Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf I.djvu/444

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

bai fod rhyw gamddealltwriaeth wedi bod am y cyhoeddiad. Wrth bregethu, cyfeiriodd am y dymunoldeb o gael undeb rhwng y gwahanol bleidiau crefyddol, mai brodyr oeddynt, a'u bod i dreulio tragywyddoldeb yn nghwmni eu gilydd. Wrth ymddiddan â Mr. Howell Davies, yr hwn yntau oedd wedi dyfod i'w wrando, am y priodoldeb o gael John Wesley ac un o'r Morafiaid i fyned trwy y wlad gydag ef (Harris), deallodd fod meddwl Mr. Davies yn rhagfarnllyd yn erbyn. Dranoeth, aeth i Woodstock, lle yr oedd capel wedi ei adeiladu, a phregethodd gyda nerth oddiar y geiriau: "Trowch eich wynebau ataf fi, holl gyrau y ddaear, fel y'ch achuber." Yn nghwmni y cynghorwr John Harry, aeth i Mounton, ac yna i Lacharn, ac achwyna ei fod yn dra egwan o ran ei gorph. Yma yr oedd yn nghymydogaeth Llanddowror, ond yr oedd ei hen gyfaill, yr Hybarch. Griffith Jones, wedi noswylio er ys dwy flynedd. Eithr galwodd i weled Madam Bevan; ceisiodd siarad â hi am amryw bethau perthynol i grefydd, ond nid oedd yn barod i gofleidio ei syniad ef parthed cael undeb rhwng yr oll o bobl yr Arglwydd, ac yr oedd yn gryf yn erbyn pregethu lleygol. Gwrthododd giniawa gyda Madam Bevan, a brysiodd i Gaerfyrddin, lle y pregethodd am ddwy awr glir, gydag awdurdod, a bywyd, ac effeithioldeb, i dorf o amryw filoedd, oddiar y geiriau: "A thi a elwi ei enw ef lesu." Yn hwyr yr un dydd, pregethodd yn Brechfa, Sir Gaerfyrddin, ar gyfiawnhad a sancteiddhad. Dranoeth, cawn ef yn Llansawel, lle y mae Williams, Pantycelyn, yn cyfarfod ag ef. Anghrediniaeth oedd mater Williams; darluniai ef fel y gwaethaf o'r holl bechodau, a dywedai pan y cawn ffydd i weled y byd hwn a'i deganau fel dim, yr awn i ddibrisio ei wŷr mawr, ac y gallwn lawenhau yn wastadol. "Yr oeddwn yn caru yr yspryd a'r llais," meddai Harris. Pregethodd yntau yn ganlynol; "Trwy ei gleisiau ef yr iachawyd ni," oedd ei destun; yr oedd myn'd ar y bregeth hon yn wastad, a chafodd hwyl arni yn Llansawel. Wedi pregethu Wedi pregethu yn Llanymddyfri ar yr heol, i gynulleidfa yn rhifo dros dair mil, dychwelodd i Drefecca yn hapus ei yspryd. Cawsai ei sirioli yn ddirfawr gan gymdeithas cyfeillion na welsai wynebau llawer o honynt er ys tair-blynedd-ar-ddeg.

Yn ystod y daith flaenorol, gwahoddasai y Gymdeithasfa ganlynol i Drefecca, lle nad oedd cynulliad o'r fath wedi bod oddiar yr ymraniad, a chydsyniai y brodyr gyda phob parodrwydd. Yr oedd ei galon yn dychlamu ynddo wrth feddwl am gael y fraint o groesawu gweision Duw; dywed fod ugain o welyau at eu gwasanaeth ganddo ef yn Nhrefecca, heblaw cyflawnder o letyau yn y ffermdai o gwmpas. Fel hyn yr ysgrifena: Trefecca, Mai 18. Y Gymdeithasfa unedig gyffredinol gyntaf. O! Jiwbili! Neithiwr, am saith, daeth Mr. Rowland yma, a'i fab, Mr. Edward Rowland, yn nghyd â William Richard, William Richard, yr ail, David William Rees, John Thomas, Thomas Gray, y gweinidog Ymneillduol, cuwrad o'r enw Lewis, yn nghyd â Popkins a William John, dau gynghorwr. Daeth wyth o fenywod a saith o ddynion yn ychwanegol. Wedi cael taer anogaeth, pregethais ar dlodi ein Hiachawdwr. Cefais nerth ac awdurdod anarferol. Derbyniais hwynt oll gydag yspryd gostyngedig, ac yn yr Arglwydd, llefwn am i'r Arglwydd ddyfod in mysg i'n bendithio, yr hyn hefyd a wnaeth yn ehelaeth. Y boreu hwn yr oeddwn i fynu am chwech, boreufwyd am saith, ac am wyth eisteddasom yn nghyd. Erbyn hyn, yr oedd amryw yn ychwanegol wedi cyrhaedd, sef Mr. Peter Williams, John Williams, Jeffrey, Stephen Jones, a David Williams. Darllenwyd llythyrau oddiwrth Howell Davies, William Williams, John Richard, a John Harry, yn esbonio eu habsenoldeb. Eglurais iddynt y modd y danfonasent am danaf bedair blynedd yn ol, ac y daethwn i gyfarfod Llansawel; nas gallwn uno â hwy, oddigerth fy mod yn cael sicrwydd eu bod oll yn yr Eglwys Sefydledig; ac oni unant yn addoliad a chymundeb eglwys y plwyf, eu bod yn sect newydd; a phan y bydd Mr. Rowland farw, y rhaid iddynt gael gweinidogion Ymneillduol drostynt oll. Dywedais nad oeddwn yn wrthwynebol iddynt fyned i gapelau, a derbyn y cymundeb o law Mr. Rowland, tan ddysgyblaeth ac arholiad priodol. Cydunodd pawb i aros i mewn (yn yr Eglwys), os gallent berswadio y bobl i foddloni. Yna, dangosais yr angenrheidrwydd anorfod am ddysgyblaeth, a dechreu yn y Gymdeithasfa gyda y cynghorwyr, y rhai y dylid eu harholi yn fanwl; yna, yn y seiadau, a chael trefniant priodol gyda golwg ar deuluoedd; heb hyn, yr ai y cyfan i annhrefn. Cydunodd pawb, ac unasant i geisio fy nghymorth gyda hyn, am fod fy