yn egluro athrawiaethau mawrion yr efengyl. Derbyniodd ef y rhybudd, modd bynag, yn yr yspryd yr oedd yn cael ei roddi. "Cawsom gariad ac undeb," meddai, "a chefais ryw gymaint o ostyngeiddrwydd wrth weled fy hun yn cael sylwi arnaf gan unrhyw un. Wrth ei wrando yn pregethu (yn Nhrefecca) oddiar y geiriau: Os myn neb ddyfod ar fy ol i, ymwaded ag ef ei hun,' nid oeddwn yn meddwl i mi erioed glywed y fath ddoethineb." Teimlai Harris yspryd milwr yn deffro ynddo wrth wrando.
A ganlyn yw cofnodau y Gymdeithasfa Fisol: "Yr oeddym wedi cyfarfod o'r blaen (Chwef. 16), gan dreulio cryn amser yn dra buddiol i ystyried cyflwr y genedl, a'r eglwys, a sylwi ar arwyddion yr amserau, pob un yn gofyn i'r llall pa oleuni, yn ei dyb ef, oedd yr Arglwydd yn roddi y pryd hwn gyda golwg ar y gwaith, pan y mae cymaint o bethau yn dygwydd i fygwth dinystr. Meddai pob un ffydd, yn fwy clir neu wan, yr a'i y gwaith yn ei flaen yn wir nad oedd eto ond dechreu, er fod rhai yn tybio y gallai treialon ddygwydd yn gyntaf. Yr oedd yr Arglwydd gyda ni mewn modd arbenig iawn; cadwyd y brodyr i fynu, i ganu ac i weddïo, hyd gwedi deuddeg.
Wedi agor ein calonau i'n gilydd, a gofyn cwestiynau y naill i'r llall gyda golwg ar y gwaith, cydunwyd i gyfarfod drachefn dydd Gwener, Mawrth 29, am ddeg yn y boreu, a phob pedwerydd dydd Gwener, o Mawrth y cyntaf, fel y byddai i bob dydd perthynol i'n Cymdeithasfa breifat fod yn ddydd o ymostyngiad a gweddi yn nghyd.
Cydunwyd fod amgylchiadau y brawd Thomas Jones i gael eu gosod gerbron y seiadau preifat.
"Fod y dydd Mawrth yn mhen y pythefnos i fod yn ddydd o ymostyngiad personol yn mhlith y ffyddloniaid, o herwydd yr ymraniadau yn Lloegr, a'r clauarineb a phechodau eraill yn Lloegr a Chymru."
Dengys y cofnod diweddaf fod sefyllfa y Methodistiaid yn Lloegr yn dra chyffrous; fod ymbleidio a rhaniadau yn eu mysg; ac yr oedd eu llywydd, Whitefield, yn yr America er y flwyddyn flaenorol; o ganlyniad, ar ysgwyddau Howell Harris, yn benaf, y disgynai y gofal. Dechreu Mawrth, cynelid Cymdeithasfa yn Mryste, ac aeth Harris yno yn nghwmni Beaumont. Yr oedd ei yspryd yn brudd ynddo oblegyd yr amrafaelion rhwng y cynghorwyr. Yn y cwch, wrth groesi yr Hafren, rhoddwyd iddo agosrwydd mawr at Dduw, a nerth i ofyn iddo am ei gadw rhag ei yspryd ei hun yn nydd y demtasiwn oedd yn agoshau, rhag iddo ei dramgwyddo ef, na thramgwyddo y brodyr, yr hyn a ofnai uwchlaw pob peth. Boddlonodd Duw ef y gwnai ei gadw. Wedi cyrhaedd Bryste galwodd y frawdoliaeth yn nghyd; cynaliwyd cyfarfod i ymostwng gerbron y Goruchaf Dduw, ac i ofyn am arweiniad; yna anerchodd Harris hwy, gan ddweyd fod gan yr Arglwydd gweryl â hwy. Boreu dydd y Gymdeithasfa bu mewn ymdrech angerddol â'r Arglwydd cyn myned allan o'r tŷ; gwelai y diwrnod yn ddydd o dreial, yn ddydd galar, ac yn ddydd o ymostyngiad. Cododd chwant myned adref arno, ac eto llefai ei fod yn foddlon aros yno ond iddo weled bod hyny er gogoniant i Dduw. "Y fath nifer," meddai, "hyd yn nod o'r rhai a broffesant eu bod yn adnabod yr Arglwydd, sydd yn llawenychu yn ein hymraniadau; rhai a gondemniant y gwirioneddau ydym yn draethu; eraill a gondemniant yr yspryd a'r zêl. Arglwydd, pa hyd y gadewi ni i fod yn watwargerdd? Ai nid dy blant di ydym, a'th genadon tlawd, wedi eu hanfon genyt? O tosturia wrthym!" Yn yr yspryd hwn yr aeth i fysg y brodyr. Daeth rhyw deimlad drylliedig dros y brodyr wrth ddarllen cofnodau y Gymdeithasfa o'r blaen. Yna," meddai, "bum yn ymresymu â'r brawd Bishop, yr hwn sydd yn myned i ymneillduo, ac i uno â'r Bedyddwyr. Wedi siarad rhydd daethom i ddealltwriaeth ag ef, gyda golwg ar y rhai sydd heb eu bedyddio, ond wedi eu hargyhoeddi. Tybiai ef y dylem godi trwydded i bregethu, mai dyfais ddynol yw bedydd babanod; fod ganddo hawli weinyddu y sacramentau heb ordeiniad nac arddodiad dwylaw. A hyn darfu i ni oll anghytuno. Nid oedd rhai o honom, a minau yn eu mysg, yn rhydd i godi trwydded. Yr oedd pawb o honom yn anmharod i weinyddu yr ordinhadau heb ordeiniad, ac yn anmharod hefyd iordeinio yn ein mysg ein hunain. Yr oeddym yn unfarn hefyd parthed bedydd babanod, ond cytunasom y gallai efe ddyfod i'n mysg, os dymunai. Wedi cael fy nghymhell, aethum i bregethu i'r neuadd, i dorf fawr.” Cafodd odfa dda, ac agosrwydd mawr at yr Arglwydd ar weddi, wrth ddechreu a diweddu.
Parhai y Gymdeithasfa dros ddydd