Deheudir fod wedi cael eu meddianu gan Ymneilleuaeth. yn bur llwyr
Ond daw ein hymresymiad yn fwy eglur os cymerwn rai o'r gwahanol leoedd ar wahan. Yn ol taflen Dr. John Evans, yr oedd cynulleidfa Llanafan a Llanwrtyd yn rhifo wyth cant. Yr ydym yn barod wedi datgan ein barn fod y rhif hwn yn ormod; ond mae Dr. Rees, trwy y cyfnewidiad a wnaeth yn y daflen, yn dyblu y rhif yma, ac yn gwneyd cynulleidfa Llanafan a Llanwrtyd yn un-cant-ar-bymtheg. Cymerer yn ganiataol fod Llanafan a Llanwrtyd yn golygu holl Gantref Buallt, o fynydd Abergwesyn yn y gorllewin, hyd Llanfair-muallt a Rhaiadr-ar-Wy yn y dwyrain, ai tybed fod un-cant-ar-bymtheg o drigolion i'w cael yn yr holl fro fynyddig hono ar hyny o bryd? Pa faint yn ychwaneg nag un-cant-ar-bymtheg sydd yn mynychu moddion gras yn Nghantref Buallt yn bresenol, pan y mae y fath gynydd wedi cymeryd lle yn y boblogaeth tuag ardaloedd Llanwrtyd, a Llangamarch, a'r cyffiniau? Ond i adael hyn, nid ydym yn gweled y posiblrwydd i neb ysgoi y casgliad, os oedd un-cant-ar-bymtheg o Ymneillduwyr yn Nghantref Buallt yn y flwyddyn 1715, y rhaid fod y darn hwnw o'r wlad, beth bynag, wedi cael ei lwyr feddianu gan Anghydffurfiaeth. Ac eto, tuag ardaloedd Llanfair-muallt a Rhaiadr yr erlidiwyd Howell Harris waethaf, ac y cafodd ei gamdrin fwyaf. Pa le yr oedd yr un-cant-ar-bymtheg Ymneillduwyr y pryd hwnw? Cymerer eto y cyfrifon a roddir i Sir Gaerfyrddin. Rhifai Ymneillduwyr Caerfyrddin a Bwlchnewydd, yn ol Dr. John Evans, 600; yn ol Dr. Rees, 1,200; Ymneillduwyr Henllan, yn ol Dr. John Evans, 700; yn ol Dr. Rees, 1,400; Ymneillduwyr Rhydyceisiaid, Moor, ac Aberelwyn, yn ol Dr. John Evans, 800; yn ol Dr. Rees, 1,600; Ymneillduwyr Llanedi, Crugybar, a Chrugymaen, yn ol Dr. John Evans, 600; yn ol Dr. Rees, 1,200; Ymneillduwyr Capel Seion a Llety hawddgar, yn ol Dr. John Evans, 500; yn ol Dr. Rees, 1,000; ac Ymneillduwyr Llanybri, yn ol Dr. John Evans, 400; ac yn ol Dr. Rees, 800. Os cymerir cyfrif Dr. Rees o Ymneillduwyr y lleoedd uchod, yn y flwyddyn 1715, fel un cywir, a chofier eu bod yn ardaloedd amaethyddol, heb ond un dref o bwys rhyngddynt oll, ai tybed nad rhaid casglu fod Ymneillduaeth wedi eu meddianu yn bur llwyr? Yn Sir Aberteifi drachefn, rhoddir rhif Ymneillduwyr y Cilgwyn, a phump neu chwech o leoedd eraill, yn 1,000 gan Dr. John Evans; ac yn 2,000 gan Dr. Rees; ac ystyried fod hyn yn golygu yr holl randir o Llwynpiod i Llanbedr-pont-Stephan, rhaid fod Ymneillduaeth wedi ei meddianu i raddau mawr, pe y byddai cyfrifiad Dr. Rees yn gywir. Ac ychwaneg, yn ol Dr. Rees, bu y cyfnod cydrhwng adeg cyfrif Dr. John Evans yn 1715 a chyfodiad Methodistiaeth, yn adeg o lwyddiant anarferol yn nglyn âg Ymneillduaeth yn ardaloedd Sir Aberteifi a Sir Gaerfyrddin. Dywedir i gant gael eu hychwanegu at gymunwyr Capel Isaac yn ystod yr amser hwn; fod eglwysi Crugybar a Chrofftycyff wedi cynyddu yn ol yr un raddeg; ac i dros ddau cant gael eu hychwanegu at gymunwyr Llwynpiod a'r Cilgwyn. Nis gallai yr ychwanegiadau mawrion hyn at rif yr aelodau cyflawn gymeryd lle, heb fod cynydd mawr wedi cymeryd lle yn rhif y gwrandawyr. Ychwaneger y cynydd hwn at y rhif a roddir gan Dr. Rees yn y flwyddyn 1715, a rhaid ei fod yn edrych ar ranau helaeth o'r Dê agos wedi cael eu llwyr feddianu gan Ymneillduaeth cyn i'r Methodistiaid wneyd eu hymddangosiad.
Credwn yn sicr ein bod wedi profi yr hona Dr. Rees yn ei lyfr yr hyn a briodolwn iddo parthed agwedd Cymru adeg cyfodiad Methodistiaeth. Pa fodd bynag, nid oes neb yn amheu ei fod yn honi fod y wlad wedi cael ei hefengyleiddio i raddau llawer helaethach nag a ddarlunia y Tadau Methodistaidd. Oni bai am hyn, ni buasai anghytundeb rhyngom âg ef. Dywed yn bendant iddynt gamddarlunio agwedd y Dywysogaeth, a gwneyd hyny yn wirfoddol. Am y rhan olaf o'r cyhuddiad, ni ddylasai gael ei ddwyn ond tan ar- gyhoeddiad difrifol o wirionedd, a dylasai gael ei brofi hyd y carn. Ond nid yw y Doctor yn gweled yn dda gyflwyno i ni rith o brawf. Dysgwylia i ni ei dderbyn ar ei air noeth ef; "It seems" yw yr oll a ddywed gyda golwg arno. Da genym weled yr Annibynwyr yn bresenol yn taflu y rhan hon o'r cyhuddiad dros y bwrdd yn ddiseremoni, gan ddatgan eu gofid iddi gael eu hysgrifenu, a'i galw yn "fryntwaith." A bryntwaith yn ddiau ydyw; nis gallesid ysgrifenu dim mwy annheilwng. " Ond cyduna Dr. Rees, a'i amddiffynwyr, i ddadleu ddarfod i'r Tadau Methodistaidd gamddarlunio sefyllfa foesol ac ysprydol y wlad, a gwnant hyn yn gyfangwbl ar sail damcaniaethau a thybiau nas gellir eu profi. Y mae damcaniaethau a dychymygion yn werth rhywbeth weithiau, yn absenoldeb tystiolaeth bendant ac uniongyrchol; ond pan y ceir y cyfryw dystiolaeth, nid ydynt yn werth dim. Y mae owns o dystiolaeth gan lygad-dyst, yn pwyso yn drymach na thunell o ddamcaniaeth. Ac ar sail tystiolaeth felly, tystiolaeth dynion yn adrodd yn syml yr hyn a welent ac a glywent, yr ydym yn dadleu fod sefyllfa foesol y Dywysogaeth yn ddifrifol o druenus pan y cododd Duw y Methodistiaid i fynu. Goddefer i ni alw sylw at y tystiolaethau sydd genym. Y gyntaf ydyw Dydd-lyfr Howell Harris. Ysgrifenai efe yn fanwl bob nos ddygwyddiadau y diwrnod; cofnodai y golygfeydd llygredig a ganfyddai, y ffeiriau annuwiol oeddynt yn cael eu cynal, tywyllwch ysprydol dudew y bobl a gyfarfyddai, a'r ymosodiadau ffyrnig a wnelid arno gan greaduriaid meddw a rheglyd, y rhai a geisient ei fywyd. Yn sicr, nid croniclo dychymygion yr ydoedd, na chyfansoddi ffughanes, ond adrodd yn syml yr hyn a welodd â'i lygaid, a glywodd â'i glustiau, ie, ac a deimlodd â'i gorph mewn gwaed. Pe y credem am dano, ar ol bod yn gyfrwng dylanwadau ysprydol cryfion, na theimlwyd eu cyffelyb hyd yn nod yn Nghymru ond yn anaml, y rhai a barent i oferwyr annuwiol grynu fel dail y coed yn ei bresenoldeb, y gallai fyned yn uniongyrchol i'w ystafell, ac ysgrifenu anwiredd pendant ar ei Ddydd-lyfr, byddem wedi darfod ag ef am byth. Cofier na fwriedid y Dydd-lyfr hwn i'w ddarllen gan neb ond efe ei hun; yn wir, ni ddarllenwyd mo hono gan neb arall am ugeiniau o flynyddoedd wedi ei farw. Y mae llythyr ar gael yn awr yn Nhrefecca oddiwrth berson yn Lloegr, yn ceisio gan Harris ysgrifenu hanes y Diwygiad. Gwrthoda yntau yn bendant, gan roddi fel rheswm am hyny y byddai y cyfryw hanes, o'i du ef, yn rhy debyg i wag ymffrost.
Y dystiolaeth nesaf yw eiddo Williams Pant-y- celyn. Darlunia ef gyflwr gresynus y wlad mewn lliwiau cryfion. Yr ydym yn methu deall paham y mae yr Annibynwyr mor llawdrwm ar y Bardd o Bantycelyn, ac mor ddrwgdybus o hono, gan dybio na chaent chwareu teg ar ei law. Yn eu mysg hwy y cafodd ei ddwyn i fynu; diacon parchus yn eglwys Annibynol Cefnarthen oedd ei dad, ac yn