PENOD XV.
HOWELL HARRIS
(1749-50).
Harris yn amddiffyn James Beaumont—Dyledswyddau y goruchwylwyr—Harris yn beio seiat y Groeswen am ordeinio brodyr i weinyddu yr ordinhadau—Ei syniad am athrofa—Taith i Sir Drefaldwyn—Ymweliad arall a Llangeitho—Ymheddychu a'r Parch. Price Davies—Taith arall trwy Benfro, Caerfyrddin, a Morganwg—Parotoi at ymraniad—Harris yn ymosod ar yr offeiriaid—Pregeth nerthol yn y Groeswen—Howell Harris a Price, o'r Watford—Ffrwgwd parthed troi y goruchwylwyr allan yn yr Aberthyn—Cymdeithasfa Llanidloes—Dim yn bosibl bellach ond ymraniad.
BOREU y dydd cyntaf o'r flwyddyn 1749, cawn Howell Harris yn deffro yn Aberedw, lle y cyrhaeddasai o gwmpas un-ar-ddeg y nos flaenorol, ar ei ffordd i Gymdeithasfa Fisol Llanfair-muallt. Y mae ei brofiad wrth fyned o Aberedw i Lanfair yn haeddu ei gofnodi. "Cefais ddychryn yn fy nghalon," meddai, "rhag colli gwedd wyneb Duw; llefais yn fwy nag y gwnaethum erioed O Arglwydd, yr wyf yn ofni dy ŵg yn fwy nag uffern! Y mae arnaf fwy o ofn colli gwedd dy wyneb, rhwystro dy waith, a thristhau dy Yspryd, nag unrhyw erledigaeth. Os gwgi di, pwy all fy nghysuro?' Teimlwn yn fy enaid ofn cael doniau, llwyddiant, a nerth, rhag na roddwn yr holl ogoniant i'r Arglwydd." Yn Llanfair, pregethodd ar Luc ii. 5. Gwedi y bregeth, yr oedd seiat i'r holl aelodau. Yma yr oedd yn dra llym wrth y rhai oeddynt yn byw mewn pechod, gan ddangos iddynt fod Duw yn eu canfod, ac y gwnai eu datguddio, oni edifarhäent. Ceryddai y rhai oeddynt yn ddifater am gymdeithas a'r Arglwydd, ac yn edrych ar bechod yn fach, gan fod eu cydwybodau wedi eu halogi; ond cysurai y rhai oeddynt yn ddrylliog o herwydd eu beiau, gan fod yn barod i'w gadael. Dywedodd wrthynt mai plant y wraig rydd, sef Sarah, oeddynt, a'u bod yn perthyn i'r Jerusalem newydd. Yn nghyfarfod neillduol y Gymdeithasfa, daeth achos Beaumont i fynu drachefn; yr oedd llawer o'r cynghorwyr am ei droi allan, oblegyd heresi; ond nis gallai Harris gyduno; credai na fyddai Duw yn foddlon i hyn ar y pryd, a bod yr awydd yn codi oddiar rhagfarn y cynghorwyr. Dywedai wrthynt y gwyddai fod Beaumont yn blentyn Duw, a'i fod yn fwy ei ddawn na hwy, ac mai eu balchder oedd y rheswm am eu parodrwydd i'w ddysgyblu. Llwyddodd yn y diwedd i'w gadw i mewn. Yr oedd Howell Harris yn gyfaill diffuant. Yna, ymhelaethodd ar natur y gwaith; y modd yr oedd yn teimlo y treialon a'r beichiau perthynol iddo yn anrhydedd. Yn nesaf, aeth i Glanirfon, ffermdy yn nghymydogaeth Llanwrtyd. Pregethodd yma am y nefoedd, ac am y farn. Nis gwyr pa sut y llefarodd, ond daeth yr Arglwydd i lawr, a boddwyd ei lais yn Hosanah y gwrandawyr.
Ionawr 3, y mae yn Llwynyberllan, ac yn y seiat breifat, cynghora yr aelodau i sefydlu ysgol Gristionogol—ysgol Griffith Jones, yn ddiau ar unwaith. Ymddengys fod hyn yn genhadaeth arbenig ganddo y pryd presenol. Anoga hwy hefyd i gyfranu rhyw gymaint i'r Arglwydd yn wythnosol. Yn Llansawel, cyfarfyddodd a dyn ieuanc o ysgolfeistr, i'r hwn yr eglurodd y modd priodol o addysgu, sef cyfeirio llygaid y plant yn mlaenaf oll at Dduw, plygu eu hysprydoedd dan iau Crist, a'u hyfforddi yn ngwahanol ganghenau moesoldeb, yn gystal ag yn egwyddorion y grefydd Gristionogol. Wedi pregethu ar enedigaeth Crist, cadwyd seiat breifat. Yma ymdriniodd ag addysg plant, yr angenrheidrwydd am sefydlu ysgol Gristionogol, y pwys i'r aelodau i fod yn ddarostyngedig i'w hathrawon, a cheryddodd hwy yn llym am na pharchent James Williams, eu harolygwr, fel yr oeddynt yn ei barchu ef, a Daniel