ddilynai dangosodd glauarineb, rhagfarn, a doethineb pen yr Ymneillduwyr, gan ddweyd ei fod yn eu caru, ond y dymunai eu gweled yn gwasgu yn nes at Dduw. Y mae yn nesaf yn Llanddeusant, ac yn cael odfa rymus. Gofynai iddo ei hun a wnai barhau i dalu dwy bunt yn y flwyddyn. tuag at gael y brawd Rowland i bregethu yn y sir hono yn fisol? Tebyg fod Daniel Rowland yn dyfod yn fisol yn awr i Abergorlech, a bod Harris yn ei gynorthwyo i dalu y person a gymerai ei le yn Llangeitho. A ganlyn yw profiad Howell Harris yn Llanddeusant: "Cefais barodrwydd neithiwr i ddyoddef pob peth, o bob cyfeiriad; oddiwrth y rhai cnawdol a'r rhai ysprydol, ac hyd yn nod oddiwrth y brawd Rowland, yr hwn sydd wedi cael caniatad i fy nirmygu, a'm gwarthruddo, ac i sathru arnaf, gan fy nghyhuddo o gyfeiliorni, ac o Antinomiaeth. Y boreu hwn breuddwydiais fod fy nghalon wedi ymddryllio o gariad (at Rowland); ei fod yntau hefyd felly, ac i ni syrthio ar yddfau ein gilydd." Ymddengys i'w freuddwyd Ymddengys i'w freuddwyd effeithio yn ddwys ar ei feddwl, am y credai mewn breuddwydion fel cenadwriaethau oddiwrth Dduw. Yr oedd Daniel Rowland yn pregethu yn Abergorlech; tebygol fod Cymdeithasfa Fisol yno; ac wedi cryn betrusder, ac ymladd ag ystyfnigrwydd ei yspryd, penderfynodd Harris fyned i'w wrando. Testun Rowland oedd, Dat. ii. 17: "I'r hwn sydd yn gorchfygu y rhoddaf iddo fwyta o'r manna cuddiedig," &c. "Agorodd yn ardderchog," meddai Harris, "trwy ddangos fod pob gras yn ras gweithgar; dadlenodd gyfeiliornad yr Antinomiaid, y rhai a briodolant haeddiant i ras, ac a ddywedant eu bod yn caru Crist, tra yn byw mewn pechod." Wrth wrando, y mae Harris yn toddi; cyfid cri yn ei enaid ar iddynt allu caru eu gilydd, a deall eu gilydd yn well; a gofynai i Dduw: "Pa hyd y goddefir i mi ddwyn ffrwythau balchder, cyndynrwydd, a chnawd? Yr wyf yn clywed yr un iaith gan dy holl ffyddlon genhadau, tra y maent yn gwrthwynebu eu gilydd, a'r naill yn credu am y llall ei fod yn elyn i'r gwirionedd." Dymunai ar i'r ystorm chwythu trosodd. "Yr oedd goleuni ac efengyl yn mhregeth y brawd Rowland," meddai; "dangosai fod y rhyfel Cristionogol yn rhyfel sanctaidd; mai y Sanctaidd yw y Cadben; fod y tir ar ba un yr ymleddir, sef yr eglwys, yn sanctaidd; a'i fod i gael ei ddwyn yn mlaen trwy foddion sanctaidd. Pwy all osod allan mewn ysgrifen y bywyd a'r nerth oedd yma ?’ Sicr yw ei bod yn odfa rymus, a chafodd Harris ei orchfygu. Aeth y ddau yn nghyd i Talyllychau. "Ar y ffordd, cyflawnwyd fy mreuddwyd," meddai Harris; agorais iddo fy holl enaid; llawer o waith y gelyn a olchwyd ymaith, a daethom yn nes at ein gilydd. Dywedais wrtho fel yr oeddwn yn cyduno a'i bregeth heddyw. Dywedodd yntau ei fod yn anrhydeddu fy ngweinidogaeth, ac y rhaid i bawb gydnabod ddarfod i'r Arglwydd fy anfon, a'm harddel. Dywedais wrtho fy maich; fy mod yn teimlo nad oedd yn anrhydeddu y Morafiaid yn ddigonol, ac felly ei fod yn pechu yn erbyn yr Arglwydd. Dywedodd yn ol nad oedd yn teimlo yn gas atynt, ac y caent bregethu yn ei eglwys, ond iddynt beidio cyhoeddi eu hopyniynau neillduol. Dywedais inau, os deuent i Gymru, y gwrthwynebwn eu cyfeiliornadau; ond y gwnawn hyny yn nghariad Duw, am y tybiwn y gwyddant fwy am yr Arglwydd na myfi. Achwynai fy mod yn gwasgu yn rhy glos at y brawd Beaumont; addefais inau hyny, ond fy mod yn gwneyd er ei gymedroli, ac fel na byddai iddo gael ei droi allan oddiwrthym." Dyma y ddau Ddiwygiwr wedi ymheddychu i raddau mawr.
Pregethodd Howell Harris yn Nhalyllychau; ond pregethodd Rowland gyda nerth ac angerddoldeb neillduol, ar Dat. xii. 9. Teimlai Harris fod yr Arglwydd yn llawer amlycach yn ngweinidogaeth Rowland nag yn ei eiddo ef. "Hynod y goleuni a'r nerth sydd ganddo," meddai; trwy yr holl amser yr oedd yn llefaru, teimlwn undeb enaid ag ef, a'm bod yn nglyn wrtho. Wedin, aethum gydag ef i Gwmygwlaw. Yr wyf yn gobeithio fod yr ystorm hon trosodd. Ar y ffordd, yr oeddym yn gorfoleddu, yn neidio, ac yn canu, ac yr oeddym yn debyg i bersonau gwedi meddwi." Yr oedd y fath orfoledd yn llenwi eu mynwesau, o herwydd cael eu dwyn yn nghyd, fel nas gwyddent beth i wneyd â hwy eu hunain. Braidd nad ydynt yn ymddangos yn debyg i blant, yn eu cwerylon, ac yn eu cymod drachefn. Dywedai Harris wrth Rowland iddo bregethu yn Llundain yn erbyn y Morafiaid, ac yn Nghymru yn erbyn yr Antinomiaid, a hyny bron yn yr un geiriau ag y pregethai Rowland y dydd cynt. Meddai Harris, yn mhellach: "Cyfaddefai nad dim a glywodd genyf fi oedd wedi peri