mater yma hefyd, y mae yn sicr ei fod yn gwneyd cam â hwynt. Nid oeddynt wedi amodi cefnogi gwerthiant llyfr a gynwysai sylwadau oeddynt, yn ei barn hwy, yn gyfeiliornus a pheryglus. Os bu tori amod yn y mater, Peter Williams wnaeth hyny, trwy osod i mewn yn nglyn a'r Beibl nodiadau ag yr oedd y Methodistiaid yn flaenorol wedi dangos annghymeradwyaeth hollol o honynt. Mewn canlyniad, arosodd y Beiblau yn llu ar law Peter Williams a David Jones, a throdd yr anturiaeth allan yn dra cholledus. Gwedi ei ddiarddel, elai yr hen Esboniwr o gwmpas i bregethu fel cynt, eithr cadwai ei hen gyfeillion i ffwrdd oddiwrtho. Agorai yr enwadau eraill eu capelau iddo, ond y mae lle i ofni nad tosturi at ei gyflwr, na chydymdeimlad a'i olygiadau, oedd y rheswm am hyny, yn mhob amgylchiad; yn hytrach, hoffent gael cyfle i dderbyn un ag yr oedd y Methodistiaid wedi ei wrthod. Eithr os tybiai y naill blaid neu y llall y gwnai yr hen Esboniwr ymuno â hi, gwnaeth gamgymeriad; ni ddangosodd efe yr awydd lleiaf am ymuno â chyfundeb crefyddol arall; yn wir, nid yw yn ymddangos i'r syniad ddyfod i'w feddwl. Eithr gwnaeth apel drosodd a throsodd at ei frodyr yn y Gymdeithasfa am ail driniaeth ar ei achos; y mae y llythyrau a ysgrifenodd ar gael, ac y maent yn dangos dysgeidiaeth, cydnabyddiaeth a'r Ysgrythyr, a gallu ymresymu o radd uchel; ond dangosant hefyd lawer o chwerwder yspryd. Eithr gan na ddangosai yr awydd lleiaf ei fod am dynu dim yn ol, na rhoddi i fynu amddiffyn ei olygiadau neillduol, ni wnai y Gymdeithasfa dderbyn ei apêl. Y mae ei ymlyniad ef o un tu, a'r Gymdeithasfa o'r tu arall, wrth yr hyn a ystyrid yn wirionedd ganddynt, er cryfed y cymhellion i roddi ffordd, yn ddangoseg o gydwybod olrwydd dwfn yn y naill a'r llall. Eithr nis gallwn lai na gofidio iddo gael ei demtio i fyned i Gymdeithasfa y Bala, a gosod ei hun a'i hen gyfeillion mewn profedigaeth chwerw. Dywed ei fywgraffydd iddo gael ei wahardd i bregethu ar y platform. Yr ydym yn amheus iddo geisio hyny; os do, gwnaeth y cais, gan wybod mai ei wrthod a gaffai. Nid oedd rhith o reswm dros osod un a gawsai ei ddiarddel am gyfeiliornad, i bregethu yn y lle mwyaf cyhoeddus, a hyny gan y blaid a'i diarddelodd. Modd bynag, rhwng yr odfaeon, pan oedd yr heolydd yn llawn dynion, safodd Peter Williams ar gongl heol i bregethu. Rhaid mai enyn tosturi, a thaflu gwaradwydd ar y Methodistiaid, oedd ei amcan. Ar yr un pryd, gweddus hysbysu na ddywedodd air yn anmharchus am neb; ond iddo yn aml yn ystod ei bregeth gyfeirio gyda chymeradwyaeth at y pregethau blaenorol. Ond yr oedd yn flin gan y rhai a'i hadwaenent ei weled wedi gosod ei hun yn y cyfryw sefyllfa.
Nid ymddibynai Peter Williams am wrandawyr, a chyfleustra i bregethu, ar deithio o gwmpas; efe, fel y darfu i ni sylwi, a adeiladasai gapel Heol-y-dwr, Caerfyrddin, a hyny yn benaf ar ei draul ei hun; nid yw yn ymddangos fod ymddiriedolwyr wedi cael ei gosod ar y capel, nac unrhyw drosglwyddiad o hono i'r Methodistiaid wedi ei wneuthur; felly, yn gyfreithiol, ei eiddo personol ef ydoedd. Ac yma, yn benaf, y darfu iddo bregethu yr efengyl yn mlynyddoedd olaf ei oes, heb fod mewn undeb ag unrhyw blaid. Rhyw bum' mlynedd y bu byw wedi Cymdeithasfa Llandilo; gwanhaodd ei iechyd yn raddol, ac ymollyngodd ei gyfansoddiad cryf, eithr daliodd i bregethu ac i efrydu tra y medrai. Er dangos ansawdd ei yspryd, difynwn ranau lythyr a ysgrifenwyd Awst 5, 1796, sef tri diwrnod cyn ei farw, gan ei fab, y Parch. Peter Bailey Williams, Llanrug: "Fy anwyl Frawd,—Yn ol pob ymddangosiad, bydd y post nesaf yn dwyn i chwi hanes marwolaeth fy anwyl dad. . . . . Pregethodd yn Nghaerfyrddin bythefnos i'r Sul diweddaf, ac yn Llanlluan y Sabbath dilynol. Yn y lle cyntaf, pregethodd yn rymus ac effeithiol i gynulleidfa fawr; ac yn y diweddaf, yr oedd yn anmhosibl i'r mwyaf anystyriol ddal dan ei appeliadau difrifol. Ond yr hyn a chwanegai at bruddder yr olygfa oedd, ei fod yn siarad ac yn edrych fel dyn yn marw; ac yr oedd yr holl gynulleidfa yn wylo yn hid wrth feddwl na chaent ei weled byth mwy. Y mae yn parhau i godi yn foreu; neu, gwnai hyny hyd o fewn ychydig ddyddiau yn ol; ac yn dilyn ei efrydiau arferol. Mae yn hynod dduwiolfrydig ei yspryd, ac yn hollol dawel dan ei flinderau. Parhaodd y weddi deuluaidd tra y gallodd dori geiriau. Y Sabbath diweddaf, gofynodd i Bowen, yr hwn oedd yn bresenol, fyned i weddi, gyda dweyd ei fod ef yn analluog, o herwydd diffyg anadl. Tra yr oeddwn yn gallu,' meddai, fy hyfryd waith oedd neshau at orseddfainc y gras.'