Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf I.djvu/310

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

i fy enaid blygu o dan y Gair," meddai; "llefwn am ostyngeiddrwydd i mi fy hunan ac i'r cynghorwyr. Pan y clywais fod y sacrament i gael ei weinyddu, wedi i'r capel fod yn nghau, llanwyd fy enaid at diolchgarwch, gan weled fod yr Arglwydd yn dychwelyd atom. Ond pwy sydd yn cael ei lethu gan y fath gorph o falchder a mi! Y fath gwympiadau wyf yn gael o'r herwydd!"

Gwelwn ddarfod i ymdrech y Methodistiaid gyda golwg ar gapel Abergorlech fod yn llwyddianus. Pregethai Rowland drachefn yn Glanyrafonddu, y nos flaenorol i'r Gymdeithasfa. Ei destun oedd, Datguddiad xiv. 1. Wrth fyned yn nghyd tua. Phorthyrhyd cyfarfyddasant a nifer mawr o frodyr a'u gwyneb ar y cyfarfod. Clywodd Harris amryw newyddion a'i llonodd yn fawr: (1) Fod yr Archesgob wedi cynyg ordeinio un o bobl Mr. Wesley; (2) Pan y tynwyd y cwyn yn erbyn ei dy yn Nhrefecca (gan yr Uchel Reithwyr yn Sessiwn Aberhonddu), i Mr. Joseph Hughes sefyll yn ei erbyn, a'i rwystro; (3) Fod yr Arglwydd wedi bendigo Mr. Gw. i agor ei ddrws i bregethu; (4) Fod yr efengyl yn enill tir mewn gwahanol ffurf mewn llawer o leoedd. Agorwyd y Gymdeithasfa trwy bregeth gan Daniel Rowland. Ei fater oedd, yr Arglwydd yn fur o dân o amgylch ei bobl. Yna anerchodd Howell Harris y cynghorwyr ar anrhydedd, mawredd, a phwysigrwydd y gwaith ; eu hanghymwysder ar ei gyfer, gan ddangos y fath rai oeddynt, a phwy a pha fath oedd eu gelynion; natur gwir ostyngeiddrwydd, ei fod yn golygu ein bod yn ddim yn ein golwg ein hunain, a'n bod mor ofalus am helynt y brodyr ag am ein helyntion ein hun; a'r angenrheidrwydd oedd arnynt oll am ddoethineb. "Wrth agoshau at Dduw," meddai, "cefais y fath oleuni yn fy yspryd, na chefais ei gyffelyb erioed o'r blaen. Yna cawsom ymddiddan maith ar natur ymrwymiad (contract); a chawsom lawer o oleuni, yn neillduol i weled mor anwybodus ydym.”

Ymadawyd y noson hono mewn tymer hyfryd; ond boreu dranoeth cyfododd tymhest yn eu mysg. Caiff Howell Harris adrodd yr hanes. "Y boreu hwn," meddai, "cawsom groes. Ceryddais i y brawd Rowland, ac eraill, am hunanesmwythid, ac am beidio myned o gwmpas gymaint ag a ddylai. Digiodd yntau. Ond yn fuan drylliodd yr Arglwydd y fagl, ac ail unodd ni. Ymresymais i yn erbyn y ddau, a'r Arglwydd a ddrylliodd fy nghalon, ac a'm darostyngodd yn y fath fodd, fel yr oeddwn yn foddlawn nid yn unig i'r brodyr weled fy ngwendidau, ond yn llawenhau yn hyny; ac oddiar ymdeimlad o'm llygredigaethau a'm gwendid llefwn am gael fy ngosod o'r naill du, gan weled pob un o honynt yn llanw ei le yn well na mi. Yr oeddwn yn wir wedi fy narostwng; nis gallwn lai nag wylo ger eu bron, gan gyfaddef beth oedd allan o le; gallwn orwedd wrth eu traed hwy oll." Y mae yn bur amlwg ddarfod i dymherau poeth Harris ei orchfygu yma eto, a pheri iddo roddi briw i'w frodyr; ac yr ydym yn ei gael yntau yn y llwch. mewn canlyniad, yn gruddfan ac yn wylo, ac yn taer ddymuno maddeuant. Yn sicr, darfu canfod y dewr pan yn wyneb perygl, yn ei ddagrau gerbron ei frodyr, effeithio yn ddwys ar y frawdoliaeth, a gorchwyl hawdd a dedwydd oedd estyn maddeuant iddo. Ymadawyd yn y teimladau goreu. A ganlyn yw penderfyniadau y Gymdeithasfa, fel y maent wedi eu croniclo yn y cofnodau:

"Wedi cryn ymgynghoriad gyda golwg ar fawredd y gwaith, ac am weled a theimlo ei faich, cydunwyd i gadw dau ddiwrnod i fod yn nghyd.

"Fod un o'r offeiriaid urddedig i bregethu yn mhob Cymdeithasfa Chwarterol, yn olynol; ac os rhwystra rhagluniaeth yr un benodwyd rhag bod yn bresenol, fod y nesaf ato i bregethu.

"Cydunwyd i ysgrifenu at y brodyr Davies, a John Harris, am na ddarfu iddynt anfon rheswm dros eu habsenoldeb; ac hefyd at y brawd Thomas Miller, oblegyd llwyr esgeuluso ein Cymdeithasfaoedd.

"Fod y brawd Jenkins, oblegyd yr angenrheidrwydd presenol, a'i alwad i Loegr, i fod yn gyfangwbl yno, oddigerth pythefnos bob tri mis, y rhai y mae i'w rhoddi i ni, adeg ein Cymdeithasfaoedd Chwarterol.

"Fod y brawd Benjamin Thomas i gynorthwyo y brawd Harris, yn lle y brawd Jenkins, yn arolygiaeth holl Gymru.

"Fod y brawd James Ingram, gwas cyflog gyda y brawd Harris, i'w gynorthwyo fel cynghorwr, ac ysgrifwas, ac i gael ei anfon ganddo i Loegr a Chymru, i gynorthwyo, fel y bo galw; efe a'r brawd Thomas ar brawf hyd y Gymdeithasfa nesaf.

"Fod y brawd Roger Williams i fyned