Yn Llanfair-muallt, cymerodd Beaumont y naill du, a cheryddodd ef yn llym am. ddefnyddio geiriau Groeg wrth bregethu. "Gŵyr pawb," meddai, "nad ydych chwi yn gwybod Groeg. Balchder yspryd sydd yn eich cyffroi. A phe baech yn ei wybod, mor ffol fyddai dangos hyny wrth bregethu? Y mae arnaf ofn ei fod yn myned o flaen cwymp. Yr ydych wedi llygru yr holl bregethwyr, ac er fod goleuni yr efengyl genych, Iuddew ydych o ran yspryd, ac yr ydych yn annheilwng o'r wyn, ac o Grist.' Medrai Harris geryddu Beaumont ei hun, ond ni oddefai i neb arall wneyd. Eithr wrth glywed ei gyfaill yn pregethu yn Llansantffraid am ddyndod Crist, gwelai ei fod yn mhellach yn mlaen nag efe yn ngwybodaeth ffydd, a daeth awel nerthol dros ei yspryd, a thros y cyfarfod. Oddiyno aeth i Lanidloes. "Mor fuan ag y daethum i'r dref," meddai, teimlwn y diafol yn bwysau anferth ar fy yspryd, fel yr oedd yn rhaid i mi floeddio am fy mywyd: 'Gogoniant am waed yr Oen!' er cadw fy nhymer yn ei lle." O fewn ei yspryd, y mae yn debyg, y gwaeddai. Agorwyd y Gymdeithasfa gyda phregeth gan Peter Williams, ar drueni dyn. Dywedai ei fod yn gyfreithiol farw, tan ddedfryd tragywyddol ddamnedigaeth, ac yn elyn i Dduw; fod y drws o gymundeb rhyngddo â Duw wedi cael ei gau; ond fod Crist wedi dyfod er ein llwyr brynu. Ymddengys ei bod yn odfa nerthol, ond ofnai Harris mai ychydig oedd efe, a'r gwrandawyr eraill, yn deimlo o fin y gwirionedd. "Yna," meddai, "aethum i giniaw, ond yr oedd Mr. Rowland, a Williams, mor Ilawn o elyniaeth, ac, fel yr wyf yn meddwl, o falchder, ac o hunan, fel y bu raid i mi ddweyd wrtho, y gallwn rodio gydag ef fel brawd, ond nad oedd wedi cael ei osod fel archesgob drosof fi, nad oedd ganddo un awdurdod oddiwrth Dduw na dyn arnaf, ac na wnawn blygu iddo mewn un modd. Dywedais yr un fath am Williams." Pa beth a atebasant, nis gwyddom. Yna, aeth Harris i bregethu; ei destun oedd, I Cor. ii. 2: "Canys ni fernais i mi wybod dim yn eich plith, ond Iesu Grist, a hwnw wedi ei groeshoelio." Cafodd afael anghyffredin ar weddi. Yna, dangosodd fod llawer o bethau yn dda yn eu lle, ond fod yr apostol yn troi ei lygaid oddiwrthynt i gyd at Grist croeshoeliedig, fel at ganolbwynt; fod y wybodaeth sydd yn Nghrist yn egluro natur y cwymp, anfeidroldeb yr angen cysylltiedig, anfeidrol ddrwg-haeddiant pechod, a gwirioneddolrwydd uffern; a bod y perygl o wrthod Crist yn fawr. "Yna," meddai, "cyhoeddais athrawiaeth y gwaed, a daeth Duw i lawr, tra y dangoswn mai trwy y gwaed y cawsem ein prynu, a'n dwyn yn agos at Dduw. Gwedi hyn, aethom yn nghyd (i gyfarfod neillduol y Gymdeithasfa), a'r Arglwydd a gadwodd y diafol yn rhwym mewn cadwyn; cawsom lonyddwch; teimlwn yn fy yspryd ein bod yn cael buddugoliaeth trwy ffydd; penderfynasom y teithiau yn Ngogledd Cymru, ac amryw faterion eraill, a gosodasom ddau bregethwr i'r Gogledd. Mor fuan ag yr aeth Mr. Rowland allan, daeth Duw i lawr yn ogoneddus; gosodwyd fy yspryd yn rhydd, a dangosais iddynt ogoniant yr Iachawdwr, gan eu hanog i edrych arno, i fod yn un ag ef, ac i adeiladu eu heneidiau arno." Yr oedd y Gymdeithasfa yn parhau dranoeth, ond ymadawodd y ddau bregethwr o Ogledd Cymru, a siarsai Harris hwy i wylio yn erbyn hunan, a balchder, ac i arwain y bobl at Grist. Yn y cyfarfod neillduol, ymosododd Howell Harris yn enbyd ar Morgan John Lewis, gan ei gyhuddo of feddu gwybodaeth pen yn unig; "cyfodwyd fy llais a'm hyspryd," meddai, “yn erbyn y diafol oedd yn ei yspryd ef; a chwedi i dri dystiolaethu yn ei erbyn, dywedais wrtho na chaffai bregethu gyda mi, oni ddeuai i lawr, ac addef ei fai." Yna, dywed iddo drefnu nifer o faterion, ac anerch y cynghorwyr, gan ddangos ei fod wedi cael ei osod gan Dduw yn dad y Gymdeithasfa.
Felly y terfynodd Cymdeithasfa Llanidloes, yr olaf i Harris a Rowland fod ynddi yn nghyd. Dengys yr adroddiad fod Howell Harris yn cario pob peth o'i flaen. Yn Siroedd Trefaldwyn, Maesyfed, a Brycheiniog, efe oedd y mwyaf ei ddylanwad o lawer; mewn Cymdeithasfa, lle yr oedd y nifer amlaf o'r cynghorwyr yn dyfod o'r siroedd hyn, gallai wneyd fel y mynai; nid gwiw i'r offeiriaid ei wrthwynebu, ac ymddengys i Daniel Rowland ymadael, gan roddi y maes iddo. Gwedi i'r offeiriaid fyned yr oedd fel brenhin yn mysg llu; yr oedd y pregethwyr yn ufudd iddo, ac yntau yn cael trefnu pob materion yn ol ei ddoethineb a'i farn. Nid rhyfedd, felly, ei fod ar uchel fanau y maes. siarad yn fanwl, ni chymerodd ymraniad ffurfiol le yn Llanidloes; nid yw yn ymddangos i ddadleuon poethion iawn gym-