Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf I.djvu/348

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cysylltiad â rhai o honynt, fel brodyr ieuangach wedi eu hymddiried i'm gofal, at bod yn rhaid i hyn weithio er daioni, fel y mae pob gwrthwynebiad wedi gwneyd hyd yma." Yn y Glyn yr oedd y Gymdeithasfa i'w chynal, Ionawr 9, 1746; y dydd cyn hyny, wrth deithio tua Thaf-Fawr; ceisiai ddyfalu pa wrthwynebiad iddo ef a'i athrawiaeth a gyfodid gan y brodyr. Cafodd olwg newydd ar ogoniant a duwdod Crist, wrth weled fod y llywodraeth ar ei ysgwydd. Yn Taf-Fawr, cafodd gryn nerth wrth bregethu y gwaed. Cyfeiriodd yn llym hefyd at yr Ymneillduwyr cnawdol, y rhai a siaradent yn ddidaw. am drefn, a ffurf-lywodraeth eglwysig, ac a alwent eu hunain yn eglwys, ond oeddynt yn hollol amddifad o fywyd. Oddiyma aeth i'r Glyn, lle y cynhelid y Gymdeithasfa; yr oedd ganddo daith o ddeg awr ar gefn ceffyl, a chyrhaeddodd yno yn hwyr y nos flaenorol i'r cyfarfod.

Y mae yn sicr fod Howell Harris yn dychrynu wrth feddwl am y Gymdeithasfa; dysgwyliai yn sicr y byddai i ymosodiad enbyd gael ei wneyd arno, ac ar yr athrawiaeth neillduol a bregethai, a cheisiai ymgadarnhau ar ei gyfer. "Teimlwn," meddai, "fod arnaf awydd cyfarfod a'r brodyr er cael fy sathru dan draed, fy nghondemnio, a'm gwrthwynebu; ni welwn ddim arall o'm blaen; llawenychwn ynddo, gan ei weled yn foddion i dynu i lawr fy malchder. Ond cefais olwg hefyd ar y dianrhydedd a gaffai ein Harglwydd wrth ein bod yn gwrthwynebu ein gilydd, ac ar yr ŵyn yn cael eu gwasgaru, a'u rhanu; yr oedd hyn yn dra dolurus i mi. Cefais nerth i weddïo ar i Dduw ein cadw yn nghyd." Agorwyd y Gymdeithasfa gyda phregeth gan Williams, Pantycelyn, oddiar Eph. vi. 11; ac ymddengys ei bod yn odfa nodedig o lewyrchus." Daeth awel nerthol i lawr arnom," meddai Harris; "fflamiwyd fy enaid o'm mewn, a darostyngwyd fi i'r llwch; yr oeddwn yn ddiolchgar am y dawn, a'r gras, a'r nerth oedd yn cael ei roddi." Gwedi y bregeth, cydginiawodd y brodyr, a dechreuwyd trin y gwahanol faterion, ar ol gweddi felus gan y brawd Morgan Jones. Yn ystod y weddi, yr oedd yr amenau mor uchel a chyffrous, fel y tramgwyddodd rhai; eithr dadleuodd Harris fod y tân o Dduw. Darllenwyd nifer o lythyrau, ac yr oedd ffydd y frawdoliaeth yn cynyddu fel y cynyddai eu treialon. "Y mae Satan yn ein profi bob cyfeiriad," meddai Harris, "ond yr Arglwydd a ymddangosodd yn rhyfedd yn ein mysg ni heddyw, gan wneyd i fynu y rhwyg erchyll a ofnwn o Sir Forganwg. O dynerwch Duw! Yr hyn a ofnwn a symudwyd, a'n hysprydoedd a unwyd; eithr dengys hyn y fath blant ydym, mor lleied o gydymdeimlad a'n gilydd a feddwn; mor barod ydym i ymranu, ac i osod yr esboniad gwaethaf ar eiriau ein gilydd. Addefodd y brodyr iddynt fy nghamgymeryd, a'u pechod, yn cychwyn cwestiynau cnawdol parthed addoli dynoliaeth. Crist, a'u gwaith yn rhoddi bod i syniadau cnawdol am ddyndod y Gwaredwr, fel pe y byddai ei ddyndod ar wahan oddiwrth ei dduwdod yn ei ddyoddefiadau, ac felly nad yw i'w addoli; a'u gwaith yn honi mai ei ddyndod yw y ffordd, y drws, a'r offrwm, ac felly, nad ydoedd i'w addoli o gwbl. Ar eu gwaith yn cydnabod eu bai, cefais ryddid i lefaru am ddirgelwch Crist, a'r modd y datguddiwyd ef i mi gyntaf. Dywedodd y brawd Rowland fod Ainsworth yn sylwi ddarfod i Dduw farw fel yr oedd yn Dduw-ddyn; ac fel pe bai yr un yn physigwr ac yn gyfreithiwr, y byddai yn briodol dweyd i'r physigwr farw, neu ynte y cyfreithiwr. Ai fod ef ei hun wedi pregethu, dydd Nadolig, am ddirgelwch Crist, oddiar y geiriau: 'A'r Gair a wnaethpwyd yn gnawd.' O Dad tyner! Dangosais fel yr oedd y duwdod yn nglyn a'r enaid a'r corph (yn Nghrist) pan yr oeddynt wedi eu hysgar oddiwrth eu gilydd; y modd yr oedd hyn yn llewyrchu arnaf; fy mod yn credu nad oeddynt hwy yn eu weled ond yn ngoleu rheswm, ac felly y dylent fod yn ddystaw. Dywedais fy mod yn credu fod y Morafiaid yn iawn yn y mater yma, ac nad oeddwn i wedi newid fy meddwl gyda golwg ar unrhyw wirionedd, ond wedi tyfu ac wedi ymgryfhau yn y goleuni. Yr wyf yn cael fod y gelyn yn ceisio ein gwahanu yn Sir Benfro, a bod yr yspryd Morafaidd yn ymledu yno; ceisiais inau dawelu pethau. Y mae yn dda mai yr Arglwydd sydd Dduw. Dywedais wrth John Belsher fy mod yn tybio fy mod yn gweled ynddo anghymwysder i ddelio ag eneidiau gweiniaid. Cefais ryddid mawr ar weddi ar y terfyn."

Felly y terfynodd y Gymdeithasfa bwysig hon. Nid ydym yn teimlo y rhaid i ni wrth esgusawd am ddifynu ei hanes mor helaeth allan o'r dydd-lyfr, yn nghyd a hanes y daith. Y pryd hwn y rhoddwyd lefain yr ymraniad yn y blawd. Yr oedd yr hyn a eilw yn ddirgelwch Crist wedi