Bu yn Llundain am ddau fis. A'i helynt yno nid oes a fynom, gan nad yw yn dal cysylltiad uniongyrchol à Methodistiaeth Cymru. Daeth yn ei ol tua diwedd mis Medi. Dranoeth i'w ddych. weliad pregethai yn Nhrefecca, ac achwyna ddarfod i'w frawd--ni ddywed pa un ai Joseph ai Thomas-wrthod dyfod i'w wrando, er ei fod yn aros gydag ef ar y pryd. Yn mhen ychydig ddyddiau yr oedd Cymdeithasfa Chwarterol i gael ei chynal yn Castellnedd, ac aeth Harris tuag yno. Yn y Glyn, ar ei ffordd tua'r Gymdeithasfa, clywodd ei fod; mewn ystyr, wedi cael ei fwrw i ffwrdd gan y brodyr, a'i fod yn cael ei bortreadu mewn lliwiau duon. Gwnaeth hyn ei yspryd yn chwerw ynddo. Yn Gelly-dorch-leithe, clywodd bregeth ryfedd gan Morgan John Lewis, ar fab yr addewid, y ryfeddaf a glywsai yn ei oes. Diolchai Harris am fod y fath oleuni yn eu mysg, ac nas gallai lai na'i anrhydeddu. Eithr yr oedd gweled fod y brodyr wedi cydymuno yn ei erbyn ef (Harris) yn pwyso yn drwm ar ei feddwl; a gofynai i'r Arglwydd ai cerydd arno am ryw bechod ydoedd hyn, ynte, ai anrhydedd a osodid arno, ac y troai eto i fod yn berl yn ei goron?
Cyfarfyddodd y Gymdeithasfa o gwmpas saith nos Fercher, a bu yn gyfarfod tra chyffrous. Caiff Howell Harris adrodd ei hanes. "Dywedais wrth y brodyr," meddai, "eu bod yn anwyl genyf fi, y gallwn olchi eu traed; a'm bod yn fodd lawn bod heb ddoniau, na llwyddiant, na gallu, er mwyn iddynt hwy gael y cwbl. Yma yr oeddwn yn ddrylliog, a thorais allan i wylo. Cyn hyn, yr oeddwn yn fy yspryd fy hun, am fy mod wedi cael fy nhemtio. Yr oeddwn wedi clywed iddynt gynal Cymdeithasfa, ryw bythefnos yn flaenorol, ac yn hono iddynt drefnu fod y brawd Rowland i gymeryd fy lle, gan roddi hawl iddo i benderfynu pwy oedd i gael ei ddanfon i bregethu, ac i ba le. Am danaf fi, trefnent fy mod i fyned i Sir Gaerfyrddin, ac na chawn fyned i Forganwg, am nad oedd derbyniad i mi yno, ac y tybiai y cymdeithasau fy mod yn pregethu cyfeiliornadau. Yna, mi a eglurais fy syniadau am berson Crist, gan ddangos nad oeddwn yn gwahaniaethu oddiwrthynt hwy, ond fod y gelyn wedi dyfod i'n mysg. Agorais yr holl fater am fy mhenodiad ar y cyntaf, y modd yr oeddynt hwy, mewn undeb â Mr. Whitefield, wedi fy newis, ond yn awr fy mod yn cael fy nhroi allan, ac nas gwn am beth, ond yn sicr fod rhyw bechod yn cael ei ffeindio ynof. Eglurais fy mod yn cael fy ngalw yn ddyn deddfol yn Lloegr, am fy mod yn pregethu yn erbyn yr Antinomiaid, a'r Morafiaid, a darfod i mi droi Mr. Cudworth allan; tra yn Nghymru, y gelwir fi yn Antinomiad, ac yn Forafiad. Pan y dywedent hwy fy mod gynt, os codai rhyw anghydwelediad rhyngof a'r brawd Rowland, yn crio, yn syrthio ar ei wddf, ac yn derbyn ei air, ond yn awr fy mod yn fwy anystwyth, dywedais nad oeddwn yn gwybod i mi ei geryddu am ddim, oddigerth ysgafnder, a'm bod yn gwybod mai myfi oedd y gwaethaf o honynt oll, ond fy mod yn cael fy nyrchafu trwy edifeirwch; ac nad oeddwn yn gwybod fy mod yn ystyfnig gyda golwg ar ddim, oddigerth eu bod am geisio fy yspeilio o'r gwirionedd yma, sef fod y Dyn hwn yn Dduw. Os oeddynt am geisio hyny, y caent fi yn ystyfnig, ond fy mod yn gobeithio nad oeddynt. Efallai ddarfod i mi yn flaenorol fyned yn rhy bell mewn darostwng fy hun (i Rowland); os do, ei bechod ef a chwithau yw eich bod yn duo fy nghymeriad, yn gwanhau fy nwylaw, ac yn pechu yn erbyn fy ngweinidogaeth, gan fy ngalw yn Antinomiad. Dangosais fel yr oeddwn i yn cyduno â phob gair a bregethent hwy, ond eu bod hwy, heb gael un achos o'r cychwyn, yn troi yn fy erbyn i. Am fy lle, nas gallaf ei roddi i fynu; fod yr Arglwydd wedi gosod o fy mlaen ddrws agored, yr hwn nis dichon neb ei gau; na feiddiwn ei roddi i fynu, am mai Duw a'm gosododd ynddo; a chan mai yr Arglwydd a'm gosododd ynddo, bydded iddynt hwy edrych ati am geisio fy nhroi ymaith. Yr wyf yn gweled yn wyf yn gweled yn awr i Satan gael caniatad i ddallu llygaid, ac i frashau calon y brodyr, gan osod y naill yn erbyn y llall. O'r fath ystorm ydyw ! Agorais drachefn am ddirgelwch Crist, a'i ddyoddefiadau; nad ydym yn gwybod pa fodd i lefaru am danynt. Pan y cyhuddent fi o addoli y gwaed, dywedais nad oeddwn yn gwahanu gwaed Crist oddiwrth ei berson, ond yn edrych arno fel rhan o hono; nas gallaf weled un rhan o hono heb weled yr oll o hono, a bod perffeithiau y naill natur yn aml yn cael eu priodoli i'r llal!. Ddarfod i Dduw farw am i'r Dyn oedd yn Dduw farw. Yna, datgenais yn erbyn John Belsher, ei fod yn ymddangos i mi yn ymchwyddo, ac nas gallwn gydweithio ag ef. Enwais leoedd yn mha rai