Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf I.djvu/466

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mewn pob peth ond enw. Teithiai yn eu mysg, pregethai yn eu capelau, ymwelai a'u Cyfarfodydd Misol ac a'u Cymdeithasfaoedd, a chaffai ganddynt y lle mwyaf anrhydeddus a fedrent roddi iddo. Teg cadw mewn cof mai taith i Gymdeithasfa Llangeitho oedd y diweddaf a gymerodd cyn cael ei gyfyngu gan lesgedd i Drefecca; a darfod i'r hyn a welodd ac a glywodd yno sirioli ei yspryd i'r fath raddau, fel y datganai ei argyhoeddiad fod Duw yn amlwg yn y lle, ac mai dyna Jerusalem Cymru. Aeth yn ei ol, tros y mynyddoedd, i Drefecca, fel un wedi cael ysglyfaeth lawer; ac er na fedrodd deithio o gwmpas mwy, deuai Rowland, a Williams, a Peter Williams, i ymweled ag ef yn fynych.

Bu Howell Harris farw yn ddyn cymharol ieuanc; nid oedd yn llawn triugain oed pan y galwyd ef oddiwrth ei waith at ei wobr. Ond yn ystod yr adeg fer hon gwnaeth waith anhygoel, gwaith y bydd cofio am dano gwedi i amser ddarfod. A bu fyw yn ddigon hir i weled chwildroad moesol a chymdeithasol wedi cymeryd lle yn Nghymru. Os ar ei darawiad allan yr edrychai y byd arno gyda chilwg, gan ei ystyried yn freuddwydiwr llawn penboethni, cyn ei farw amgylchynid ef ag anrhydedd, ac heddyw edrychir arno fel un o brif gedyrn Cymru. Nid oes seren ddysgleiriach nag efe yn llewyrchu yn ffurfafen hanesyddiaeth ein gwlad. Pa bryd bynag y cawn fel cenedl ein bendithio â hanes a fyddo i ryw raddau yn deilwng o honom, yn yr hanes hwnw rhaid i Howell Harris, y teithiwr diorphwys, yr arloesydd beiddgar, y pregethwr hyawdl, y seraph tanllyd, a'r gwladgarwr pur, gael lle amlwg. Yr ydym yn teimlo anhawsder i ffarwelio ag ef, gan fel y mae ei swyn yn enill arnom. Y mae Williams, Pantycelyn, yn y farwnad ardderchog a gyfansoddodd iddo, wedi arddangos ei gymeriad a'i nodweddion mor oleu, fel yr ydym yn rhwym. o ddifynu ychwaneg o'r penillion:

"Mae'n cryfhau y breichiau gweinion,
Ac yn dala'r llesg i'r lan;
Yn ei athrawiaeth y mae ymborth,
Bwyd i'r ofnus, bwyd i'r gwan;
Geiriau dwys, sylweddol, gloew,
Wedi eu tempru yn y tân,
Lamp i arwain pererinion
Trwy'r anialwch mawr ymlaen.

Y mae'r iachawdwriaeth rasol
Yn cael ei rhoddi i maes ar led,
Ag sy'n cymhell mil i'w charu,
Ac i roddi ynddi eu cred;
Haeddiant Iesu yw ei araeth,
Cysur enaid a'i iachad,
Ac euogrwydd dua pechod
Wedi ei ganu yn y gwaed.

Byth na chofier am ei bechod,
Na 'sgrifener dim o'i fai,
Blotiwyd llyfrau'r nef yn hollol,
Pa'm caiff rhagfarn dyn barhau?
Ni chaiff pen, nac inc, na thafod,
'Rwy'n eu gwa'rdd o hyn i maes,
Sôn am ddim ond y Diwygiad
Trwyddo lanwodd Gymru las.

'Nawr mae'n gorwedd yn y graian,
Mewn lle tywyll, dystaw iawn,
Harris, gynt, a'i waedd ddihunodd
Weinidogion lawer iawn;
Can's trwm gwsg oddiwrth yr Arglwydd
Oedd fel diluw'n llanw'n lân,
Yn y dydd cyhoeddodd Howell
I fod Nini'n myn'd ar dân.

Griffith Jones, pryd hyn, oedd ddeffro,
Yn cyhoeddi efengyl gras,
Hyd cyrhaeddai'r swn o'r pwlpud,
Neu, os rhaid, o'r fynwent las;
Ond am fod ei foreu'n dywyll,
Ac nad oedd ei ffydd ond gwan,
Fe arswydodd fyn'd i'r meusydd,
Ac i'r lleoedd nad oedd llan.

Yntau, Howell, heb arddodiad
Dwylaw dynion o un rhyw,
Na chael cenad gan un esgob
Ag sy'n llawer llai na Duw,
Fe gyhoeddodd yr efengyl,
Anfeidroldeb dwyfol 'stor,
O derfynau'r Hafren dawel
Obry i'r gorllewin fôr.

Nid oes heddyw ond rhyw 'chydig,
Duw o'r nef estyno eu hoes,
A ddihunodd yn y plygain,
Pan yr oedd hi yn dywyll nos,
Ac a chwythodd a'u holl egni
Yn yr udgorn gloew, las,
Nes dihuno eirth a llewod,
A bwystfilod gwaetha'r maes.

*****
Os oedd eisiau ffrynd ffyddlonaf,
Harris unig oedd efe,
Gwell na'r ceraint goreu anwyd
Mewn un ardal is y ne';
Maddeu bai, a chadw cwnsel,
Yspryd cydymdeimlo yn un,
A gwneyd holl ofidiau ei gyfaill,
Megys ei ofidiau ei hun.

*****
Cwsg i lawr yn Eglwys Talgarth,
Lle nad oes na phoen na gwae,
Ti gai godi i'r lan i fywyd
Sy'n dragywyddol yn parhau;
Gwell i ti gael gorphwys yna
Blith dra phlith a'r pryfed mân,
Na chael mil o demtasiynau
At y dengmil ge'st o'r blaen.

*****
Ffarwel, Harris, darfu heddyw
A chwenychu bod yn ben,
Ce'st ddyrchafiad mwy godidog,
Canu yn y nefoedd wen;
Ac 'rym ninau yn dy ganlyn
'Rhyd y grisiau yma lawr,
Ac nid oes ond rhyw fynydau
Rhwng y gloch a tharo ei hawr."