Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf I.djvu/325

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hyny, efallai, y dosparth_mwyaf parchus, o'r rhai a ganlynent y Diwygwyr, ac a ymgyfenwent yn Fethodistiaid, yn fwy ymlyngar wrth yr Eglwys na'r arweinwyr; a phe y gwelent y duedd leiaf yn y Cyfundeb i ymffurfio yn blaid Ymneillduol, y troent eu cefnau arno ar unwaith. Rhwng pob peth, ni welai Rowland a Harris eu ffordd i symud; disgwylient yn awyddus am oleuni mwy pendant a chlir. Ar yr un pryd, tueddwn i feddwl iddynt fod yn rhy amddifad o feiddgarwch yn y cyfnod hwn, a'u bod yn disgwyl arwydd eglurach nag oedd ganddynt hawl i wneyd, a thrwy hyny iddynt golli canoedd o'u canlynwyr, y rhai a ymunasant â phleidiau eraill. Ni fu hyn, modd bynag, yn golled i grefydd, oblegyd bu yn foddion i greu yspryd llawer mwy efengylaidd, a mwy ymosodol, yn y cyfryw bleidiau, ac efallai yn atalfa effeithiol ar yr yspryd cyfeiliorni a ffynai yn eu mysg.

Y peth cyntaf a wnaeth Howell Harris ar ol cyrhaedd adref oedd myned at Price Davies, offeiriad Talgarth, er cael ganddo ganiatau i'r Methodistiaid gymuno yn yr eglwys, yr hon fraint a ataliasai oddiwrthynt am agos i ddwy flynedd a haner. Gwrthwynebai yntau," meddai Harris, "yn (1) Am fy mod yn pregethu gartref ar adeg y gwasanaeth dwyfol. Atebais inau na wnaethum y fath beth, yn fwriadol, erioed. (2) Fy mod yn pregethu yn erbyn canonau yr Eglwys. Atebais nad oedd y canonau yn gyfraith, am na chawsent erioed eu cadarnhau gan Weithred Seneddol. (3) Fy mod wedi dolurio Esgob Llundain. Dywedais fy mod yn meddwl na wnaethum hyny, ond nad oedd yr Esgob yn glir gyda golwg ar gyfiawnhad, a phe y cawn fy ngalw o'i flaen y teimlwn yn ddyledswydd arnaf i ddweyd hyny wrtho; ond os oeddwn wedi camddifynu ei eiriau yn fy llythyr at Mr. Glyde, mai y rheswm oedd, nad oedd llythyr yr Esgob genyf wrth law pan yn ysgrifenu, ac y gwnawn gyfaddef fy mai mewn llythyr arall. (4) Nad oeddwn yn dyfod i wrando i eglwys fy mhlwyf. Atebais mai anaml yr oeddwn. gartref; fy mod weithiau yn myned i'r capel, a'm bod wedi clywed llawer o bregethu da yno; ac weithiau i eglwys Talarchddu, lle y clywn yr hyn a gytunai a'm chwaeth yn well (nag yn eglwys Talgarth); ond nad oeddwn yn cadw i ffwrdd oddiar unrhyw ddrwgfwriad, ac yr awn i Dalgarth oni bai am Mr. Edwards, y cuwrad. (5) Fy mod yn ymosod ar yr offeiriaid yn eu cefnau; ac os oeddynt yn feius, mai fy nyledswydd oedd tosturio wrthynt. Atebais na oddefwn ynof y fath deimlad at neb, ond ei bod yn rhwymedig arnaf i sefyll yn gyhoeddus yn erbyn eu pechodau, am eu bod yn foddion i galedu eraill mewn pechod trwy eu hesiampl, gan fod llawer o honynt yn feddwon, ac yn cael eu canfod yn feddw. Dangosais iddo fel yr oeddwn wedi llafurio i gadw llawer yn yr Eglwys, oeddynt yn annhueddol i hyny oblegyd annuwioldeb ac anwybodaeth y clerigwyr, y rhai a bregethent weithredoedd yn lle Crist. Pan y gwrthwynebai hyn, cydnabyddais y dylent gael eu pregethu yn eu lle, fel ffrwythau ffydd. Dywedai fod y bobl, ar ol gwrando arnaf fi, yn edrych yn watwarus arno ef, ac yn ei ddirmygu. Dywedais fy mod yn gobeithio na wnaethum i hyny erioed. Cydnabyddodd na wnaethum. Dywedais, yn mhellach, pa bryd bynag y gwelwn y cyfryw yspryd ynof fy hun, neu mewn eraill, fy mod yn ei geryddu. Yr oedd yn chwerw yn erbyn y brawd Rowland, gan ei fygwth a gwys os byth y deuai yno drachefn. Pan yr honai nas gallwn ddwyn cosp arno ef am wrthod y sacrament i mi, fel yr oeddwn wedi bygwth yn fy llythyr, cyfeiriais ef at y prawf rhwng Esgob Manaw a'r llywodraeth, pan yr oedd wedi gwrthod y sacrament, ac y cafodd ei wysio o'r herwydd." Felly y terfynodd yr ymddiddan rhwng Harris a'r hen Price Davies, ac y mae yn dra dyddorol fel engrhaifft o'r teimlad o'r ddau tu. Nid yw yn ymddangos i'r offeiriad roddi ateb penderfynol ar y pryd; ond ildio a wnaeth, oblegyd ar gyfer Sul y Pasg cawn y nodiad a ganlyn yn y dydd—lyfr: "Aethum i eglwys Talgarth, a chefais ganiatad i gyfranogi o'r sacrament. Yr oeddwn yn isel fy meddwl yn ystod y canu, eithr yn y bregeth, ar Col. iii. 1, synwyd fi at ei huniongrededd a'i hysprydolrwydd; yna aethum at y bwrdd, wedi bod yn agos at yr Arglwydd trwy ystod y bregeth, a gwnaed fi yn ddiolchgar o herwydd clywed y fath bregeth yma." Fel y trefnasid yn flaenorol, cynhaliwyd Cymdeithasfa Fisol yn nhŷ Thomas James, Cerigcadarn, ar y 26ain o Ebrill. Ni cheir ei phenderfyniadau yn y cofnodau; tebyg mai dibwys oeddynt; ond rhydd Howell Harris ryw gymaint o'i hanes yn y dydd—lyfr. "Eisteddasom yn nghyd," meddai, hyd gwedi pedwar, a'r Arglwydd a'm gwnaeth yn finiog, ac yn dra