Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf I.djvu/448

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hwn yr oeddwn o'r blaen." Golygai hyn osod Harris, fel cynt, yn arolygwr cyffredinol, gydag awdurdod helaeth dros y cynghorwyr. Rhaid fod Rowland o feddwl tra ardderchog pan y gwnelai y fath gynygiad, a rhaid fod ganddo syniad uchel am ddoethineb ei gyfaill fel trefnydd. Tueddai Howell Davies, modd bynag, i wrthwynebu, am fod Harris yn ceisio undeb rhyngddynt a'r Wesleyaid, a'r Morafiaid; dywedai nad oedd hyny yn bosibl, ac achwynai ar waith John Wesley yn dyfod i Sir Benfro. Modd bynag, daeth yn foddlawn. Yna, cynygiodd Harris fod y tri offeiriad yn unol yn gweithredu fel arolygwyr; gwrthododd pob un; ac yn unfrydol darfu iddynt alw arno ef i gymeryd y lle. Yr oedd arno yntau eisiau amser i ystyried pwnc mor bwysig, eithr addawodd wneyd a allai i gyfarfod y seiadau. Yr oedd Rowland, a Williams, Pantycelyn, yn gafaelu yn dyn yn Harris, a Howell Davies i raddau; ond yr oedd amryw o'r cynghorwyr, y penaf o ba rai oedd Popkins, yn tueddu i wrthwynebu yn ddystaw; a sibrydent wrth eu gilydd ddarfod iddo gael ei dderbyn yn ei ol fel y mab afradlon.

Y mae un frawddeg o bwysigrwydd hanesyddol yn y dydd-lyfr yn y fan hon, sef: "Y mae Mr. Rowland newydd gael ei fwrw allan o'r eglwysydd." Ceir rhai haneswyr Eglwysyddol am wadu i Rowland gael ei droi allan, am nad oes gofnod am y peth ar lyfrau yr esgobaeth, heb gofio na raid wrth gofnod na phenderfyniad ffurfiol gyda golwg ar guwrad; eithr pe byddai eisiau prawf ychwanegol am beth ag y mae genym dystiolaeth llygad-dystion arno, ceir ef yn y crybwylliad hwn o eiddo Harris, yr hwn sydd yn cael ei ysgrifenu yn Llangeitho, ac yn ol pob tebyg yn nhŷ Daniel Rowland ei hun. O Langeitho aeth Harris, yn nghwmni Howell Davies, i Abermeurig, lle y pregethodd ar barhad. mewn gras. Yna, croesodd trwy Lanymddyfri i Drefecca. Treuliodd ddarn mawr o fis Awst yn Bath ac yn Mryste. Ar yr ugeinfed o Fedi, cychwyna i Lanymddyfri, i ymgynghori â Rowland, a Williams, Pantycelyn, yn nghyd â William Richards, ar amryw bethau o bwys i'r Cyfundeb. Cyfeiria yma yn fwy manwl at dröad Rowland allan. Fel hyn y dywed: "Y mae Mr. Rowland wedi cael ei droi allan, ac nid yw yn cael ei dderbyn yn ei eglwysydd. Teimlwn ei bod yn galed arno, ei fod ef y cyntaf i gael ei droi ymaith, oddigerth Mr. Harris, Exon; ac efallai fod hyn yn ddechreu erledigaeth gyffredinol. Crefais arnynt am berswadio y bobl, yn (1) I beidio troi at Ddeddf Goddefiad, mai braich o gnawd ydyw hono, ac y gallai gael ei symud. (2) Ar iddynt beidio meddwl am adael yr Eglwys ar gyfrif hyn, rhag i hyny fod yn ddialedd, neu ymddangos felly, ac yn llid at yr esgob oblegyd ei lymder. (3) Ar iddynt beidio siarad yn chwerw am waith yr esgob, rhag i hyny fod yn hedyn drwg, a pheri i ni godi yn erbyn y llywodraeth.' Nis geill dim fod yn fwy clir gyda golwg ar gysylltiad Esgob Tyddewi a thröad Daniel Rowland allan na hyn; ac y mae yn gryfach am ei fod yn dyfod oddiwrth Howell Harris, yr hwn yn awr a lynai wrth Eglwys Loegr trwy y tew a'r tenau. Am y cynghorion a roddai, yr oedd yn rhaid wrth lawer o ras i'w cario allan, ac y mae peth amheuaeth am ddoethineb y ddau gyntaf, o leiaf; dylasai ofyn, ai nid oedd hyn yn awgrym oddiwrth ragluniaeth, yn eu cyfarwyddo i ymffurfio yn blaid ar wahan iddi? Dyma yr awgrym y dysgwyliai ef am dano ugain mlynedd cyn hyn. Yr unig beth a benderfynwyd rhwng y cyfeillion yn Llanymddyfri oedd gohirio dysgyblaeth y cynghorwyr hyd y Gymdeithasfa ddyfodol yn yr un lle.

Treuliodd Howell Harris yr oll o fisoedd Medi a Hydref ar daith yn Lloegr. Ymwelodd â Swyddi Caerloyw, York, Bedford, Lincoln, a Rutland, a threuliodd ryw gymaint o amser yn Llundain. Pregethai yn mysg y Morafiaid, y Wesleyaid, yn nghyd a'r rhai perthynol i Eglwys Loegr a'i derbyniai. Ei brif genadaeth, heblaw cyhoeddi yr efengyl, oedd ceisio uno yr holl seiadau y gellid edrych arnynt fel cynyrch y diwygiad, yn un sefydliad cryf, a'r oll yn perthyn i'r Eglwys Sefydledig. Y dydd olaf o Dachwedd, y mae yn cychwyn o Drefecca, wedi aros yno yn brin wythnos, i Gymdeithasfa Llanymddyfri. Nid oedd Daniel Rowland yn bresenol; eithr yr oedd Williams, Pantycelyn, wedi dyfod, a William Richards, John Thomas, William Harry, a Peter Williams. Daeth yma i benderfyniad i ail-gymeryd a bod yn arolygwr cyffredinol dros yr holl seiadau, fel y cawsai ei anog yn Nghymdeithasfa Llangeitho; gwelai ei fod nid yn unig yn cael ei garu, ond hefyd ei anrhydeddu. Ymddengys fod William Richard ac yntau yn arbenig yn ymglymu am eu gilydd; ac aethant yn nghyd i Drefecca. Ond yr oedd Popkins ar ei eithaf yn ceisio cyn-