hun; ar yr un pryd, rhaid addef fod rhai o honynt yn tueddu i greu drwgdybiaeth. Yn Diar. viii. 25, lle y gosodir yn ngenau Crist y geiriau: "Cyn sylfaenu y mynyddoedd, o flaen y bryniau, y'm cenhedlwyd," cyfieithai Peter Williams, "O flaen y bryniau y'm hesgorwyd." A chan ei fod yn gwadu ddarfod i'r Mab gael ei genhedlu er tragywyddoldeb, oddigerth yn arfaethol, yr oedd y newidiad a wnaeth yn peri i bobl dda fyned yn ddrwgdybus o burdeb ei amcan. Ei reswm ef oedd fod y gair yn yr iaith wreiddiol yn cael ei arfer yn yr ystyr a roddai efe iddo. Yn Esaiah liii. 10, yn lle "pan osodo efe ei enaid yn aberth dros bechod," darllenai, "pan osodo efe ei hun yn aberth dros bechod." Dros hyn, rhydd ddau rheswm, sef fod y gair yn y gwreiddiol yn arwyddo yr holl ddyn, a'i fod yntau am ragflaenu cyfeiliornad, gan fod rhai yn tybio mai enaid dyn yn unig sydd yn pechu, ac felly mai enaid y Gwaredwr yn unig a ddylai ddyoddef. Ond, yn sicr, nid oes gan gyfieithydd un hawl i roddi darlleniad penodol er rhagflaenu cyfeiliornad. Yn y 12fed adnod o'r un benod: "Efe a rana yr yspail gyd â'r cedyrn," darllenai, "Efe a feddiana yspail y cedyrn." Yn Hebreaid v. 9, yn lle "Efe a wnaethpwyd yn Awdwr iachawdwriaeth dragywyddol," darllenai, "Efe a ddaeth yn Awdwr iachawdwriaeth dragywyddol," Mewn llawer o'r cyfnewidiadau, nid oedd unrhyw newidiad ar y synwyr; ond rhwng ysgelerder y trosedd, yn ngolwg llawer, o gyffwrdd mewn un modd a'r cyfieithiad o'r Beibl, a'i fod yn dyfod ar gefn geiriadaeth gymysglyd, os nad rhywbeth gwaeth, am athrawiaeth y Drindod, cododd y llif yn uchel yn erbyn yr Esboniwr o Gaerfyrddin.
CAPEL HEOL-Y-DWR, CAERFYRDDIN.
Cyn canlyn y ddadl i'w therfyn, gweddus nodi fod Peter Williams mewn llafur dirfawr gyda gweinidogaeth yr efengyl yn ystod yr holl amser y dygai ei argraffiad o Feibl Canne allan, megys cyn hyny. Ceir prawf nodedig o hyn mewn llythyr o'i eiddo, yn ei lawysgrif ef ei hun, sydd ar gael yn Nhrefecca, yr hwn na argraffwyd erioed. Yr ydym yn ei gyhoeddi air am air, a llythyren am lythyren, fel yr ysgrif enwyd ef, gan fod cryn ddyddordeb yn perthyn iddo ar amryw gyfrifon: "Caerfyrddin, Awst 22, 1789. Fy nghyfeillion, Yr wyf yn gobeithio eich bod yn iach, fel, trwy drugaredd, yr wyf finau. Dyma Gig 4 X yn dyfod i'ch dwylaw; atolwg, a gawsoch chwi bob papurlen a ddylasech ei chael? Dywedodd Mr. Wosencroft wrthyf i'w gyfaill adael yr un a ymddiriedais iddo ef, naill ai gyda Longfellow yn Aberhonddu, neu yn y postdy. Os ydych heb ei chael, mi a ymofynaf yn fanylach. Yr wyf yn rhyfygu diwygio ambell air yn y cyfieithiad beunydd; ac yr wyf yn hyderu ynoch, yn yr Arglwydd,