Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf I.djvu/464

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ac mi a wn fy mod yn myned at fy anwyl Dduw, a'm Tad, canys efe a gafodd fy nghalon, ïe, fy holl galon."

Ar yr 21ain o Orphenaf, 1773, pan yn y driugeinfed flwyddyn o'i oedran, ehedodd ei enaid pur at ei Dad a'i Dduw. Gwnaethpwyd galar mawr am dano, nid yn unig gan deulu Trefecca, ond trwy holl Gymru. Ymgasglodd miloedd i'r angladd. Cyfrifa yr Iarlles Huntington fod ugain mil wedi dyfod yn nghyd, ac yn eu mysg bymtheg o glerigwyr. Anerchwyd y dorf anferth oddiar dair o esgynloriau gwahanol, gan chwech clerigwr. Yr offeiriad a weinyddai wrth y bedd oedd y Parch. John Morgan, cuwrad Talgarth, a'r hwn yr oedd yr ymadawedig ar delerau o gyfeillgarwch agos er ys blynyddoedd. Camgymeriad yw y dybiaeth fod y Parch. Price Davies, y ficer, gwedi marw, a bod ei swydd wedi ei rhoddi i un o'r enw William Davies. Cafodd Price Davies oes hirfaith; bu fyw am beth amser gwedi marwolaeth y Diwygiwr o Drefecca, ond yr oedd yn rhy lesg i gymeryd rhan yn ngwasanaeth y claddu; ac yn wir nid yw yn ymddangos ei fod yn bresenol. Y mae traddodiad, cyffelyb i'r un am angladd Howell Davies, i John Morgan dori lawr wrth ddarllen ar lan y bedd, ac iddo estyn y llyfr i un arall, a darfod i hwnw, ac eraill i'w ganlyn, dagu gan ddagrau, ac mai yn nghanol ocheneidiau, a wylofain uchel, y rhoddwyd gweddillion marwol Howell Harris i orwedd yn y ddaear. Hawdd genym gredu hyn, oblegyd yr oedd yn cael ei anwylo y tuhwnt i neb ar y ddaear, gan ganoedd. Yn eglwys Talgarth, yn agos i fwrdd yr allor, y cafodd fedd.

Nid oedd casglu cyfoeth yn un amcan gan y Diwygiwr. Tra y bu yn trafaelu o gwmpas gwlad, ac yn ysgwyd Cymru a'i weinidogaeth, ychydig a dderbyniodd o ran rhoddi a derbyn, yn ol ei dystiolaeth ef ei hun. Gydag anhawsder y gallai gadw ei ben uwchlaw'r dwfr mewn cysylltiad a'i amgylchiadau. Ond y rhan olaf o'i oes, trwy ei ddiwydrwydd, ac ymdrechion y bobl oedd wedi ymgasglu ato, a thrwy ei fawr fedr i drin amgylchiadau pan yr ymroddai at hyny, yr oedd y tŷ yn Nhrefecca, a rhyw gymaint o diroedd a thai o gwmpas, yn eiddo rhydd-ddaliadol iddo. Gadawodd y cwbl mewn ewyllys, nid i neb a berthynai iddo yn ol y cnawd, ond i'r Sefydliad, tan ofal ymddiriedolwyr. Un plentyn a feddai; i'r ferch hono disgynodd cyfoeth ei mam; a chyn ei farw ef yr ydoedd wedi priodi a meddyg yn Aberhonddu, ac uwchlaw angen; felly yr oedd at ei ryddid i wneyd a'i feddianau fel yr ewyllysiai. Wedi marw y Sylfaenydd, dyhoeni a wnaeth y teulu yn Nhrefecca; nid oedd neb wedi ei adael ar ol o gyffelyb feddwl i gario y gwaith yn mlaen; ac erbyn dechreu y ganrif hon yr oedd y Sefydliad wedi ymddirywio i fod yn siop fechan mewn gwlad. Tua'r flwyddyn 1840, cyflwynodd aelodau y teulu a weddillasid y cyfan i fynu i Gyfarfod Misol Brycheiniog, ar yr amod eu bod hwy i gael rhyw gymaint o flwydd-dal tra y byddent byw. Cyflwynodd y Cyfarfod Misol y cyfan i Gymdeithasfa y Deheudir; ac oddiar y flwyddyn 1842, y mae athrofa y Cyfundeb yn Neheudir Cymru yn cael ei chynal yno.

Cymeriad ardderchog oedd Howell Harris. Mewn ymroddiad i lafur, mewn beiddgarwch i wynebu rwystrau a pheryglon; ac mewn dibrisdod o gysuron corphorol, nid oes yr un o'r Tadau Methodistaidd a ddeil eu cymharu ag ef. Yr unig rai ag y gellir eu dwyn o'r tu fewn i gylch cymhariaeth yw Wesley a Whitefield yn Lloegr; ond pan feddylir am agwedd Cymru ar y pryd, pa mor anhygyrch oedd y ffyrdd, pa mor wael oedd yr ymborth a'r llety, a pha mor enbyd. oedd llid y clerigwyr a'r werinos, y mae y glorian yn troi, ac yn troi yn drwm, o blaid y Diwygiwr o Drefecca. Braidd nad yw yn anmhosibl cyflwyno i drigolion yr oes hon unrhyw syniad am ei yni, a'i ymroddiad. Teithiai dros fynyddoedd geirwon, heb braidd lun o ffordd; delid ef yn fynych gan ystormydd enbyd ar ei hynt; byddai raid iddo yn aml fyned trwy ganol y nentydd chwyrn oeddent wedi gorlifo dros eu ceulanau, ac nid anfynych y byddai ei anifail ac yntau mewn perygl o gael eu cario i ffwrdd gan ruthr y llifeiriant; ac yn aml pregethai i dyrfaoedd. mawrion yn wlyb hyd ei groen, a'i gylla yn wag. Nid oedd unrhyw rwystr a'i hataliai. Yr ydym yn darllen droiau am Rowland a'r lleill yn methu myned i Gymdeithasfa oblegyd afrywiogrwydd yr hin; ni chawn hyny am Howell Harris gymaint ag unwaith. Wedi teithio trwy afonydd, ac wedi bod yn y lluwchfeydd eira hyd ei ên, byddai yn pregethu fel cenad o dragywyddoldeb, a'i enaid yn fflamio o'i fewn. Efallai y treuliai y nos drachefn yn gorwedd ar gadeiriau o flaen y tân yn ei ddillad gwlybion, er mwyn cychwyn i'w daith dranoeth gyda glasiad y wawr. Nid