aros yma hyd y Sulgwyn; ac os oes rhywbeth ag y gallaf wneyd erddoch, mi a'i gwnaf, hyd eithaf fy ngallu. Y mae genyf lawer o bethau ag y carwn eu dweyd wrthych, pe bai genyf amser i ysgrifenu, ond yr wyf o hyd yn brysio o fan i fan. Yr wyf yn awyddus am eich gweled, ond, fy anwyl gyfaill, chwi ryfeddech fel yr wyf wedi cael fy nhori i lawr. Bu y gauaf diweddaf yn brofedigaethus iawn i mi. Cefais fy mlino gan y gout, nes fy nwyn i ymyl y bedd. Cefais ymosodiadau enbyd o'r anhwylder yn fy ngylla, ond dyma fi yn golofn o drugaredd yr Hollalluog, ac yn cael codi fy mhen i fynu eto! Y fath ddyledwr wyf i ras y nefoedd. Yr wyf yn awr yn ceisio gwasgu fy nghrefydd i un pwynt yn unig—Crist yn oll. Felly, yr wyf yn myned yn mlaen i orphen fy nhaith ar y ddaear, yr hon sydd yn fyr ac yn ddrwg. Crediniaeth yn yr Iesu ydyw mêr ffydd. Nis gallwn byth ymddiried gormod ynddo ef. Gall achub hyd yr eithaf. Anwyl Iesu! gwna ni yn eiddo i ti byth!" Pregethodd Jones yn Llangan y Sulgwyn hwnw, a gweinyddodd y cymun am y tro diweddaf.
O Langan y cychwynodd efe ar ei daith ddiweddaf. Ymadawodd a'r lle, fel y bwriadai, ddydd Mawrth ar ol y Sulgwyn, ac aeth ar hyd linell union tua Llangeitho, lle yr oedd Cymdeithasfa i gael ei chynal, taith o tua deg-a-thriugain o filltiroedd, gan bregethu ar y ffordd, fel yr arferai wneyd. Cyrhaeddodd Langeitho yn nechreu mis Awst. Pregethodd yn y Gymdeithasfa yn ogoneddus o flaen y miloedd oddiar y geiriau: Canys fy nghnawd i sydd fwyd yn wir, a'm gwaed i sydd ddiod yn wir." Pan oedd y cynulliad drosodd, cychwynodd Mr. Jones, a'i was oedd yn gofalu am dano, tua Manorowen, ond torodd y siwrnai ar y ffordd, a phregethodd eilwaith yn y Capel Newydd, Sir Benfro, ar y geiriau: "Deuwch yr awr hon, ac ymresymwn, medd yr Arglwydd; pe byddai eich pechodau fel ysgarlad, ânt cyn wyned a'r eira, pe cochent fel porphor, byddant fel gwlan." Hon oedd ei bregeth olaf. Cyrhaeddodd ei gartref, yn lluddedig, dydd Gwener, y 10fed o Awst. Teimlai fod ei ymadawiad bellach gerllaw. Ymwelwyd ag ef dydd Sadwrn gan y Parch. Thomas Harris, o Wotton-under-Edge, gynt o Benfro. Yn ystod yr ymddiddan ag ef, tynodd allan ei logell-lyfr, a darllenodd Esay xlv. 24: "Diau yn yr Arglwydd, medd un, y mae i mi gyfiawnder a nerth." Yr oedd wedi ysgrifenu yr adnod felus hon ar ei lyfr y dydd Iau blaenorol. "Hon sydd genyf, anwyl Harris," ebe fe, "ac y mae yn ddigon i fy nerthu i wynebu y byd arall wrth fy modd." Yn y prydnawn, dywedwyd wrtho fod y cyfeillion wedi ei gyhoeddi i bregethu yn Woodstock y dydd canlynol. "Y maent yn ëofn iawn arnaf," meddai yntau, "ond nid yn fwy felly na'r groesaw; os byddaf yma, amcanaf fyned tuag yno." Nos Sadwrn, dywedai wrth un o'r morwynion: "Lettice fach, mae yma loned y tŷ o weision lifrau y nef wedi dyfod i gyrchu fy enaid tuag adref. Os tarewi wrth rai o'u hesgyll, paid a chymeryd ofn, da merch i.' Cyn toriad y wawr, boreu Sabbath, y 12fed o Awst, 1810, yn bymtheg-a-thriugain mlwydd oed, hunodd yn yr Iesu, a chladdwyd ef yn mynwent Manorowen. Ac ysywaeth, canlynwyd ef yn mywioliaeth Llangan gan ŵr o yspryd hollol wahanol, heb ddim cydymdeimlad â Methodistiaeth; a rhoddodd hyn ben ar unwaith ar y cyrchu i'r eglwys. Meddai Thomas Williams eto:
"'Nawr mae eglwys fach Llangana
Wedi newid oll yn lân,
Porfa las yn awr sy'n tyfu
Ar y ffordd oedd goch o'r blaen;
Muriau'r llan oedd oll yn echo,
Yn ateb bloedd y werin fawr,
'D oes na llef, na llais, nac adsain,
Idd ei glywed yno'n awr."