Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf I.djvu/470

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

iges o Fryste a gymerodd ofal y ferch; daeth ewythr o du y tad yn mlaen i ymgymeryd â gofal y mab ieuangaf; ac ewythr o du y fam a dderbyniodd Peter i'w dŷ. Ymddengys i'r ferch farw yn gynar. Am Dafydd, y bachgen ieuangaf, cafodd ysgol dda gan ei ewythr, ac yn nghymydogaeth Bryste y preswyliodd hyd ddydd ei farwolaeth. A ddarfu iddo briodi, a chael plant, ni wyddom. Cawsai Peter ei gadw yn yr ysgol tra y bu ei rieni byw, a gwnaethai gynydd mawr mewn dysgeidiaeth. Darfu i'r ewythr ganlyn ar yr un llwybr, gan ei osod mewn ysgol ar unwaith, a than addysg y bu hyd nes yr oedd yn un-mlwydd-ar-bymtheg oed. Yr oedd ei wanc am wybodaeth yn angerddol. Pan fyddai plant yr ysgol allan yn chwareu, myfyrio uwchben ei lyfrau a wnelai ef; nis gallai eistedd wrth y bwrdd i fwyta heb fod rhyw lyfr yn agored ger ei fron. Wedi iddo ddechreu ymgydnabyddu a'r ieithoedd Lladin a Groeg, daeth ei gynydd yn fwy amlwg, a'i ymroddiad yntau yn llwyrach. Ni chymerai seibiant adeg y gwyliau, fel y gwnelai y llanciau eraill, eithr parhäi i ddarllen a meddwl o ddifrif. Oddiwrth yr hyn a ddywed am dano ei hun, gallwn dybio ei fod yn yr oedran hwn o duedd feudwyol, yn ddibris o bob chwareuon, yn ddifater am gwmniaeth llanciau o gyffelyb oed, ac yn llwyr ymroddedig i'w efrydiau.

Yr oedd ei fuchedd yn foesol, braidd o'r dechreuad. Am hyn, yr oedd yn ddyledus mewn rhan i dueddfryd ei natur, ac hefyd mewn rhan i ofal a chynghorion ei fam. Mynega ddarfod iddo, yn ystod adeg ei blentyndod, glywed rhywrai yn tyngu ac yn rhegu, ac iddo yntau ddysgu eu hymadroddion; ond pan y clybu ei fam ef, hi a'i ceryddodd yn llym, ac ni bu yn euog o'r cyfryw bechod mwy. A chwedi iddi hi gael ei phriddo, glynai ei chynghorion yn ei feddwl, fel na fu gan rysedd afael arno o gwbl. Dywed i Dduw ei gynal yn nyddiau ei ieuenctyd, a blynyddoedd ei ynfydrwydd, fel na fu yn euog o bechodau rhyfygus, nac o unrhyw fai a ystyrir yn waradwyddus yn mysg dynion. Nid ydoedd ychwaith yn amddifad o argraffiadau crefyddol. Llenwid ei gydwybod yn fynych gan ofn marw, a dychryn y farn. Meddai: "Y cwestiwn mwyaf genyf ydoedd, Pa fodd yr ymddangoswn gerbron Duw? Pa fodd y dysgwyliaf am ollyngdod a maddeuant gan y Duw pur a sanctaidd hwnw, o wydd yr hwn, yn ei ymddangosiad, y diflana'r byd, a'r cwbl sydd ynddo?" Ceisiai gysuro ei hun nad ydoedd yn waeth na dynion eraill, a bod miloedd o bechaduriaid, cynddrwg ag yntau, rhai o'r cyfryw a adwaenai, wedi marw mewn gobaith o adgyfodiad i fywyd tragywyddol. Ond nid oedd yr esgusodion gwagsaw hyn yn foddlonol i'w gydwybod. Ffurfiasai yr arferiad o hunanymholiad; arferai droi ei olygon i mewn i ystafelloedd ei galon; a gwelai yno hadau pob llygredigaeth. Eithr, er hyn oll, nid adwaenai yr Arglwydd, ac ni wyddai nemawr am drefn yr efengyl i faddeu.

Pan yr oedd o gwmpas un-mlwydd-ar bymtheg oed, ceisiodd ei ewythr ganddo ddewis rhyw alwedigaeth. Teimlai yntau anhawsder dirfawr i wneyd; neu, yn hytrach, teimlai anhawsder i wneyd ei ddewisiad yn hysbys. Yn nirgelwch ei galon, yr oedd wedi rhoddi ei fryd ar fyned yn offeiriad. Fel y darfu i ni sylwi, cawsai yr awyddfryd hwn ei blanu ynddo gan ei fam. A thua blwyddyn cyn ei marwolaeth, cawsai Peter ieuanc freuddwyd hynod, yn yr hwn, yn mysg pethau eraill, y gwelsai ddau ŵr dyeithr, mor hardd eu gwedd ag angelion, yn dyfod ato, ac yn ymddiddan ag ef. Dehonglai y fam y freuddwyd fel prophwydoliaeth y byddai hi farw yn fuan, ond y deuai Iesu Grist i gymeryd ei lle, ac y gwnelai yr Iesu ei hoff blentyn yn weinidog enwog yn ei deyrnas. Sicr ydyw i'r breuddwyd a'r dehongliad adael argraff ddofn ar feddwl Peter, a thebygol fod a fynai hyn a thueddu ei feddwl yn awr at y weinidogaeth. Y mae mor sicr a hyny mai nid o herwydd ei fod wedi cael gras, ac nid o herwydd fod ei enaid yn llosgi ynddo gan awydd am achub eneidiau, y chwenychai y swydd. Yn ol ei syniad ef ei hun, yr ydoedd eto heb gael troedigaeth. Ond oblegyd yr argraff a dderbyniodd oddiwrth ei fam, yn nghyd a'i hoffder yntau o lyfrau, a gwybodaeth, nid oedd dim a'i boddlonai ond yr offeiriadaeth. Eithr teimlai anhawsder dirfawr i ddatgan ei awyddfryd i'w ewythr. Nid yw yn ymddangos mai ofn ei ewythr oedd arno, ychwaith; yn hytrach, yr hyn a ofnai oedd fod y draul yn ormod. Eithr dweyd a fu raid, a throdd pethau allan yn well na'i ofnau. Gwelai yr ewythr, na wnelai ei nai amaethwr, ac felly yr oedd yn dda ganddo ei weled yn ymaflyd mewn rhywbeth mwy cydnaws a'i dueddiadau; a chafodd y llanc myfyrgar ei anfon i ysgol ramadegol