Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf I.djvu/420

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Urim a'r Thumim. (5) Am na feddant fywyd i ymborthi ar Grist. (6) Am eu (6) Am eu bod yn dirmygu athrawiaeth y cnawd a'r gwaed hwn; ac yr wyf finau yn caru y cnawd a'r gwaed anfeidrol ac anwyl hwn mewn gwirionedd." Pa beth a olyga wrth yr "Urim a'r Thumim," nis gwyddom, os nad y ffug-brophwydes. Ar y nawfed o Orphenaf, cawn ef yn cadw seiat yn Llwynyberllan, a chwyna yn enbyd fod y seiadau wedi myned yn ffurfiol, yn gnawdol, ac yn fagwrfa i falchder; ond dywed ei fod ef yn foddlon ymweled â hwy cyhyd ag y byddai ei ymweliadau yn dderbyniol, ac o fendith. Dranoeth, yn Cefnygweision, cofnoda iddo ddyfod allan yn fuddugoliaethus o'r rhyfel poethaf y buasai ynddo erioed. Ymddengys i Daniel Rowland ag yntau gyfarfod, efallai yn Llwynyberllan, ac iddi fyned yn ymrafael chwerw rhyngddynt. Cyhuddai Rowland ef o fod wedi syrthio oddiwrth ras, o gyfnewid yn barhaus, o dalu sylw yn unig i ranau o'r Ysgrythyr, ac o'r gwirionedd am berson Crist, ac nid i'r oll, o droi pobl allan o'r seiadau mewn nwyd, o ymranu oddiwrthynt, ac o ddweyd nad oes dros chwech yn Nghymru yn adnabod yr Arglwydd. Atebai Harris ei fod yn ofni nad oedd

LLANTRISANT, SIR FORGANWG.
Lle y cynhaliwyd Cymdeithasfa gyntaf plaid Rowland.]


Rowland a'i blaid yn adnabod yr Arglwydd, a'u bod yn elynol i'r gwaed; eu bod yn wrthwynebol i bob peth oedd o Dduw; ac nad oeddynt yn eu pregethau yn myned i ddyfnder yspryd y bobl, ond eu bod yn appelio yn benaf at y pen a'r teimlad, ac felly fod y gwrandawyr yn myned yn ysgafn ac yn gnawdol. Dywedai, yn mhellach, ddarfod iddynt trwy gydgyfarfod, ac ymwrthod ag ef, ei gau allan o'r tŷ (y capel) yn Nghilycwm. Dengys y nodiad hwn nad oedd y seiat yn Nghilycwm, fel y cyfryw, wedi ei wahodd yn flaenorol i gymeryd ei gofal, eithr rhyw bersonau ynddi. Poenus tu hwnt yw gweled y ddau hen gydlafurwr wedi myned mor chwerw yn erbyn eu gilydd, yn benaf trwy annealltwriaeth; ond dengys yr ymddiddan o ba bethau y cyhuddent eu gilydd.

Yn mhen wythnos gwedi, sef Gorph. 17, clywodd am farwolaeth James Beaumont. Ymddengys iddo farw yn sydyn, ond awgryma y cofnodiad iddo farw yn ei gartref, yn Sir Faesyfed; ac nid oes unrhyw awgrym yn cael ei roddi iddo gael ei osod i farwolaeth gan elynion yr efengyl. Ei eiriau diweddaf, medd y dydd-lyfr, cyn i'w yspryd ddianc at ei