olwg bellach yn fy yspryd, y rhaid i mi fod ar fynydd Seion, yn nghymdeithas myrddiwn o rai sanctaidd, ac felly, gwelwn fy hun yn estron yma. Aethum o gwmpas un i lefaru yn yr Aberthyn, a chefais odfa anghyffredinol o nerthol wrth bregethu ar, Aroswch yn fy nghariad.' Yr oeddwn yn llym wrth y rhai nad oedd a'u holl hyfrydwch yn Nuw. O mor felus yw cael pregethu yn yr Arglwydd! Yr oedd y cynulleidfaoedd yn lliosocach nag arferol yn y rhan fwyaf o fanau. Yna aethum i'r seiat breifat, ac eisteddasom i fynu yr holl nos, hyd yn agos i chwech; a rhyfedd fel y cryfhaodd yr Arglwydd fi yn fy enaid a'm corph. Daeth efe yno; gwnaeth ni fel fflam o dàn â'i gariad; cynysgaethodd ni â bywyd, a nerth, a gwres. Yr oeddwn yn llym atynt, na oddefent bechod yn eu mysg, na dim tebyg iddo. Yna cadarnheais eu ffydd yn y gwaith, gan ddangos fod pob arwydd ei fod o Dduw, a'i fod wedi ymledu trwy yr holl wlad, eu hochr hwy a'r ochr arall i'r môr. Am yr wrthddadl fod yr offerynau yn wael, atebais fod hyn yr un fath ag yn amser yr apostolion; ac, yn llaw Duw, fod yr offerynau gwaelaf gystal a'r goreu. Cyfeiriais at ataliad Richard Jones oddiwrth bregethu, oblegyd ei ddifaterwch, ac na oddefai gerydd, gan ddangos y rhaid i ni fod yn un mewn gwrthod ei fath, onide na fydd dim awdurdod yn ein mysg. Yna dangosais, gyda grym, yr anghenrheidrwydd am i bawb gael eu dysgu gan Dduw, a'u llanw o hono, ar gyfer eu lleoedd. Yna, wrth ganu a gweddio, taniwyd ein hysprydoedd; yr oedd yr Arglwydd gyda ni yn wir. Cadwyd fy llygaid yn sefydlog ar y Jerusalem newydd, yr oeddwn yn llawn o deimlad, ac yn awyddu bod yno. Cynhyrfais y brodyr yn erbyn y diafol, gan ddangos fel y darfu iddo ein dinystrio ar y cyntaf, ac fel y mae yn parhau i'n rhanu, ac i'n gwneyd yn annedwydd. Erbyn hyn yr oedd y brodyr yn llawn bywyd. O, gogoniant i Dduw am ddychwelyd atom eto! Cyfeiriais at y dirgelwch mawr; y Gair wedi ei wneuthur yn gnawd, a'r modd y llewyrchodd arnaf gyntaf. Gwedi hyn, cliriwyd amryw achwyniadau oedd ganddynt yn erbyn eu gilydd, ac yr oeddynt yn awr yn hollol rydd oddiwrth y demtasiwn i ymneillduo."
Er mor ddyddorol yw y dydd-lyfr, rhaid i ni frysio yn mlaen. Aeth o'r Aberthyn i Penprysc, ffermdy, nid yn nepell o Lantrisant, lle y pregethodd gyda nerth anarferol iawn, oddiar Matt. xxviii. 18. Toddai y gynulleidfa fel llyn dwfr tan ddylanwad y Gair. Yr un diwrnod (dydd Iau) llefarodd mewn lle o'r enw Hafod, oddiar y geiriau: "Canys byw i mi yw Crist, a marw sydd elw." Tybia na chafodd y fath nerth i bregethu erioed o'r blaen. Yr oedd yr Arglwydd yn wir yn y lle. Wylai llawer yn hidl; bloeddiai eraill dan rym argyhoeddiad; cafodd Satan ei glwyfo, a dynoethwyd angau yn ogoneddus gerbron y credinwyr, fel yr wylai Harris ei hun ddagrau melus o lawenydd. Gwaeddai: "Nid wyf yn gofalu pa un a fydd trefn ar fy mhregethu a'i peidio; nid trefn sydd arnaf eisiau, ond gallu." Aeth yn ei flaen i gyfeiriad Castellnedd, a chlywai fod y werinos yno wedi penderfynu ei fobio. Gwingai y cnawd o'r herwydd am ychydig, ond tawelodd Duw ei yspryd yn fuan. Cyn cyrhaedd yno pregethodd mewn lle o'r enw Cwrt Herbert, ar "Byddwch lawen yn wastadol." Cafodd dynerwch mawr yma wrth wahodd yr holl gynulleidfa at Grist. Cafodd lonydd gan werinos Castellnedd. Yn Llansamlet, darfu i oruchwyliwr y tir ar ba un y safai wrth bregethu, gydio yn ei geffyl ef, a cheffylau y cynghorwyr eraill, at y rhent oedd yn ddyledus ar yr amaethwr. Aeth Harris i siarad ag ef; dangosodd yr a'i gwaith Duw yn mlaen er pob gwrthwynebiad. Cynygiodd y goruchwyliwr ei geffyl yn ol iddo, ond iddo addaw na ddeuai yno i bregethu drachefn. Atebai yntau, nas gallai addaw y fath beth am fil o geffylau, nac am ei fywyd. Yr oedd ganddo ddigon o gariad i ddymuno gweled y dyn anghyfiawn yn y nefoedd; nid yn unig boddlonai i'r ceffyl gael ei gymeryd, ond bendithiai Dduw am hyny, am y tueddai yn flaenorol i fod yn falch o'r anifail. Oddiyno brysia yn mlaen i ffermdy, o'r enw Perllan-Robert, yn Nghymydogaeth Abertawe, yn yr hwn le yr oedd Howell Davies yn pregethu. Pa beth oedd yn dwyn Efengylydd Penfro i Forganwg, nis gwyddom. Pregethodd, gyda dylanwad, oddiar Zech. xii. 8; dywed Harris ei fod yn marchog ar adenydd yr Hollalluog; a bod yr odfa yn un nerthol anarferol. Yr oedd cydgyfarfyddiad y ddau gyfaill, a ymdreulient yn ngwasanaeth eu Harglwydd, yn adnewyddiad yspryd i'r ddau. Hysbysai Mr. Davies fod llwyddiant rhyfedd ar y gwaith yn Sir Benfro, yn y rhanau Saesnig a'r rhai Cymreig. Aeth Howell Harris yn ei flaen trwy Abergorlech, Glanyrafonddu, Llanddeusant,