Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf I.djvu/383

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn erlid y Methodistiaid, ac yn ceisio Iladrata eu pobl, ond hefyd yn ddraen yn ystlys ei frodyr ei hun, ac yn methu cydweithio â hwynt? Modd bynag, gwneir rhai pethau yn hollol glir yn y llythyr: (1) Dengys nad oes sail o gwbl i'r hyn a haerir gan Dr. Rees, Abertawe, a haneswyr eraill a'i canlynant, sef mai proselytiaid o fysg yr Ymneillduwyr oedd aelodau cyntaf y Methodistiaid. Dywed Harris yn bendant, fel ffaith oedd yn gyffredinol wybyddus, na ddarfu i'r Methodistiaid adeiladu ar sail yr Ymneillduwyr, na thynu pobl oddiwrthynt; ond, yn hytrach, i sefydliad seiadau yn nghymydogaeth hen eglwysi Ymneillduol, fod o fantais i'r eglwysi hyny, trwy ychwanegu eu rhif, a chynyddu eu gweithgarwch. (2) Er yr ymlynai Harris wrth yr Eglwys Sefydledig, nid oedd yn erlidgar o gwbl at y rhai a'i gadawsent. Ar yr un pryd, ofnai ddarfod iddynt gyfyngu ar gylch eu gweithgarwch trwy gefnu arni, a lleihau eu cyfleusterau i wneyd daioni. (3) Breuddwydiai fod yr Eglwys Sefydledig i gael ei lefeinio trwyddi gan y diwygiad; y deuai y pendefigion yn bleidiol i bregethu efengylaidd, ac efallai yn aelodau gweithgar o'r seiadau Methodistaidd. Nid rhyfedd, felly, ei fod yn wrthwynebol i ymneillduo oddiwrthi. Tra y byddai gobaith i'w freuddwyd gael ei sylweddoli, ystyriai mai rhedeg o flaen yr Arglwydd fyddai ei gadael.

Yr wythnos wedi iddo ddychwelyd of Ogledd Cymru, cynhelid Cymdeithasfa Fisol yn Nhrefecca. Nid oedd yr un o'r offeiriaid yno; felly, Howell Harris a lywyddai. Agorodd y Gymdeithasfa gyda phregeth, ac ymddengys iddo gael cyfarfod annghyffredin. Yn y seiat a ddilynai, anerchodd yr aelodau ar amryw faterion, ac yn arbenig cyfeiriodd eu golygon at waed Crist. "Y gwaed!" meddai; "y mae yn waed hollalluog, yn waed anfeidrol; pwy a fedr ei blymio? Y gwaed hwn a unodd fy enaid â Duw. Os oes arnoch awydd am fod yn sanctaidd, ymolchwch yn hwn. Os ydych am goncwerio pechod a Satan, dewch at y gwaed. Os ydych am fyned i'r nefoedd, cymerwch y gwaed gyda chwi." Ac wrth ei fod yn ymhelaethu ar rinwedd y gwaed, aeth yn floedd trwy y lle, nes y boddwyd ei lais yn gyfangwbl gan lefau y rhai a wrandawent. Teimlai ei fod wedi cael y fath awdurdod na chafodd yn fynych ei gyffelyb. Yr ail wythnos yn Tachwedd, cychwynodd am Lundain; pasiodd trwy Henffordd; bu mewn Cymdeithasfa berthynol i'r brodyr Saesnig yn Ross; ac ni chyrhaeddodd Drefecca yn ei ol, gwedi ei ymdaith yn y Brif-ddinas, hyd y Llun olaf o'r flwyddyn.

Tri diwrnod y cafodd fod gartref cyn ei fod yn cychwyn am daith faith i Orllewin Lloegr, yr hon oedd i barhau am fis. Torodd gwawr y flwyddyn newydd arno yn Cwmdu, lle rhwng Talgarth a Chrughywel. Dranoeth, cawn ef yn y New Inn, Sir Fynwy. Heblaw pregethu, yr oedd yn casglu at y capel newydd oedd wedi ei adeiladu yn Llanfair-muallt, ond yn groes i arfer casglwyr yn gyffredin, ni wnai dderbyn nac arian nac addewidion ar y pryd, rhag i'r rhoddion gael eu cyfranu o gariad ato ef, ac nid mewn ffydd. Yr un prydnhawn, cynhelid Cymdeithasfa Fisol yn y lle; gorchwyl penaf yr hon oedd adferu y brawd William Edward, o'r Groeswen, yr hwn a gawsai ei osod tan ddysgyblaeth, oblegyd cyfeiliornad mewn athrawiaeth. Dau gwestiwn a ofynodd Howell Harris iddo, ac y mae ffurf arbenig y cwestiynau yn dynodi syniadau neillduol yr holwr. (1) A oedd yn galonog yn medru addoli y baban Iesu? (2) A oedd yn credu fod datguddiad ysprydol o Grist i'w gael uwchlaw y wybodaeth am dano a geir yn y llythyren? Atebodd William Edward y ddau ofyniad yn foddhaol, a chafodd ei ail-sefydlu fel cynghorwr. Yn y Gymdeithasfa, hefyd, bu ymddiddan parthed priodas, am ofalu am ystafell (capel) New Inn, a derbyniwyd dau i ddechreu pregethu. Eithr derbyniodd lythyr oddiwrth ddau frawd yn ei gyhuddo o wneyd rhywbeth allan o le. Yr oedd y Gymdeithasfa yn hapus trwyddi; cydwelai ef a'r brodyr yn hollol ar bob peth. Yn Ngorllewin Lloegr ymwelodd ag Exon, Plymouth, Kingsbridge, a lleoedd eraill, ac ni ddychwelodd yn ei ol hyd ddechreu Chwefror.

Dranoeth i'w ddychweliad, yr oedd Cymdeithasfa Fisol yn Nhrefecca, ac agorodd hi gyda phregeth oddiar y geiriau: "Du ydwyf fi, ond hawddgar." Cymerodd achlysur ar ei bregeth i gyfeirio at y chwedlau anwireddus a daenid am dano gan yr Ymneillduwyr, sef ei fod yn elynol iddynt. "Yr unig reswm sydd ganddynt dros ddweyd hyn," meddai, "yw fy mod yn llefaru yn erbyn eu pechodau; ac ar yr un tir yn union gellid haeru fy mod yn elynol i Eglwys Loegr, gan fy mod yn ymddwyn yr un modd ati hithau. Ond