad y llythyr hwn yw Ionawr 2, 1744. Diau y bwriedid iddo gael ei ddarllen a'i ystyried yn Nghymdeithasfa Watford, eithr nid oes un cyfeiriad ato yn ei chofnodau. A gafodd efe sylw yno, ac os do, pa ateb a roddwyd, sydd yn gwbl anhysbys.

Dydd Mercher, Ionawr 11, 1744, y mae Howell Harris yn cychwyn am Lundain. Cyrhaeddodd Ross o gwmpas tri yn y prydnawn, wedi cymdeithas anarferol o fuddiol am ran o'r ffordd gyda y brawd Morgan John Lewis; dysgasant amryw wersi buddiol yn nghyd, gan weled mai trwy brofiad y mae adnabod Duw, ein hunain, Crist, a dichellion y diafol. Cyrhaeddodd Gaerloyw erbyn pump, a chwedi cael adgyfnerthiad i'w gorph aeth i'r seiat, lle y cafodd achlysur i lawenhau. Cododd boreu dranoeth am chwech, er mwyn anerch aelodau y seiat, yr hyn a wnaeth oddiar y geiriau: "Canys eiddot ti yw y deyrnas." Nos Sadwrn, daeth i Lundain, gan fyned ar ei union i dy Mr. Whitefield, lle y clywodd newyddion gogoneddus am lwyddiant y gwaith. Boreu y Sul, aeth tua St. Paul; nis gallai glywed yr offeiriad yn pregethu; ond cafodd nerth i weddïo dros Eglwys Loegr: "O Arglwydd, dychwel; y mae dy ogoniant ar riniog y drws, bron ymadael oddiwrthym. O tyred, ailadeilada yr adwyau; fel, os oes yma goffadwriaeth i'th enw, os oes genyt had yn ngweddill, os nad yw y gogoniant wedi llwyr adael, y gallwyf aros yn yr Eglwys druan hon." Teimlodd y fath gariad at yr eneidiau tywyll oedd yn yr Eglwys fel nas gallai eu gadael, ond gwnaed iddo lefain: "O Iesu, yr wyt wedi agor tai cyrddau (y mae llawer o dai cyrddau wedi eu hagor yn awr), ac yr wyf, Arglwydd, yn dy fendithio am hyny; ond ai ni wnei di ein bendithio ninau, ac agor drysau yr eglwysydd?" Teimlodd yspryd galar; cyffesodd ei bechodau ei hun, pechodau yr Eglwys, a phechodau y genedl, a llefodd: "O Arglwydd, yr wyt yn canfod ein bod yn farw, mewn trwmgwsg, ac nid yn unig hyny, ond yn gwrthryfela yn dy erbyn di. ac yn dy demtio yn mhob ryw fodd. O tosturia wrthym, a dychwel atom drachefn." Wedi i'r bregeth orphen aeth at fwrdd y cymun, a gwelodd yr oll y safai mewn angen am dano yn Nghrist. Y noson hono aeth i wrando Whitefield yn pregethu, yr hyn a wnaeth yn ardderchog, oddiar hanes Samson; ac yn y seiat a ddilynai anerchodd Harris y frawdoliaeth. Clywodd yno am Esgob Llundain yn ysgrifenu yn eu herbyn.

Boreu dydd Llun aeth efe a Whitefield at y cyfreithiwr, gyda golwg ar y cynghaws. Cafodd ar ddeall na wnai y terfysgwyr unrhyw ddiffyniad, yr hyn a barodd i Harris lefain allan: "Gogoniant!" Dydd Mawrth yr oedd Cymdeithasfa Fisol yn cael ei chynal yn y Tabernacl; ymddengys nad oedd llawer o faterion yn galw am sylw; yr unig beth y cyfeirir ato yn y dydd-lyfr oedd, priodas rhai brodyr, i'r hyn nad oedd tadau eu darpar-wragedd yn foddlawn. Beth a benderfynwyd ar hyn ni ddywedir. Bu yn Llundain hyd Mawrth 15fed, yn pregethu, yn cynghori yn y cymdeithasau, ac mewn amryw gynadleddau o weinidogion. Ymwelodd a'r palas brenhinol yn Kensington; a charcharorion wedi eu dedfrydu i angau yn Newgate; a chawn ef amryw droiau ar ymweliad a'r Iarlles Huntington. Yr oedd Llundain yn ferw