lle yn wag er pan yr ymadewais. Wedi penderfynu cyfarfod yn mhen pythefnos eto, torwyd y cyfarfod i fynu."
Yn y difyniadau uchod gwelir athrylith arbenig Howell Harris yn amlwg; ei hoffder o drefn, ei ofal am ddysgyblaeth; ac hefyd ei ymlyniad cryf wrth Eglwys Loegr. Wedi y cyfarfod preifat, yr oedd yr odfa gyhoeddus yn yr awyr agored yn y pentref; daethai cynulleidfa anferth yn nghyd, nid yn unig o'r cymydogaethau cyfagos, ond hefyd o gyrau pellenig y sir, ac o Sir Forganwg. Diau fod son am Drefecca, a'r sefydliad hynod a gynwysai, wedi ymledu dros y wlad; a thueddai hyn, yn nghyd a'r swyn oedd yn nychweliad Harris at ei hen gyfeillion, i dynu pobl yn nghyd. Popkins a bregethai yn mlaenaf; ei destun oedd: "Dy briod yw yr hwn a'th wnaeth;" dynoda Harris hi fel un dra Chalfinaidd; gellir darllen rhwng y llinellau y golygai hi yn tueddu at Antinomiaeth. "Ond," meddai, "pan y cododd Rowland ar ei ol, ac yr agorodd ei enau, teimlais yr Arglwydd yn llanw fy yspryd, a fy holl rasau yn cael eu cyffroi. Teimlwn mai fy mrawd ydoedd, fy mod yn ei garu, a llawenychwn wrth ei glywed y dydd hwn. Ei destun ydoedd; Cysurwch, cysurwch fy mhobl;' yr oedd yn dra argyhoeddiadol, gan ddangos nad oes eisiau cysur ar y rhai sydd yn hapus yn y cnawd. Yr oedd awelon melus yn chwythu dros y cyfarfod; daeth y mawr ragorol ogoniant i lawr; ysgydwid y cwbl; yn wir, y mae yr Arglwydd wedi ymweled â ni yn ei gariad." Pan yr oedd yspryd Howell Harris yn ei le, byddai gweinidogaeth Daniel Rowland yn wastad yn ei orchfygu, ac y mae yn amlwg ei fod yn awr wedi toddi yn swp tan ei dylanwad. Tranoeth, ysgrifena: "Y ddoe, cefais ryddid i ofyn i'r Arglwydd ddyfod i lawr a'n bendithio, gan fy mod yn gweled mai peth anarferol yw gwneyd i fynu rwyg yn nhŷ Dduw, a dwyn Israel a Judah yn nghyd drachefn. Llefwn y gwyddai mai er ei fwyn ef yr oeddwn wedi eu gwahodd yma, ac fel y gallwn inau gyfranogi o'u bywyd a'u bendith. Yr oeddwn yn ddedwydd wrth eu gwrando. Am dri, aethom i giniaw; ac yr oeddym yn hapus. Datgenais fy serch atynt; gwelwn mai Rowland yw eu tywysog, a'u bod yn plygu iddo, ac yr oeddwn yn llawen am hyny." Hawdd darllen serch angerddol at Daniel Rowland yn treiddio trwy bob brawddeg. Am bedwar, pregethodd Peter Williams, am yr afon bur o ddwfr y bywyd, a phren y bywyd yn tyfu o'r ddau tu. Cafodd ddylanwad mawr. "Yr oedd yma lawer," meddai Harris, “o Sir Aberteifi a lleoedd eraill, yn canu ac yn molianu; yn sicr, y mae Duw wedi ateb ein gweddi, ac wedi tynu ymaith ein gwaradwydd." adwydd." Aeth pawb ymaith yn hapus, ac yn llawn o gariad. Yr unig beth anhyfryd yn y Gymdeithasfa oedd gwaith Popkins, yr hwn a feddai yspryd pigog a chwerw, yn ceisio rhoddi sèn i'r Diwygiwr o Drefecca.
Yn sicr, gyda yr eithriad o'r dydd y cafodd ollyngdod oddiwrth ei faich bechod, adeg ei argyhoeddiad, y diwrnod hwn, pan y teimlai ei fod yn cael ei dderbyn yn ol i fynwes ei frodyr, oedd yr hapusaf a gafodd Howell Harris ar y ddaear. "O'r Arglwydd y mae hyn," meddai. Bellach, y mae galwadau yn gwlawio arno o bob cyfeiriad. Yr wythnos ganlynol i'r Gymdeithasfa, cawn ef yn cofnodi ei fod wedi derbyn gwahoddiadau o Blaen Crai, Trecastell-yn-Llywel, Merthyr, Tir Abbad, Hay, a lleoedd eraill. Wedi treulio rhyw gymaint o amser yn Mryste, aeth i Bath; a chawn ef ar y dydd cyntaf o Fehefin yn Nghaerdydd. Llandaf, cyfarfyddodd â Mrs. Jones, Ffonmon, "dynes syml, ddiragfarn," yr hon a'i hysbysodd am erledigaeth yn tori allan, a bod y barnwyr ar y fainc yn datgan yn erbyn y diwygiad, a'i bod yn cael ei rhybuddio i godi trwydded ar ei thy. I hyn yr oedd Harris yn anfoddlawn; sawrai yn ormodol o Ymneillduaeth, a chynghorodd hi i ymddiddan a'r esgob. Aeth i'r Aberthyn, lle yr addawsai gyfarfod Rowland mewn Cymdeithasfa Fisol; eithr cyn iddo gyrhaedd, yr oedd y cyfarfod drosodd, a'r bobl wedi ymwasgaru. Eithr casglwyd cynulleidfa drachefn, a phregethodd yntau ar: "A hwy a edrychant arnaf fi, yr hwn a wanasant." Oddiyma, teithia i'r Pil, ac Abertawe, lle yr oedd tua phedair mil yn gwrando, a Llansamlet, a Phontneddfechan, o'r hwn le dychwela i Drefecca yn llesg o gorph. Yn mis Gorphenaf, yr ydym yn ei gael yn Llundain, er mwyn bod yn bresenol yn nghynhadledd y Wesleyaid. Yno ceisiwyd ganddo gan Mr. Charles Wesley i anerch y pregethwyr, yr hyn a wnaeth yntau. Dywedodd wrthynt fod yn dda ganddo weled y fath gariad a'r fath symlrwydd yn eu mysg, a bod y gwaith yn cael ei ddwyn yn mlaen yn yr yspryd y cafodd ei ddechreu;