phrofiad crefyddol, y brawd Morgan Jones. Wrth gymharu eu golygiadau, yr oedd y ddau yn cyduno yn hollol. Cydolygent na ddylent geisio caethiwo yr Yspryd o ran ei weithrediadau trwy unrhyw gynlluniau, na thrwy unrhyw drefn wrth bregethu; fod yn rhaid wrth yr Yspryd a'r Gair; mai y ddau yn nghyd oedd goleuni a rheol yr eglwys.
Ychydig o orphwys oedd i Howell Harris gwedi dychwelyd adref. Diwedd Mawrth, a dechreu Ebrill, cawn ef ar daith yn Siroedd Brycheiniog, Maesyfed, a Threfaldwyn, gan ymweled a'r Tyddyn, Bwlchyrhaidd, Mochdref, Llanllugan, a Llansantffraid. Caffai gyfarfodydd nerthol tu hwnt yn mhob man, braidd; y bobl a dorent allan mewn sain cân a moliant; byddai eu hamenau a'u haleliwia yn aml yn boddi ei lais, ac arosent yn nghyd i orfoleddu am oriau gwedi i'r odfa orphen. Ar y dechreu, bu Harris yn wrthwynebol i'r cyfryw dori allan; dylanwad Grffith Jones, Llanddowror, arno a gyfrifai am hyny yn benaf; ond yn awr, y mae yn gefnogol i'r peth, ac yn ei amddiffyn â gorchymynion ac esiamplau allan o'r Beibl. Tua diwedd mis Ebrill, cynhelid Cymdeithasfa Chwarterol yn Watford. Y nos Fawrth cyn y Gymdeithasfa, pregethai Daniel Rowland yn nghapel y Groeswen, ac aeth Harris yno. Mater y bregeth oedd, ymdrech gydag achos yr Arglwydd. Pregethodd Harris hefyd, a dywed i'r Arglwydd lanw y lle a'i bresenoldeb. Y mae yn ymddangos fod y seiat yn y Groeswen erbyn hyn, ar ol ychydig o ymddyeithrwch, lawn mor Fethodistaidd ag unrhyw un o'r seiadau. Pregethodd Harris gyda'r fath yni nes yr oedd ei gorph yn ddolurus. Atebai wrthddadleuon y rhai a ofynent, ai Arminiaid, ynte Antinomiaid ydych? "Nid wyf wedi dod i ymdrin a phethau felly," meddai y pregethwr, "ond i ofyn pwy sydd ar du yr Arglwydd. Y mae Duw wedi myned allan yn erbyn Satan ac yn erbyn pechod; os yw dy galon o blaid yr Arglwydd, rho dy law i mi?
Bu i raddau yn ystormus yn y Gymdeithasfa. Yr oedd y Morafiaid am sefydlu achosion yn Nghymru, ac yn ceisio denu atynt y rhai a gawsent eu hargyhoeddi trwy weinidogaeth y Methodistiaid. Y lle y ceisient osod eu traed i lawr gyntaf arno oedd Hwlffordd, yn Sir Benfro. Efallai fod dylanwad John Gambold, gwedi hyn, yr Esgob Gambold, yn cyfrif am eu dewisiad o Hwlffordd; gan fod amryw o'r Methodistiaid yn y dref, a'i chwmpasoedd, yn berthynasau agos iddo yn ol y cnawd. Naturiol oedd i'r peth ddyfod yn destun ymdriniaeth yn y Gymdeithasfa. Tueddai rhai i gondemnio y Morafiaid yn llym. "Eithr," meddai Harris, "datgenais fy marn fod gormod o gulni a rhagfarn ynom ni a hwythau, ac y rhoddem fantais i'r diafol oni fyddem yn fwy gostyngedig; fy mod gymaint a neb yn erbyn cyfeiliornadau y Morafiaid, ac yn erbyn eu gwaith yn dyfod i Gymru i greu ymraniad; ond nas gallwn gyduno ag ymadroddion y brodyr yn y Gymdeithasfa, a'm bod yn gweled ynddynt ddiffyg ffydd i adael y gwaith yn llaw yr Arglwydd." Yr oedd Howell Harris yn fwy cydnabyddus a'r Morafiaid; arferai fynychu eu cyfeillachau pan yn Llundain; gwyddai mai trwy eu hofferynoliaeth hwy yn benaf y cawsai John Wesley ei arwain at grefydd efengylaidd; a chredai fod gwreiddyn y mater ganddynt, er nad oedd yn cydweled â llawer o'u syniadau; felly, naturiol oedd iddo deimlo yn dynerach atynt. Modd bynag, aeth y ddadleuaeth yn Watford yn boeth; ac wrth fod Harris yn dadleu dros roddi yr eglurhad tyneraf ar olygiadau y Morafiaid, cyhuddodd rhywun ef o fod yn Antinomiad. Teimlodd yntau y sarhad i'r byw. Yr oedd yn dra dolurus ei deimlad wrth ymadael; meddyliai fod y brodyr yn edrych arno fel peth gwael. Felly y teimlai boreu dranoeth. Ond daeth Howell Davies, a Williams, Pantycelyn, ato yn dra llariaidd a gostyngedig; adroddodd yntau ei helynt a'i dywydd wrthynt, a chawsant gyfeillach nodedig o felus. Y rheswm nad oedd Rowland gyda y ddau offeiriad arall oedd ddarfod iddo gael ei gyhoeddi i bregethu y boreu hwnw. Gwedi yr ymddiddan, brysiasant i glywed Rowland; ond erbyn iddynt gyrhaedd, yr iddynt gyrhaedd, yr oedd yr odfa trosodd. Yn breifat, galarai Harris wrth weled y brodyr o wahanol syniadau mor chwerw yn erbyn eu gilydd, ac wrth weled Daniel Rowland mor ystyfnig yn erbyn y Morafiaid. Yr oedd ei feddwl yn dra chymysglyd. Ail-agorodd y mater yn y Gymdeithasfa, gan ddatgan ei fod yn erbyn pob peth beius yn y Morafiaid, ac yn wrthwynebol i'w gwaith yn dyfod i Gymru, i beri ymraniad; nas gallai eu condemnio, am y credai eu bod yn rhan o gorph Crist; ac er fod eu penau i raddau yn gyfeiliornus, eto, fod llawer o honynt