ter hwnw a fu y diwedd, a thynerodd Phillips gryn lawer ar y frawdoliaeth, trwy ddweyd fod Beaumont yn credu yn y Drindod. Gwedi hyny, trefnwyd nifer o faterion, a cheryddwyd rhyw frawd am ysgrifenu yn erbyn Griffith Jones, ac ymyraeth mewn mater nad oedd yn perthyn iddo. Y mae y brawddegau nesaf yn y dydd-lyfr yn haeddu eu croniclo: "Ar hyn, aeth y brawd Rowland, a'r brawd Price i ffwrdd, ac yn uniongyrchol daeth yr Arglwydd i lawr. Dangosais iddynt, i bwrpas, anfeidroldeb a gogoniant y gwaith; eglurais fel y mae yn ymledu, ac os byddai i'r cynghorwyr fod yn ffyddlawn ar ychydig, y caent eu dyrchafu i fod yn dadau. Cyhoeddais, yn ngwydd pawb, anfeidroldeb a gogoniant Crist; mai ofer fyddai ceisio ei wrthwynebu; bum yn llym at un a'i gwrthwynebai, ac a edrychai arno yn gnawdol. Gwelwn, a dangosais hyny i'r brodyr, nad oedd Duw yn dyfod i lawr atom, hyd nes i Rowland a Price, &c., ymadael, ac mai eu hanghrediniaeth a'u hunanoldeb yn y mater hwn oedd yn cadw Duw i ffwrdd." Yn sicr, yr oedd y sylw hwn yn un tra angharedig, ac yn dangos yspryd wedi myned yn mhell allan o'i le.
Cyn ymadael o'r New Inn, cafodd Howell Harris ymddiddan maith drachefn â Rowland, Price, a Howell Davies. Dywedasant wrtho fod Whitefield wedi anfon atynt gyda golwg arno, ac am ei syniadau; a'i fod ef (Whitefield) am yru y pregethwyr atynt hwy. Dadleuai Harris o blaid Beaumont, ond ni fynent wrando arno yn y pwnc hwn. Eithr, wrth ymddiddan, daethant gryn lawer yn nes at eu gilydd, a thynerodd y naill at y llall. Rhybuddiai Harris hwy am gadw yn nes at Dduw; ceisiai ganddynt gael cyfarfod yn breifat, ac i'r naill agor ei galon i'r llall, a dweyd beth a welent allan o le yn eu gilydd. Achwynai fod Daniel Rowland yn erbyn y Morafiaid, ac yn erbyn y Wesleyaid; ei fod ef (Harris) yn gweled canlynwyr Whitefield a Wesley fel dwy gangen o'r eglwys ddiwygiedig. Wedi dangos y dylent deimlo beiau eu gilydd fel eu beiau eu hunain, a bod eu gwaith yn duo eu gilydd yr un peth a phe y duent eu hunain, chwythodd yr ystorm heibio, ac wrth ganu emyn, teimlent fod yr Arglwydd yn eu mysg.
Yr oedd dau ddylanwad tra niweidiol ar Howell Harris yr adeg hon, y rhai ni fynai, er pob cynghori a rhybuddio, eu hysgwyd i ffwrdd. Un oedd dylanwad James Beaumont. Ymddengys fod Beaumont yn bresenol, nid yn unig wedi cyfeiliorni yn mhell oddiwrth y ffydd, ond ei fod yn ogystal wedi ymlenwi o falchder, a'i fod, hyd y medrai, yn ceisio troi calon Harris oddiwrth y rhai y buasai yn cydweithio â hwy o'r cychwyn. Pe y buasai yn cydsynio i daflu Beaumont dros y bwrdd yn Nghymdeithasfa y New Inn, fel y dylasai, yn ddiau, buasai yr ystorm yn tawelu ar unwaith. Ond ni fynai; yr oedd yn benderfynol o gadw Jonah yn y llong. Y dylanwad niweidiol arall arno oedd eiddo y wraig a honai yspryd prophwydoliaeth. Credai am hon, ei bod wedi ymddyrchafu yn uwch i'r goleuni dwyfol na neb ar y ddaear, ond efe ei hun; fod gan yr Arglwydd waith dirfawr i'w gyflawni yn Nghymru, trwyddo ef a hithau, a bod pob gwrthwynebiad iddi, yn wrthwynebiad yn erbyn ewyllys Duw. Yr oedd hithau yn ddichellgar, yn llanw ei fynwes â rhagfarn yn erbyn ei frodyr. Yr oedd wedi prophwydo, meddai Harris, y byddai iddo ymwahanu oddiwrth Mr. Whitefield; ac hefyd, y darfyddai pob undeb rhyngddo â Daniel Rowland. Cymerai arni yn awr, ei bod wedi cael datguddiad, y byddai efe yn fuan yn ben ar yr holl bregethwyr a'r seiadau yn Nghymru. Ysgrifenai ato o Lundain, i'w rybuddio i fod yn ffyddlon i bregethu y Dyn Iesu; ac edrychai yntau ar y rhybudd fel cenadwri uniongyrchol oddiwrth yr Arglwydd. Gwnaeth dylanwad y ddynes gyfrwys a rhagrithiol hon niwed dirfawr iddo; parodd anghysur yn ei deulu; a rhoddodd achlysur i'w wrthwynebwyr i daenu chwedlau anwireddus ar led gyda golwg ar burdeb ei fuchedd. I'r chwedlau hyn nid oedd rhith o sail; ni fu dyn ar wyneb y ddaear yn fwy rhydd oddiwrth lywodraeth nwydau anifeilaidd; y mae tôn ysprydol ei gyfeiriadau at y ddynes, yn ei ddydd-lyfr, yn brawf o'r goleu yn mha un yr edrychai arni. Ni fuasem yn cyfeirio at ei dylanwad arno yn awr, oni bai ei fod yn hollol sicr fod ganddi law fawr yn nygiad oddiamgylch y rhwyg rhyngddo ef a'i gymdeithion, a'i gyd-lafurwyr.
Ychydig o ddyddiau y bu Howell Harris gartref cyn cychwyn ar daith i Sir Benfro. Nis gallwn fanylu ar y daith hon, eithr cyfeirio yn unig at rai pethau o ddyddordeb cysylltiedig â hi. Yn Llandilo Fawr, cyfarfyddodd â Daniel Rowland, eithr ychydig o'r hen gyfeillgarwch a ffynai rhyngddynt. "Nid wyf yn cael nemawr