Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf I.djvu/342

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

oeddynt yn asgwrn o'm hasgwrn, ac yn gnawd o'm cnawd." Y mae yn anhawdd peidio synu at ei feiddgarwch. Ar ei ysgwyddau ef yn benaf y gorphwysai gofal achos y Methodistiaid yn Nghymru; yr oedd ei lafur yn eu plith hwy bron bod yn ormod i'w natur; a dyma ef yn awr, ac wedi colli John Cennick, ar ei ben ei hun yn ymgymeryd â holl ofal yr achos yn Llundain ac yn Lloegr. Y noswaith hono aeth Harris i'r Tŵr at ei frawd. Dranoeth, y mae Cennick yn ffarwelio a'r Gymdeithasfa, ac, yn nghanol dagrau, yn cyflwyno yr holl ofal i Howell Harris." Siaradodd," meddai y dydd-lyfr, "am ddirgelwch person Crist yn ogoneddus; cyfeiriodd lygaid y bobl at y gwaed, gan erchi iddynt addoli'r clwyfau. Wylai y bobl yn hidl; cefais inau ryddid i wylo. Ar y diwedd, gweddiodd yn afaelgar trosof fi, a llewyrchodd goleuni i mewn ify enaid." Yn sicr, nid dyma y modd y bydd dynion yn gyffredin yn cefnu ar eu cyfeillion crefyddol, ac yn ymuno â phlaid arall. Os oedd Cennick yn cyfeiliorni o ran ei farn, nis gellir peidio edmygu ei gydwybodolrwydd. Ond nid oedd y diwedd eto. Tranoeth, sef dydd olaf y Gymdeithasfa, y mae nifer o'r brodyr blaenaf, sef Hammond, Heatly, Solivan, a Thorn, yn datgan eu penderfyniad i ganlyn Cennick, ac ymuno a'r Morafiaid. Datganai un arall, Goodwin, ei fwriad i ymadael, ond yr arosai am oleuni pellach cyn penderfynu a wnai uno a'r Morafiaid. O'r rhai a ystyrid yn arweinwyr, nid oedd yn aros bellach i sefyll wrth ochr Howell Harris, ond Herbert Jenkins, ac Adams. Ni lwfrhaodd ei enaid ynddo yn yr argyfwng difrifol hwn; ymnerthodd yn y gras sydd yn yr Arglwydd; ysgrifenodd at Whitefield, i'w hysbysu o'r holl amgylchiadau, a llifodd cysur i'w yspryd oddiwrth y geiriau: "A bydd y llywodraeth ar ei ysgwydd ef." Wedi trefnu pethau cystal ag y gellid yn y Tabernacl, ac yn Lloegr oll, ar ol yr argyfwng difrifol yr aethid trwyddo, dychwelodd Howell Harris a'i briod i Gymru ychydig cyn y Nadolig. Eithr ni ddychwelodd i orphwys. Ail tranoeth i'r Nadolig, y mae yn cychwyn am daith faith drachefn i Siroedd Mynwy a Morganwg; ac yn Dinas Powis, o fewn rhyw dair milltir i Gaerdydd, y torodd gwawr 1746 arno.