Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf I.djvu/483

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

iad Plymouth" yr adwaenid ef yn ei sir enedigol. Er ddarfod i'r Cysondeb ymddangos yn y flwyddyn 1765, sef tua phum' mlynedd o flaen y Beibl mawr, rhaid i Mr. Williams ddechreu ar ei waith lawn mor gynar a John Evans, os nad yn gynarach, gan fod ei faes yn llawer helaethach. Felly, nid gormod dweyd mai i Peter Williams y perthyn yr anrhydedd o fod yn dad esboniadaeth Gymreig.

Nis gellir dirnad y dylanwad a gafodd Beibl Peter Williams ar fywyd ysprydol y genedl. Prynwyd ef gydag awch; nid oedd teulu crefyddol o fewn y Dywysogaeth yn foddlon bod hebddo, os gallent rywlun hebgor yr arian i'w bwrcasu. Cynilai gweithwyr o'u henillion bychain, a braidd nad aent heb eu beunyddiol ymborth, er mwyn ei feddu. Yn y ddyledswydd deuluaidd, darllenid nid yn unig y benod allan o'r Ysgrythyr, eithr sylwadau Peter Williams yn ogystal, a phrin y deallai llawer o ddynion da a duwiol nad oedd y sylwadau mor ddwyfol a'r Beibl ei hun. Ofer fyddai i neb feiddio dweyd gair yn ei erbyn; yr oedd sylw y Beibl mawr ar unrhyw fater yn derfyn ar bob ymryson. Edrychid arno gyda y parchedigaeth mwyaf, fel rhan anhebgor o addoliad Duw yn y teulu; coffaid y sylwadau yn y seiadau, a buont yn ymborth ac yn faeth i bererinion Seion o'r adeg yr ymddangosasant hyd y dydd hwn. Ceir rhai yn bresenol yn dibrisio sylwadau Peter Williams, gan ddweyd na ddaliant eu cymharu ag amryw o'r esboniadau sydd erbyn hyn wedi eu cyhoeddi yn yr iaith Gymraeg. Dywedwn ninau na ddylid eu cymharu. Cyn cael syniad priodol am werth y sylwadau, rhaid galw i gof sefyllfa Cymru o ran manteision addysg pan yr ysgrifenwyd hwynt. Ychydig o lyfrau oedd yn y wlad, a'r ychydig hyny, gan mwyaf, allan o gyrhaedd y werin. Yr oedd yr Ysgol Sabbothol heb ei sefydlu, ac yr oedd yr hen Efengylydd o Gaerfyrddin yn tynu at derfyn ei yrfa, pan yr oedd Mr. Charles yn anterth ei nerth yn llafurio i'w chychwyn. Ychydig, mewn cymhariaeth, a fedrent ddarllen, er fod ysgolion cylchynol Griffith Jones wedi gwneyd llawer o les yn y cyfeiriad hwnw. Felly, braidd nad unig gyfrwng gwybodaeth grefyddol o fewn cyrhaedd y lliaws oedd yr hyn a geid yn ngweinidogaeth yr efengyl, ac yn y seiadau. I'r werin bobl, yn y sefyllfa yr oeddynt ynddi ar y pryd, nis gellid cael dim gwell na sylwadau Peter Williams. Ac erbyn cymeryd pob peth i ystyriaeth, y syndod yw eu eu bod mor sylweddol, cyfoethog, a chyflawn. Ei gynllun ei hun a gymerodd, ac y mae ei ddelw ei hunan ar yr holl sylwadau yn amlwg, er, ar yr un pryd, nad oedd yn amddifad o lyfrau cynorthwyol, yn mysg pa rai, y penaf, efallai, oedd sylwadau Osterwald, yr Allmaenwr, y rhai a gawsent eu cyfieithu ychydig yn flaenorol. Cadwai Mr. Williams ddau amcan o'i flaen wrth ysgrifenu ei sylwadau, sef, ar y naill law, gosod ynddynt ddigon o fater, fel ag i fod yn gymhorth sylweddol i'w gyd-genedl mewn ystyr grefyddol; ac ar y llaw arall, peidio esgyn uwchlaw cyrhaeddiadau gwerin ei oes, rhag i'w lafur brofi yn ddifudd. Yn y ddau beth hyn bu yn dra llwyddianus.

Nid bychan y llafur oedd yn angenrheidiol tuag at barotoi y gwaith, ac y mae yn syn iddo allu ei gyflawni, pan feddyliom ei fod yn teithio cymaint o gwmpas gyda phregethiad yr efengyl. Nid bychan oedd yr anturiaeth, ychwaith, o ddwyn allan argraffiad yn cynwys 8,600 o gopïau, yn arbenig pan y cofir nad oedd poblogaeth y Dywysogaeth y pryd hwnw fawr mwy nag un rhan o dair o'r hyn ydyw yn awr. Llawer o'i frodyr, â pha rai yr ymgynghorasai, a gredent mai ffolineb oedd meddwl am y fath beth, ac a geisient ei berswadio i roddi i fynu y syniad. Ond mor angerddol oedd ei zêl, a chymaint ei ffydd, fel y gosododd ei wyneb fel callestr. Profodd y canlyniad mai efe oedd yn ei le, a choronwyd yr anturiaeth â llwyddiant. Gwerthwyd yr argraffiad cyntaf allan yn llwyr yn mhen ychydig flynyddoedd, a daeth galw am ail argraffiad.

Heblaw y Beibl mawr, gyda sylwadau ar bob penod, dygodd Peter Williams allan y Mynegair Ysgrythyrol, yr hwn lyfr, er nad ellir ei ystyried yn hollol wreiddiol, a fu o wasanaeth dirfawr i'r genedl. Siaradai Mr. Charles yn uchel iawn am dano, a chafodd gylchrediad helaeth. Iddo ef, hefyd, y perthyn yr anrhydedd o ddwyn allan y cyhoeddiad cyfnodol cyntaf yn yr iaith Gymraeg, yr hwn a alwai, Trysorfa Gwybodaeth, neu, Yr Eurgrawn Cymraeg. Cyhoeddiad pythefnosol ydoedd, pris tair ceiniog; pymtheg rhifyn o hono a ddaeth allan. Cyhoeddwyd ef yn y flwyddyn 1770. Erbyn hyn y mae cyfnodolion Cymru yn llu mawr iawn, ond Trysorfa Gwybodaeth Peter Williams oedd ysgub y blaenffrwyth. Yn ychwanegol at y Beibl