Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf I.djvu/502

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

capel, y cyntaf yn y sir. Cynyddodd y seiadau yn fawr yn ystod y blynyddoedd canlynol, ond yr oedd y bobl yn hwyrfrydig i godi capelau. Adeiladwyd un arall yn mhen chwe' mlynedd ar ol y cyntaf, sef capel Aberthyn. Dyma yr unig addoldai oedd gan y Methodistiaid yn Morganwg pan ddaeth David Jones i Langan. Y mae Aberthyn o fewn pedair milltir i Langan, a'r Groeswen o fewn ugain milltir i'r lle. Yr oedd eglwysi cryfion yn y ddau le yma y pryd hwnw, ac yr oedd arnynt weinidogion ordeiniedig a sefydlog. William Edward, yr adeiladydd, ydoedd gweinidog y Groeswen; a Dafydd Williams, o Lysyfronydd, ydoedd gweinidog Aberthyn. Yr oedd y ddau, erbyn amser dyfodiad Mr. Jones i Langan, mewn addfedrwydd oedran, eill dau yn eu haner-canfed flwyddyn; ac yr oeddynt yn ddynion o fedr a dylanwad mawr. oedd hefyd amryw o gynghorwyr yn llafurio yn y sir ar y pryd hwn, y rhai penaf o honynt oeddynt William Thomas, o'r Pil, a Jenkin Thomas, yr hwn a adwaenir yn well wrth yr enw Siencyn Penhydd. Yr oedd y cyntaf yn bump-a-deugain oed, a'r olaf yn un-ar-ddeg-ar-hugain. Glaslanciau rhwng deg a phymtheg oed ydoedd Christopher Basset, a Howell Howells, Trehill, yr adeg hon, dau ag a ddaethant ar ol hyn yn offeiriaid Methodistaidd o enwogrwydd a defnyddioldeb. Yn ychwanegol at y gweinidogion a'r cynghorwyr yr ydym yn awr wedi crybwyll eu henwau, pa rai oeddynt er ys blynyddau wedi bod yn llafurio yn Morganwg, daeth clerigwr i'r sir tua'r un adeg a David Jones, sef yr enwog a'r anwyl William Davies, Castellnedd. Daeth y ddau i gydnabyddiaeth buan a'u gilydd, os nad oeddynt felly o'r blaen, a buont yn cydlafurio, ac yn cyd-deithio Cymru oll yn ngwasanaeth yr efengyl, am yspaid ugain mlynedd, sef hyd farwolaeth William Davies. Cuwrad oedd William Davies, yn Nghastellnedd, o dan Mr. Pinkey, yr hwn oedd yn meddu personoliaeth dau blwyf, Castellnedd a Llanilltyd, ac nid ymddyrchafodd i safle uwch na chuwrad. yn ei fywyd. Bendith anmhrisiadwy i grefydd ydoedd dyfodiad cyfamserol y ddau weinidog ffyddlawn hyn i Grist i Sir Forganwg. Hyd yn hyn nid oedd yr un o ser dysgleiriaf y pwlpud wedi ymddangos yn Morganwg, yn frodorion nac yn ddyfodiaid. At Howell Harris, yn benaf, yr edrychai pobl Morganwg fel eu tad, a phan ymneillduodd efe, ac y peidiodd dalu ei ymweliadau mynych yno, nis gadawodd ar ei ol neb ag y gellid am foment ei gymharu ag efe. Cymerasai yr ymraniad le ddeunaw mlynedd cyn dyfodiad yr enwogion hyn i Forganwg, ac yr oedd eu dyfodiad hwy yno fel codiad haul o'r uchelder i'r holl sir, ac i Gymru oll. Blynyddoedd maith o drallod i bobl yr Arglwydd fu y blynyddoedd hyny; cyfnod o gyndynddadleu, a thymhor o ddirywiad crefyddol. Dilynwyd hwy a dyddiau gwell, dyddiau o adfywiad ac adferiad, a chydnabyddir yn gyffredinol mai trwy offerynoliaeth David Jones, Llangan, a W. Davies, Castellnedd, yn Morganwg; y ddau Williams, a William Llwyd, o Gaio, yn Nghaerfyrddin; a Daniel Rowland a Dafydd Morris, yn nghyd â Dafydd Jones, o'r Derlwyn, yn Aberteifi, yr ail-feddianwyd y Deheudir i Fethodistiaeth.

Y mae hanes David Jones yn Llangan yn bur gyffelyb i hanes Rowland yn Llangeitho, ond ei fod ar raddfa lai. Daeth y lle yn gyrchfa pobloedd, yn ganolbwynt gweithrediadau crefyddol rhan fawr a phwysig o'r wlad. Ymddengys i David Jones ymdaflu i weithgarwch yn union y daeth i Langan, ac y mae hanes fod sefyllfa crefydd o fewn y plwyf yn resynus. Dywed hyd yn nod Mr. Morgan, Syston, fod ei ragflaenydd wedi esgeuluso ei ddyledswyddau, a dichon y gallasai ychwanegu ei fod wedi camarwain ei bobl, ar air a gweithred. gweithred. Tebygol ei fod yn gyffelyb i'r person yr oedd gofal y plwyf nesaf i Langan arno, am yr hwn y canodd Shanco Shôn fel yma:—

Y 'ffeiriad ffol uffernol,
Shwd achub hwn ei bobl,
Sy'n methu cadw dydd o saith,
Heb ddilyn gwaith y diafol."


Yr oedd yr offeiriaid, gydag ychydig eithriadau, yn parhau yn ddifraw a difater; a llawer o honynt yn blaenori mewn annuwioldeb, a rhysedd. Ni pherchid hwy. hyd yn nod gan yr oferwyr yr ymgyfath rachent â hwy. Dirmygid hwy gan bob dyn bucheddol, a hwy oedd prif destun gwawd a chân y beirdd a'r prydyddion. Temtid hyd yn nod Iolo Morganwg i ogan-ganu iddynt. Cyfansoddodd efe gån, a alwai yn "Drioedd yr offeiriaid," cân faith, o bedwar-ar-hugain o benillion. Gosodwn yma y penill cyntaf a'r olaf o honi fel enghraifft, ac fel dangoseg o'r dirmyg a deimlai yr hen fardd dichlynaidd hwnw tuag at bobl oedd yn byw yn