Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf I.djvu/422

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wanegodd ei fod yn foddlon mentro ei dragywyddoldeb ar yr yspryd oedd yn gweithio ynddo, a chyffelybai hwythau i Cora, Dathan, ac Abiram.

Dywed y cofnodau: "Dyma y Gymdeithasfa gyntaf a gynhaliwyd wedi i'r pedwar offeiriad a'r un-pregethwr-ar-ddeg gyfarfod, i ddatgan yn erbyn athrawiaeth ac yspryd y brawd Harris. Cyfarfyddasom ninau i ddysgwyl wrth yr Arglwydd, i gael gweled beth a ellid wneyd, gan fod yr holl waith agos wedi sefyll. Teimlodd pawb rywbeth na chawsent mewn Cymdeithasfa erioed o'r blaen, a gwelsant fod ein Hiachawdwr wedi gosod i lawr sail gwaith pwysig. Yr oedd cymaint a hyn drachefn wedi uno, ond ni fedrent fod yn bresenol oblegyd amgylchiadau. Gellid meddwl fod gwedd newydd ar bethau. Yr ydym yn awr mewn gobaith o weled gogoniant yr Iachawdwr, dysgyblaeth ei Yspryd, a bywyd ffydd yn cael ei ddwyn i mewn i'r diwygiad, ac yspryd mwy catholig at bawb; ac o weled doethineb a balchder dyn yn cael eu halltudio unwaith eto, ac enw Crist yn cael ei ddyrchafu yn ein mysg. Wedi y bregeth ar, Ni a welsom ei ogoniant ef,' wrth ein bod yn canu mewn modd buddugoliaethus, daeth yr Arglwydd i lawr i ddatgan rhyfel yn erbyn y pregethwyr eraill oeddynt wedi ymgynghori yn erbyn Duw, ei angau, a'i Yspryd. Rhoddodd yr Arglwydd i ni un galon; ond pan y cawsom nad oedd yr Yspryd yn rhedeg mor rhydd yn mysg y brodyr ieuangaf, rhag iddynt gymeryd tramgwydd oddiwrth Madam Griffiths, archasom i bawb agor eu calonau gyda golwg arni." "Madam Griffiths" oedd y ffug-brophwydes, ac yr oedd wedi dyfod i St. Nicholas i'r Gymdeithasfa. Agorodd Harris ei holl hanes, y modd yr oedd wedi cael ei gwneyd yn fam yn Israel, nad oedd wedi cael cymaint ffydd yn neb arall, ddarfod iddi brophwydo am yr ymraniad hwn cyn ei ddyfod, a'i bod wedi bod o ddirfawr gymhorth iddo ef i wasanaethu mewn ffydd yn yr Arglwydd. Dywedai fod tri math o oleuni, sef goleuni natur, goleuni prophwydoliaeth, a goleuni ffydd, yn gweddnewid ac yn cymeryd meddiant o'r hyn a ganfyddwn. Mewn canlyniad i eglurhad Harris, dywedodd y naw brawd y ceir eu henwau yn mlaenaf ar y rhestr, ddarfod iddynt gael eu temtio; ond eu bod wedi cael eu hargyhoeddi yn yr Arglwydd ddarfod i Madam Griffiths gael ei chyfodi i fod yn Llygad iddynt, i'w bendithio yn yr hyn yr oeddynt yn ddiffygiol ynddo, ac hefyd i ddarganfod yr ysprydion, ac i gael meddwl Crist yn eu plith. Mewn canlyniad, cydunwyd i anfon am dani i'r Gymdeithasfa, i'w cynorthwyo yn eu hymdriniaeth â gwahanol achosion.

Yn nesaf, cafwyd helynt gyda rhyw frawd, a elwir yn "Old Adams." Dywed y cofnodau ei fod wedi cael ei dwyllo gan ddiafol, a darfod iddo ddyfod i'r Gymdeithasfa i'w dolurio a'u rhwystro. "Dywedais wrtho," meddai Harris, "os oedd John Wesley a George Whitefield yn cynyg eu seiadau, yr awn a'r mater at yr Arglwydd. Eithr pan orchymynwyd iddo fyned allan, dechreuodd ruo; fy yspryd inau a ddyrchafwyd, a gelwais ef yn dwyllwr, yn elyn Duw, ac yn aubrophwyd; ac yn enw yr holl frawdoliaeth mi a'i hesgymunais ef." Y mae y geiriau nesaf yn y cofnodau o'r dyddordeb mwyaf: Yna, daeth Mr. Peter Williams i'r cyfarfod; yr oedd am aros i mewn, ond ni wnai uno." Anhawdd dweyd beth oedd amcan ei ddyfodiad, ai ceisio cyfryngu rhwng y ddwy blaid cyn i bethau fyned yn rhy bell, ynte ceisio gwybodaeth ychwanegol am y materion mewn dadl. "Datganasom ein penderfyniad i beidio uno (a phlaid Rowland) hyd nes y byddai i'r brodyr ymranedig edifarhau, a chael eu dwyn at yr Arglwydd. Dangosais y tri pheth yn mha rai yr ydym yn gwahaniaethu. Y maent hwy yn pregethu Crist yn benaf i'r pen, ac y maent yn erbyn gogoniant ein Hiachawdwr, yr hwn a geisiwn ni ei osod gerbron y bobl. (2) Y maent hwy yn adeiladu ar hen syniadau, ac ar brofiad; yr ydym ninau yn cyffroi yr eneidiau i grediniaeth barhaus yn yr Arglwydd. (3) Yr ydym ni am ddysgyblaeth wirioneddol yr Yspryd, tra y maent hwy wedi cilio oddiwrth yr Arglwydd, a geill eneidiau wrando arnynt yn barhaus, heb gael eu deffro i ganfod pechadurusrwydd angrhediniaeth, hunangyfiawnder, deddfoldeb, a pheidio ymborthi ar yr Arglwydd. Mynegasom, yn mhellach, mai ein pwynt yw nid pwy a fydd fwyaf, ond pwy a fydd leiaf. Dywedodd y brawd Harris ei fod yn gweled ei hun y gwaelaf o'r brodyr, ond fod gwahaniaeth rhwng gweithwyr (yn yr eglwys) ag aelodau preifat; fod rhai yn fabanod, eraill yn ieuainc, ac eraill yn dadau; a bod gwahanol ddoniau, a graddau o ffydd, a gwahaniaeth yn yspryd y pregethwyr; a'n bod yn syrthio gerbron yr Arglwydd i weled lle pob un. Dywed