gwelwn yr un pryd ganlyniadau niweidiol peidio myned; ond nis gallwn help. Yn unig cefais nerth i lefain ar i'r Arglwydd gyflawni ei ewyllys, bydded y peth a fyddo. Eithr fel yr oeddwn yn dychwelyd tua Llanddowror, a chwedi dyfod i'r fan lle yr oedd yn rhaid i mi benderfynu, tosturiodd yr Arglwydd wrthyf, a rhoddodd yn sydyn y fath gariad i mi at y brodyr, fel nas gallwn lai na llefain yn fy yspryd am fod gyda hwynt, a chael byw a marw gyda hwynt. Yr oeddwn yn un â hwy mewn modd neillduol. Cefais y fath undeb â'r brawd (Howell) Davies, na chefais ei gyffelyb o'r blaen, gan deimlo ffrwd o serch at ei enaid a'i gorph fel teml Duw, fel un yn ffafr Duw, ac fel cenad Duw." Amlwg yw iddo fod mewn ystorm ofnadwy o ran ei feddwl; ac y mae yn bur sicr iddi godi oddiar ryw dramgwydd a gawsai yn y brodyr. Nid annhebyg iddo glywed rhyw chwedl, naill ai ar ei ffordd i Sir Benfro, neu ynte yn nhŷ Howell Davies y nos o'r blaen, a barodd iddo ymddigio. Efallai iddo glywed ei bregethau yn cael eu beirniadu, neu fod rhai o'i hoff gynlluniau yn cael eu gwrthwynebu. Ffromodd yn aruthr o herwydd hyn; poethodd ei dymherau nes y collodd pob llywodraeth arnynt am yspaid; a chwedi ymlonyddu i raddau, er y teimlai gywilydd o hono ei hun, ni fedrai gael rhyddid i fyned i fysg ei gyfeillion, oeddent wedi cydymgynull y dydd cyn y Gymdeithasfa, ac yn treulio y prydnhawn mewn gweddi a mawl. Bu mewn cyfynggynghor pa beth a wnelai, ai tori pob cysylltiad â hwy, a dychwelyd adref, ynte myned i'w mysg. Trwy drugaredd, Ílanwyd ei fynwes a chariad, fel y trodd y rhod. o blaid y diweddaf; ond yr oedd yr amgylchiad yn flaenbrawf o'r dymhest a gludodd Harris allan o'r cylch Methodistaidd yn mhen pum mlynedd ar ol hyn.
Ar ol tymhestl y daw hindda; ac ymddengys fod yr haul yn llewyrchu ar y frawdoliaeth oedd wedi ymgynull yn Hwlffordd, yn y Gymdeithasfa, prydnhawn dydd Llun. Meddai Harris: "Yr oeddwn yn agos at Dduw, a galluogwyd ni i drefnu ein cynlluniau tuhwnt i bob disgwyliad, fel y synwn ddarfod i'r gelyn geisio fy rhwystro i ddyfod yma. Yn sicr, gwnaed llawer o waith; a threfnasom amryw bethau a ymddangosent yn dra dyrus; megys am arolygwr newydd, trefnu y cynghorwyr anghyoedd, symud rhagfarnau am y tŷ newydd yn y lle hwn, agor ein calonau i'n gilydd gyda golwg ar gyfiawnhad, a pha mor bell y geill eneidiau fyned heb ras achubol, Saul yn enghraifft, yn nghyd â Judas, Balaam, Demas, y morwynion ffol, a'r rhai y crybwyllir am danynt yn Heb. vi. Cawsom lawer o serch at ein gilydd, ac undeb, a chydweithrediad. Yna aethum i bregethu." Gyda golwg ar ei bregeth, dywed: "Eangwyd fy nghalon, fy ngenau a agorwyd, teimlai y bobl, a disgynodd yr Arglwydd mewn modd anghyffredin i lawr ; yn enwedig pan y dangosais mor ardderchog y byddai gyda hwynt yn angau, pan fyddai eu llygaid yn pylu, a'r galon yn pallu; yna,' meddwn, y cewch chwi, ïe, chwi bechaduriaid tlawd a dirmygedig sydd yn credu, weled gogoniant tŷ ein Tad, uno. â'r llu nefol, a sefyll o gylch yr orsedd i orfoleddu ac addoli.' Cafodd odfa nerthol iawn, ac wrth ymadael yr oedd ei galon yn gynhes at ei Waredwr ac at y brodyr. A ganlyn yw y prif benderfyniadau a gafodd eu pasio:
"Fod y brawd William Edward i fod ar brawf hyd y Gymdeithasfa nesaf, ac i ymweled yn wythnosol a seiadau Tyddewi, Penrhos, a Mounton; a'i fod ef, yn nghyd â'r holl gynghorwyr anghyoedd eraill, i beidio ymweled a lleoedd eraill, ond fel y bydd eu hamgylchiadau, a'u gofal penodol yn caniatau, a than gyfarwyddid eu harolygwyr.
"Fod y brawd Cristopher Mendus i ymweled yn wythnosol a seiadau WaltonWest, a Studder, gyda y rhyddid a'r rhwymau y cyfeiriwyd atynt.
"Fod y brawd John Sparks i gynghori ar brawf fel cynt yn nghymydogaeth Hwlffordd, dan arolygiaeth y brawd Davies.
"Fod y brawd George Gambold i fyned o gwmpas yn gyfangwbl, ac i adael yr ysgol, er llefaru yn gyhoeddus fel arolygwr, ar brawf hyd ein Cymdeithasfa Chwarterol nesaf yn Cayo."
Wedi y Gymdeithasfa aeth Howell Harris trwy ranau helaeth o Benfro, gan basio trwy Dyddewi, Trefin, lle y cafodd odfa anarferol iawn, Bwlchygroes, Llwynygrawys, ac Eglwyswrw. Testun ei weinidogaeth yn mhob lle oedd y gwaed, a'r clwyfau. Yna teithiodd Sir Aberteifi ar ei hyd, gan ymweled a Llechryd, Cwmcynon, Cilrhedyn, Llanbedr-pont-Stephan, Capel Bettws, a Llanddewi-brefi, lle y lletyai mewn hen balasdy yn nghesail y mynydd, o'r enw Foelallt. Yn mhob man rhoddai bwys mawr ar rinwedd y gwaed,