wyr druain galondid i fyned i mewn i'r lle sanctaidd. Er na chawsai yr hen adeilad ei gysegru yn ffurfiol gan esgob, cysegrwyd ef yn effeithiol ddegau o weithiau trwy ymweliadau y Pen Esgob, sef yr Arglwydd Iesu. Cafwyd odfaeon yn y Gyfylchi i'w cofio byth. Heblaw William Davies, bu nifer mawr o'r offeiriaid Methodistaidd yn gweinyddu ynddo, megys Jones, Llangan; Howells, Trehill; Howells, Llwynhelyg, yr hwn sydd yn fwy adnabyddus fel "Howells, Longacre; a Phillips, Llangrallo. Yn mysg y cynghorwyr a fu yn y capel yn llefaru, un o'r rhai hynotaf yn ddiau oedd Siencyn Penhydd, at yr hwn y cawn gyfeirio eto. Nid yn y sancteiddiolaf y llefarai efe; er hyny, yr oedd dan y gronglwyd; a sicr yw iddo gael aml i odfa ryfedd. Yr oedd yr hen grefyddwyr a ymgynullent i'r Gyfylchi yn nodedig am wresawgrwydd eu hyspryd, a thanbeidrwydd eu teimladau; os ceid ychydig lewyrch mewn cyfarfod, byddent yn tori allan mewn clodforedd; ganoedd o weithiau buont yn dawnsio mewn hwyl sanctaidd ar lawr yr hen gapel, ac yn peri i'w furiau adsain gan swn eu moliant. Y mae coffadwriaeth yr odfaeon bendigedig hyny yn aros yn gynes yn mysg y trigolion o gwmpas hyd y dydd hwn. Yma y bu y Methodistiaid yn addoli hyd y flwyddyn 1827, pan yr adeiladwyd capel Pontrhydyfen. Mewn cysylltiad a'r Gyfylchi hefyd yr oedd Richard James, pan y dechreuodd bregethu, ac yma y gorphenodd ei daith.
[1]Er prawf pa mor uchel y syniai y Methodistiaid am William Davies, parthed doniau gweinidogaethol, a medr i gyfranu Gair y Bywyd i'r dychweledigion, gallwn gyfeirio at yr hyn a gymerodd le yn Nghymdeithasfa Abergwaun, Chwefror 14, 1770. Yno cynygid ei osod yn arolygwr ar holl seiadau Sir Benfro, fel olynydd i'r Parch. Howell Davies, yr hwn oedd newydd ei gymeryd i ogoniant. Pan gofiom mor seraphaidd oedd doniau Howell Davies, ac mor uchel y safai yn ngolwg ei frodyr, rhaid y chwilid am ddyn o alluoedd nodedig i gymeryd ei le. A thaerni Howell Harris, yn crefu arnynt ymbwyllo, yn unig a rwystrodd y brodyr i wneyd y penodiad. Nid oedd gan Harris ddim ychwaith i'w roddi yn erbyn William Davies; yn unig hoffai gael rhagor o brawf arno, er deall a oedd yr Yspryd Glan wedi ei gymhwyso i fod yn dad.
Yn ystod amser enciliad Harris y daethai William Davies i amlygrwydd; dyna y rheswm paham y gwyddai y Diwygiwr o Drefecca can lleied yn ei gylch, ac y dadleuai dros ymbwyllo cyn gwneyd penodiad mor bwysig. Eithr wrth roddi hanes Cymdeithasfa Llangeitho, a gynhaliwyd yn Awst, yr un flwyddyn, cawn Howell Harris ei hun yn dwyn tystiolaeth i ragoriaeth yr Efengylydd o Gastellnedd. Pregethai Davies y diwrnod cyntaf, ar ol rhyw frawd o gymydogaeth Wrexham. Ymddengys y cawsai hwnw odfa dda, a bod cryn ddylanwad yn cydfyned a'i eiriau pan y darluniai yr Iesu yn talu holl ofynion y ddeddf, ac yn prynu ei ryddid i bechadur. Dyoddefiadau Crist oedd mater William Davies yn ogystal; cymerasai yn destun y geiriau: "Oblegyd Crist hefyd a ddyoddefodd dros bechodau, y Cyfiawn dros yr annghyfiawn, fel y dygai ni at Dduw." Meddai Harris: "Ymddangosai dawn y pregethwr hwn yn fwy, ei oleuni yn gryfach, a'i wybodaeth o'r Ysgrythyr yn helaethach na'r cyntaf, ac yr oedd mwy o arddeliad yn cydfyned a'i weinidogaeth." Mewn gwirionedd, yr oedd yr Efengylydd o Gastellnedd wedi llwyr feistroli y dorf anferth oedd ger ei fron; pan y bloeddiai, nes yr oedd y bryniau o'r ddau tu i ddyffryn prydferth Aeron yn diaspedain, fod Crist wedi cymeryd ein lle, ddarfod i'n holl bechodau fyned yn eiddo iddo, a bod ei gyfiawnder yntau wedi dyfod yn eiddo i ni, torai y gynulleidfa allan mewn bloeddiadau gorfoleddus. Y fath oedd y dylanwad, fel yr oedd Howell Harris agos wedi ei syfrdanu. "Arosais mewn dystawrwydd," meddai, "wrth feddwl fel yr oedd yr Arglwydd yn eu harddel; gwelwn mai dyma lle y mae Jerusalem, a bod yma ryw fywyd, a nerth, a gogoniant rhyfedd.' Dyma y Gymdeithasfa ddiweddaf i Howell Harris ar y ddaear. Yn fuan gwedi hyn yr ydym yn darllen am William Davies yn pregethu yn Nhrefecca, a chafodd Harris flas anarferol ar yr odfa. Yn ei ddydd-lyfr, canmola y pregethwr yn ddirfawr, gan gyfeirio gydag edmygedd at ei ddirnadaeth o wirioneddau yr efengyl, dysgleirder ei ddoniau, naws hyfryd ei yspryd, a'r difrifwch ai nodweddai wrth gymhell pechaduriaid at Fab Duw.
Nid oes hanes manwl i'w gael am William Davies, fel y darfu i ni nodi, felly rhaid i ni foddloni ar groniclo ychydig of hanesion sydd i'w cael am dano. Cyhoedd-