ddadleu drachefn. Amheuai Richard Tibbot hawl benywod i lefaru yn gyhoeddus. Dygodd hyn Howell Harris i fynu; dywedai y dylent nid yn unig ei goddef, ond teimlo yn fraint ei chael; ei bod yn golofn o oleuni, a bod y dystiolaeth wedi ei selio yn ei chalon. Boddlonodd Tibbot. Teimla Harris iddynt gael Cymdeithasfa fendigedig, mai yn awr yr oedd y gwaith yn dechreu mewn gwirionedd, fod y brodyr eraill yn yr anialwch, eu bod fel Saul, wedi colli y deyrnas, a'u bod yn defnyddio moddion cnawdol i dynu pobl atynt. Ychwanega ddarfod i James Relly, George Gambold, John Harry, a John Harris, y tri diweddaf o Sir Benfro, ymuno â phlaid Harris dair wythnos gwedi y Gymdeithasfa; a bod llawer yn Siroedd Fflint, Dinbych, Meirionydd, Môn, a Chaernarfon, wedi uno, ond nad oeddynt eto wedi eu gosod mewn trefn.
Ar y dydd cyntaf o Hydref, cychwynodd am Sir Benfro, gan alw ar ei daith yn Llwynyberllan, a Chaerfyrddin, a rhai lleoedd eraill, ac yr oedd John Sparks, a Madam Griffiths yn gymdeithion iddo. Ar y ffordd, eglurodd iddynt y cynllun o ffurf-lywodraeth oedd wedi dynu allan i'r seiadau a lynent wrtho. Yn mlaenaf, yr oedd Cymdeithasfa Gyffredinol i gael ei chynal, cynwysedig o efengylwyr, cynghorwyr, ac henuriaid, tua haner cant mewn rhif, o wahanol ranau y wlad. Ei gwaith fyddai rhoddi math o gymeradwyaeth gyffredinol i'r hyn oedd wedi ei benderfynu yn flaenorol mewn cylch mwy mewnol; ac yr oedd pob aelod o honi i gael cyfleustra i ddangos y goleuni oedd ynddo. Yn mhellach, ynddi yr oedd ceryddon cyhoeddus, a dysgyblaeth gyhoeddus i gael eu gweinyddu, a phob mater a ddaliai gysylltiad a'r holl Gorph i gael ei drafod. Yn nesaf, yr oedd Cymdeithasfa fwy mewnol i fod, cynwysedig o tua phump-ar-hugain o efengylwyr a henuriaid. I hon dysgwylid i bob aelod i ddyfod a holl gynyrch ei sylwadaeth, gyda golwg ar achosion tymhorol ac ysprydol, i'w lledu gerbron yr Arglwydd; ynddi yr oedd materion i gael eu penderfynu cyn eu dwyn i'r Gymdeithasfa Gyffredinol; ynddi hefyd yr oedd y pregethwyr i gael eu harholi a'u derbyn, gwahanol achosion i gael eu gwrandaw a'u penderfynu, a chyfarwyddiadau i gael eu rhoddi parthed priodas a dysgyblaeth. Yn drydydd, yr oedd corph mwy mewnol drachefn i fod, cynwysedig o'r efengylwyr oeddynt dadau, y rhai yr oedd meddwl Crist ganddynt, ac a oeddynt yn byw gydag ef, ac felly a feddent synwyrau ysprydol wedi cael eu hawchlymu, fel y gallent wahaniaethu rhwng gwirionedd a thwyll. I'r corph mwyaf mewnol hwn yr oedd achosion o anhawsder i gael eu dwyn, ynddo y profid yr ysprydion, yr amlygid y pethau mwyaf dirgel, ac y penodid i bob un y lle yn mha un y mynai yr Arglwydd ei osod. Meddai Harris: "Y corph hwn yw bywyd a chalon y Gymdeithasfa fewnol, ac hefyd y Gymdeithasfa Gyffredinol, yn nghyd â holl gyfanswm yr eneidiau sydd wedi cael eu gosod dan ein gofal." Gwelir fod y cynllun hwn o ffurf-lywodraeth eglwysig yn ei feddwl yn y Gymdeithasfa yn Llanfair-muallt, er mai yn awr y gwna ei datguddio, ac mai er mwyn ei roddi mewn gweithrediad y cynhaliwyd arholiad ar y cynghorwyr yno, ac y cawsent eu rhanu yn dri o wahanol ddosparthiadau. Bu yn Sir Benfro am bythefnos, gan wneyd ei oreu i ddwyn seiadau y sir i berthyn i'w blaid, yn yr hyn y cynorthwyid ef yn zêlog gan John Sparks. Gwnelai ei gar. tref yn Hwlffordd, ac oddiyno elai ar wibdeithiau i'r holl wlad o gwmpas. Mynega iddo gael ei siomi yn enbyd na ddaeth John Harry, y cynghorwr, ato yn St. Kennox; i'w absenoldeb ei wanu fel brath cleddyf. Gwelir felly nad cywir y nodiad yn nghofnodau Cymdeithasfa Llanfairmuallt am y cynghorwr hwn. Un noson, yn y seiat breifat yn Hwlffordd, daeth y diafol i mewn. Dangosodd ei bresenoldeb trwy beri i rywun holi parthed y priodoldeb o fyned i wrando Howell Davies yn pregethu. Nid oedd Harris yn barod i ateb, felly ceryddodd y dyn am ofyn y fath gwestiwn. Dywedai ei bod yn rhy hwyr i ymdrin a'r mater y noson hono; nad oedd neb i lefaru ond efe, ac mai efe, am y pryd, oedd genau Duw. Dywedodd, yn mhellach, fod y mwyafrif o'r cynghorwyr a'r aelodau perthynol i dŷ cwrdd Hwlffordd yn cydweled ag ef; ond yn hytrach. nag ymladd, os byddai y blaid arall yn ei hawlio, yr ai efe a'i ganlynwyr allan i'r heol. Yr un seiat cyfododd anghydwelediad rhyngddo à John Sparks, a Madam Griffiths, am fod y ddau yn sibrwd wrth eu gilydd pan fyddai ef yn siarad yn y Gymdeithasfa. Mor ddolurus oedd ei deimlad fel y gadawodd y cyfarfod a'r dref yn ddisymwth, gan fyned tua St. Kennox. Yno, holai ei hun ai nid oedd gwaith Madam Griffiths ar ben, neu ynte, ai nid