Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf I.djvu/430

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Gwrthddadl Felly, yr ydych yn dal syrthiad oddiwrth ras? Nac ydym; nis geill y rhai sydd ar y graig syrthio, ond pwy ydynt? Yr ydym yn galw llawer yn frodyr na wna Duw arddel. Rhaid i mi siarad yn blaen wrthych; nid yw o un pwys genyf beth a ddywedir am danaf, oblegyd nid trosof fy hun yr ydwyf wedi dod, eithr dros yr Arglwydd.' Dywedais, yn mhellach, mai Diwygwyr yn yr Eglwys ydym, ac nad oeddym yn eglwys nac yn sect ar wahan."

Diau fod y bregeth hon yn esiampl bur deg o'i genadwri yr adeg yma at seiadau Gogledd Cymru. Prydnhawn y Sul, aeth i dref Wrexham, lle y pregethodd oddiar y geiriau: "A thrwy ei gleisiau ef yr iachawyd ni." "Odfa gyda llawer o ryddid mewn modd syml," y geilw hon. Aeth yn ei ol i Mwnglawdd nos Sul, lle y pregethodd drachefn. Gwedi y bregeth, cadwodd seiat breifat, a siaradodd yn hir ar enedigaeth, dyoddefiadau, a gwaed Duw. "Llefais," meddai, "ychydig, yn ol pob tebyg, a gaiff Duw yma yn foddlon i gymeryd eu dysgu ganddo, tra y bydd eraill, ar ol iddynt ei brofi am lawer blwyddyn, a'i gael ef yn ffyddlon, yn ei adael, gan ymddiried yn eu doethineb eu hunain, ac yn eu cof, ac mewn llyfrau. Yr oedd y gogoniant yma, a daeth yr Arglwydd i lawr mewn gwirionedd, i gadarnhau yr eneidiau. Gwedi hyn, bum gyda'r pregethwyr hyd ddau o'r gloch y boreu, agorwyd fy ngenau yn wir i roddi gofal yr eneidiau yn y lle yma iddynt, yn yr un geiriau ag y gwnaeth Paul i henuriaid Ephesus. Eto, nid myfi a lefarai, eithr yr Arglwydd ynof fi." Dydd Llun, cawn ef yn Llansanan, a phregethodd, gyda chryn ryddid, i ychydig o eneidiau syml oeddynt yn barod i wrando yr efengyl. Nos Lun, y Nos Lun, y mae yn yr Hen Blas, ac yn pregethu oddiar y geiriau: "Gwir yw y gair, ac yn haeddu pob derbyniad." Ei destun yn y Plasbach, boreu dydd Mawrth, oedd: "Wele yr wyf yn sefyll wrth y drws ac yn curo.' Dywed fod awdurdod rhyfedd yn cydfyned a'i eiriau. "Dangosais i bwrpas," meddai, "fel y mae yr Ysgrythyr yn dwyn tystiolaeth i ogoniant y Dyn hwn; nad digon credu fod Duw ynddo, neu gydag ef, ond mai efe yw y Perffaith, a bod ei waed yn waed Duw." Ychwanega: "Y fath us sydd i'w gael yn awr yn mhob man! Y mae llawer yn cael eu taflu o gwmpas, ac yn cael eu profi, gan yr ymraniad hwn.

Ychydig yn y rhanau hyn o'r wlad sydd. wedi cael eu deffro, er fod yma lawer o bregethu." Ai ychydig wedi eu deffro fel ag i ymuno â chrefydd a olyga, ynte wedi eu deffro i ganfod pethau yn yr un goleuni ag ef, sydd ansicr.

Dydd Iau, y mae yn Waunfawr, ger Caernarfon, ac yma y cenfydd, am y tro cyntaf, bamphledyn Daniel Rowland. "Neithiwr," meddai, "gwelais gyhuddiad yr anwyl frawd Rowland yn fy erbyn, sef fy mod yn dal pedair o heresiau; gwadu y term Person,' dal i'r Tad ddyoddef ac i Dduw farw, fod corph Crist yn hollbresenol, a'm bod wedi ymchwyddo. Pwysais y cyhuddiadau hyn gerbron yr Arglwydd, a chefais fy mod yn ddieuog." Nid ydym yn sicr beth a olyga wrth "ddieuog." Prin y gallai wadu ei fod yn dal rhai o'r athrawiaethau a dadogir arno gan Daniel Rowland; defnyddiai yr ymadrodd am farwolaeth Duw yn fynych wrth bregethu yn ystod y daith hon; efallai mai ei feddwl yw nad oedd y golygiadau y dywedir ei fod yn eu coleddu yn heresiau. Ond y mae yn amlwg fod ei deimlad at Rowland yn dyfod yn llai dolurus. "Yr oeddwn yn ofidus," meddai, "ddarfod i'r brawd Rowland ysgrifenu fel hyn; byddai yn dda genyf pe bai yn cymeryd y papyr, ac yn ei olchi yn y gwaed, a'i gyflwyno i'r Arglwydd." Dydd Gwener, aeth i Leyn, i Brynengan, yn ol pob tebyg, a phregethodd oddiar Zecharias xii. 10. Yn y seiat breifat, dangosai fod yr Arglwydd wedi dyfod i'w mysg a'i wyntyll, ac aeth fanwl ac yn yn helaeth dros ei hanes ei hun o'r cychwyn, yn nghyd ag achos yr ymraniad rhyngddo a phlaid Rowland. Dydd Sadwrn, mae mewn lle yn Sir Fôn, o'r enw Ysgubor Fawr; ei destun yw: "Yn y byd gorthrymder a gewch." Yma, cafodd ei daro yn glaf, fel y methodd fyned yn ei flaen i Lanfihangel, fel yr arfaethasai; dywed, hefyd, ei fod yn isel ei yspryd. Medrodd fyned yno y Sul, modd bynag, a phregethodd am anfeidroldeb dyoddefiadau Crist. Dydd Mawrth, cawn ef eto yn Waunfawr, yn troi ei wyneb tuag yn ol. "Yn awr," meddai, "yr wyf yn troi fy wyneb o'r Gogledd am gartref, gwedi cyflawni gwaith fy Arglwydd, yr wyf yn gobeithio, ac wedi gosod yn nghyd ychydig feini, gan wahanu rhwng y credinwyr a'r annghredinwyr, a'i gwneyd yn hawdd i'r rhai sydd yn y ffordd i dyfu." Y mae y frawddeg nesaf yn cyfeirio at rywbeth a'i cyfarfyddodd, nas gwyddom