edrychai i fynu at y ddau Wesley, y rhai oeddynt feibion clerigwr. Er ei fod o dueddfryd grefyddol, ac wedi dechreu gweddio a chanu Salmau wrtho ei hun yn ddyddiol, ofnai anturio at y Methodistiaid; ond trwy ryw ddigwyddiad rhagluniaethol, daeth i gydnabyddiaeth a Charles Wesley, ac ar unwaith bwriodd ei goelbren yn eu mysg. Dyn yn berwi trosodd o natur dda oedd Whitefield; nis gallai oddef ymrafaelion a dadleuon, er iddo gael ei orfodi i gymeryd rhan mewn llawer o'r cyfryw; yr oedd yn llawer mwy heddychol a hynaws na John Wesley, ac yn gant mwy caredig a rhyddfrydig. O'r holl Ddiwygwyr Saesneg, nid oedd neb i' w gymharu ag efe am ddysgleirdeb doniau gweinidogaethol; dylanwadai yn gyffelyb ar y dysgedig a'r annysgedig; toddai y glowyr o gwmpas Bryste, a'r mob ar y Moorfields yn Llundain, ac ar yr un pryd swynai a gorchfygai a'i hyawdledd llifeiriol Hume yr anffyddiwr, nad oedd yn credu gair o'r athrawiaeth a bregethid ganddo. A phregethwr ydoedd. I bregethu yr efengyl y credai ef ei hun ei fod wedi cael ei alw. Nid oedd yn amddifad o allu trefniadol, er nad oedd i'w gystadlu yn hyn o beth a'i gyfaill John Wesley, a chawn ef fwy nag unwaith yn gadeirydd y Gymdeithasfa yn Nghymru. Ond diystyrai drefniadaeth, tybiai fod eraill yn gymhwysach nag ef at y cyfryw waith, a dywedai yn bendant mai i argyhoeddi yr annuwiol yr oedd ef wedi ei gymhwyso. Felly manteisiodd Wesleyaeth yn Lloegr yn ddirfawr ar ei lafur. Pe buasai wedi amcanu ffurfio cyfundeb, ac ymroddi i hyny, buasai ei ganlynwyr yn lluosog yn Lloegr ac America. Teithiodd yntau lawer; teimlai hoffder mawr at Gymru, a Chymraes, o ymyl y Fenni, oedd ei wraig. Bu saith o weithiau trosodd yn yr America, ac yno y cafodd fedd; a bu yn offeryn i argyhoeddi canoedd o bechaduriaid. Adnabyddir ei ddilynwyr yn Lloegr fel Cyfundeb iarlles Huntington.
Cymro oedd John Gambold, yr unig un o holl aelodau y "Clwb Sanctaidd" y mae sicrwydd ei fod yn Gymro. Nid annhebyg hefyd mai Cymro oedd William Morgan, er mai ger Dublin y ganwyd ef. Y mae ei enw yn Gymreig, a gwyddis i amryw deuluoedd o Gymru ymfudo i'r Iwerddon tuag amser y chwildroad. Ganwyd John Gambold yn Puncheston, swydd Benfro, Ebrill 10, 1711, ac yr oedd ei dad yn offeiriad yn yr Eglwys Sefydledig. Cyfyng oedd ei amgylchiadau, oblegyd gwasanaeth—efrydydd (servitor) oedd yn Rhydychain. Yr oedd o duedd fywiog a siriol; fel y rhan fwyaf o'r Cymry, ymhoffai mewn barddoniaeth, a dywedir y treuliai lawer o'i amser i efrydu gweithiau y prif feirdd Saesneg, ynghyd ac eiddo y prif chwareu—ganwyr (dramatists). Yn mhen dwy flynedd wedi iddo fyned i Rydychain, bu ei dad farw, a darfu i'r amgylchiad, ynghyd a chynghorion a rhybuddion ei dad ar ei wely angau ei ddifrifoli, a pheri iddo wneyd iachawdwriaeth ei enaid yn brif bwnc ei fywyd. Ond bu am amser dan argyhoeddiadau dwysion, ac heb gael golwg ar drefn yr efengyl. Dywed iddo fod am ddwy flynedd mewn pruddglwyfni dwfn, a darfod i'r Arglwydd, er plygu ei yspryd balch, wneyd y byd yn chwerw iddo. " Nid oedd genyf neb," meddai, "i ba un y gallwn agor fy mynwes, na neb yn gofalu am fy enaid. Yr oeddynt hwy yn esmwyth arnynt, ac nis gallent ddirnad am beth yr oeddwn i yn gofidio. "Yn rhagluniaethol, pa fodd bynag, daeth i gyffyrddiad a'r ddau Wesley, ac ymunodd a'r Methodistiaid dirmygedig. Ordeiniwyd ef gan Esgob Rhydychain, Medi 1733, ac mor fuan ag y daeth yn alluog i ddal bywioliaeth, cafodd ficeriaeth Stanton-Harcourt. Yn y pentref gwledig hwn, heb fod nepell o Rydychain, y treuliodd saith mlynedd o'i oes mewn neillduaeth, yn myfyrio ar gwestiynau athronyddol a duwinyddol dwfn, ac yn pregethu yn mhell uwchlaw amgyffredion ei wrandawyr syml. Ond fel John Wesley ei hun, daeth dan ddylanwad y Morafiaid, a chyfnewidiodd o ran ei farn gyda golwg ar rai o wirioneddau yr efengyl; taflodd ei athroniaeth i'r gwynt, a daeth yn gredadyn syml yn y Gwaredwr. Yn y flwyddyn 1742, gadawodd gymundeb Eglwys Loegr, ac ymunodd a'r Morafiaid, a chyda hwy y treuliodd weddill ei oes, ysbaid o naw-mlynedd-ar-hugain. Yn bur fuan gwnaed ef yn esgob ganddynt. Tua dwy flynedd cyn ei farw, oblegyd ei afiechyd, daeth i wasanaethu eglwys y Morafiaid yn Hwlffordd, yn y gobaith y byddai i awyr ei wlad enedigol brofi yn llesiol iddo. Ond suddo yn raddol a wnaeth. Hunodd Medi, 1771, a chladdwyd ef yn mynwent yr eglwys Forafaidd yn Hwlffordd.
Yr oedd John Gambold yn ddyn o ddiwylliant helaeth, ac yn llenor gwych. Cyfansoddodd amrai lyfrau, yn benaf er amddiffyn y cyfundeb i ba un y perthynai; a chyhoeddodd ddwy o'i bregethau. Ond rhagorai fel emynydd. Efe a olygai lyfr hymnau y Morafiaid yn Lloegr, a chredir fod nifer mawr o'r emynau a gynwysa