Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf I.djvu/371

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENOD XIV.

HOWELL HARRIS
(1747-48)

Gwaredigaeth hynod yn Llansantffraid—Amryw Gymdeithasfaoedd—Harris yn cyhuddo Williams, Pantycelyn, o bregethu yn ddeddfol—Dealltwriaeth a'r Wesleyaid—Howell Harris yn ymweled a Mon, Arfon, Dinbych, a Meirionydd—Llythyr cryf at y Parch. Edmund Jones—Taith i Orllewin Lloegr—Syr Watkin Williams Wynne yn erlid y Methodistiaid—Cymdeithasfa Llanbedr—Adroddiad am gasgliad—Cymdeithasfa Caerfyrddin—Y myfyrwyr yn rhuthro i'r Gymdeithasfa—Howell Harris yn Sir Benfro—Dadl a dau weinidog Ymneillduol.

YR ydym yn cael Howell Harris, y dydd cyntaf o'r flwyddyn newydd, yn Hwlffordd, yn Sir Benfro. Gwedi pregethu, bu mewn ymgynghoriad a'r gweinidogion Morafaidd, y rhai erbyn hyn oeddynt wedi sefydlu achos yn y dref. Tybiai mai gwell fyddai cael cynhadledd o'r Morafiaid a'r Methodistiaid, er symud rhyw feini tramgwydd. Nid oedd am undeb â hwy, ychwaith, ond am i'r ddwy blaid synio am eu gilydd mewn cariad. Tranoeth, y mae yn Longhouse, a'r noswaith hono yn Nhyddewi, lle yr oedd cynulleidfa anferth wedi ymgynull. Aeth yn ei flaen trwy Felindre, Llechryd, a Thy'r Yet, gan gyrhaedd Castellnewyddyn-Emlyn dydd Mercher, lle y cynhelid Cymdeithasfa Chwarterol. Agorwyd y Gymdeithasfa gyda phregeth gan Williams, Pantycelyn; yr oedd yn hynod felus. Yna, pregethodd Harris, yn benaf ar gyflwr y deyrnas, yn wleidyddol a chrefyddol. Bu yn Gymdeithasfa hapus drwy ddi; teimlai Harris fod ei yspryd wedi ei uno ag eiddo y brodyr am byth. Ymdriniwyd ag amryw faterion, megys cateceisio, dyledswydd y seiadau i ymgynghori a'r arweinwyr cyn derbyn neb i'w mysg i bregethu, a pheidio goddef neb i fod yn bresenol yn y seiadau ond yr aelodau. Gwedi darllen yr adroddiadau, yn mysg y rhai yr oedd cyfeiriad at y tŷ seiat a gawsai ei adeiladu yn Llansawel, a chwedi trefnu. y Gymdeithasfa ddilynol, ymadawyd yn felus. Nid oes unrhyw gyfeiriad yn cael ei wneyd at Daniel Rowland na Howell Davies; y mae yn debyg nad oeddynt yn bresenol. "Tybiaf," meddai Harris, "fy mod yn gweled pethau mawrion yn agoshau, gwedi yr ystorm a'r brofedigaeth ddiweddar, yr hon, mi a hyderaf, sydd yn agos trosodd." Dychwelodd trwy Maesnoni, Llangamarch, a Llansantffraid. Yn y lle diweddaf cafwyd gwaredigaeth ryfedd. "Yn y seiat breifat," meddai Harris, "yr oeddym i fynu y grisiau, tua dau gant o honom, a thorodd y trawst canol, fel y syrthiasom oll. Eithr ni thorwyd asgwrn i neb. Yr oedd plentyn bach yn y cryd o dan y cyfan; ond aeth estyllen ar draws y cryd, fel na chyffyrddodd dim a'r baban; yn wir, ni ddeffrodd o'i gwsg. Pe y digwyddasai bum' mynyd yn gynt cawsai llawer eu clwyfo." Aeth gyda Mr. Williams, offeiriad Llansantffraid, i'r eglwys, lle y gwrandawodd bregeth dra rhagorol. Gwedi pregethu ei hun, yn ofnadwy o ddifrifol, dychwelodd adref.

Yr wythnos ganlynol yr oedd Cymdeithasfa Fisol yn Nhrefecca. Agorwyd hi gyda phregeth gan Howell Harris, oddiar y geiriau: "Hyd yn hyn ni ofynasoch ddim yn fy enw i," &c. "Cefais yr Yspryd gyda mi yn wir," meddai, "i egluro iddynt natur cyfiawnhad; y modd yr ydym yn gyfiawn yn nghyfiawnder Crist; yn addfwyn yn ei addfwynder, ac yn ufudd yn ei ufudd-dod. Dangosais nad oes genym ddim cyfiawnder ynom ein hunain; a pha mor bell y gallwn fyned mewn gras, ac eto bod yn dra anwybodus am farwolaeth a chyfiawnder yr Iesu. Yn sicr, rhwygwyd y llen heddyw, a gwelodd llawer eu hunain yn gyflawn yn y wisg