oddiamgylch chwyldroad yn Nghymru. Yr oedd y cyffro ddarfu iddynt gynyrchu yn aruthrol. Pa le bynag yr aent, gosodent y wlad yn fflam. Addefa Dr. Rees ei hun hyn; meddai (tudal. 354): Before the close of the year 1742, the population of almost every district of South Wales, and of many parts of the North, had been aroused to be either earnestly religious, or enraged persecutors." A chan i'r erledigaeth yn y Dê beidio yn fuan, ac i'r elfen grefyddol orchfygu, rhaid fod y cyfnewidiad a gymerodd le yn sefyllfa crefydd yn y wlad yn un sydyn a chyflym iawn. Dwg Williams, Pantycelyn, dystiolaeth i ddysgleirder y goleuni yn ogystal a dwysder y tywyllwch blaenorol. Meddai yn Marwnad Daniel Rowland:
"Mae'r torfeydd yn dychwel adref
Mewn rhyw yspryd llawen fryd,
Wedi taflu 'lawr eu beichiau,
Oedd yn drymion iawn o hyd;
Y ffyrdd mawr yn frith o werin,
Swn caniadau'r nefol Oen,
Nes yw'r creigydd oer a'r cymydd
Yn adseinio'r hyfryd dôn."
Pan y dechreuodd Rowland ar ei waith adseiniai y creigiau gan grechwen ffyliaid, a chan swn rhegfeydd yr oferddyn; pan y bu farw, adseinient gan "swn caniadau'r nefol Oen."
II. Yn nesaf, dadleuir ddarfod i'r Tadau Ymneillduol wneyd gwaith mawr yn Nghymru cyn cyfodiad Methodistiaeth. Nid oes i ni unrhyw ddadleuaeth â Dr. Rees, nac a neb o'i amddiffynwyr, ar y pen hwn. Y mae awdwr parchus Methodistiaeth Cymru wedi talu parch dirfawr i W. Wroth, Walter Cradoc, John Williams, Llanddwrog, a Hugh Owen, o Fronyclydwr, ac eraill.
Yr ydym ninau, yn ein Llyfr, wedi dihysbyddu ein geiriadaeth wrth edmygu eu coffadwriaeth, a dangos pa mor dra rhagorol oedd eu hymdrechion, ac mor fawr oedd eu dyoddefiadau a'u hamynedd. Ffurfia eu gwaith benod ardderchog yn hanes eglwys Crist. Ac y mae yn sicr, a chymeryd eu hanfanteision i ystyriaeth, y cyflwr paganaidd yn mha un y cawsant y wlad, y deddfau seneddol erlidgar â pha rai y rhwystrid eu gweithrediadau, a'r gorthrwm a arferid atynt gan y pendefigion, i'w llwyddiant fod yn fawr. Ar yr un pryd, rhaid cofio mai yn mysg y dosparth canol y buont fwyaf llwyddianus; dynion cefnog ac yn dda arnynt yn y byd oedd eu gwrandawyr a'u haelodau gan mwyaf; i raddau bychan y buont yn alluog i ddylanwadu ar y bobl gyffredin. Diau fod rhai tlodion yn perthyn i'w cynulleidfaoedd; ceir nifer yn cael eu dynodi fel labrwyr yn nhaflen Dr. John Evans, a dywedir am rai lleoedd fod y gwrandawyr gan mwyaf yn dlodion; ond wedi y cyfan, perthyn i'r dosparth canol yr oedd eu haelodau gan mwyaf; ychydig a deimlodd y werin bobl oddiwrth eu pregethau. Cyfaddefa y Parch. John Thomas, D.D., Liverpool, hyn yn rhydd ac yn agored, ac, yn sicr, nid oes neb a amheua ei fod ef yn Annibynwr zelog, yn gystal ag yn hanesydd gwych. Fel hyn y dywed efe: "Yr oeddynt gan mwyaf" (yr Ymneillduwyr a flaenorent y Methodistiaid) "mewn amgylchiadau bydol cysurus, ac uwchlaw lliaws y bobl o'u cylch mewn gwybodaeth. Nid oeddynt eto wedi cyffwrdd ond âg ymylon cymdeithas. Yr oedd corph mawr gwerin y genedl yn aros mewn anwybodaeth dybryd, ac yn ymollwng i bob rhysedd ac annuwioldeb. Nid oedd y Sabbath ond dydd i chwareu ac ymddifyru, i ddilyn ofergoeledd ac anghymedroldeb. Cynelid ffeiriau gwagedd a gwylmabsantau, a'r Sabbath oedd dydd mawr yr wyl." Dyna yn hollol fel y darlunia haneswyr y Methodistiaid agwedd pethau yn flaenorol i'r diwygiad. Yr oedd y Tadau Ymneillduol cyntaf yn ddynion tra rhagorol; buont yn hynod lwyddianus, a chymeryd i ystyriaeth eu hanfanteision a'r rhwystrau oedd ar eu ffordd. Ond nid oeddynt eto wedi cyffwrdd ond âg ymylon cymdeithas; yr oedd corph mawr gwerin y genedl yn aros mewn anwybodaeth dybryd, ac yn ymollwng i bob rhysedd ac annuwioldeb." Ni ddarfu i'r un Methodist ddefnyddio ymadroddion cryfach wrth ddesgrifio sefyllfa druenus Cymru cyn i Rowland a Harris ddechreu cynhyrfu.
III. Y mae Dr. Rees a'i amddiffynwyr yn gwadu fod Ymneillduaeth wedi dirywio i'r fath raddau fel ag i fod mewn perygl o farw pan gyfododd Methodistiaeth. Dywed awdwr fel Mr. Johnes ei bod. "Till the breaking out of Methodism their cause continued to decline," meddai efe. Ofer ceisio gosod Mr. Johnes allan fel dyn anwybodus yn hanesiaeth ei wlad; nid yw camsynied parthed enw, neu gamgyfleu dyddiad, yn profi nad oes ganddo syniad cywir ar y cyfan am gwrs amgylchiadau. Cadarnheir yr hyn a ddywed hefyd yn llyfr Syr Thomas Phillips. Y gwir yw, fod rhai o'r eglwysi Ymneillduol wedi dirywio i'r fath raddau, fel y methodd y diwygiad a rhoddi bywyd newydd ynddynt. Fel esiampl o'r cyfryw, gallwn gyfeirio at yr eglwys ar yr hon y gweinidogaethai Hugh Owen, o Fronyclydwr. Yr oedd wedi llwyr ddarfod pan y dechreuodd y Methodistiaid lafurio yn y lle. Yn hytrach nag ymroddi i ddadleu, caiff y Parch. John Thomas, D.D., Liverpool, ddarlunio cyflwr yr Ymneillduwyr yn Nghymru pan yr ymddangosodd y Methodistiaid. Meddai, yn Hanes Eglwysi Annibynol Cymru (cyf. v., tudal. 462): "Ond wedi y cwbl, nid oedd eu nerth ysprydol (sef yr Ymneillduwyr), i gario dylanwad ar y genedl, yr hyn a allesid ei ddysgwyl, yn ol eu nifer, eu gwybodaeth, eu cymeriad, a'u safle gymdeithasol. Yr oedd oerni a ffurfioldeb yn eu holl wasanaeth, at yr hyn yr ychwanegid yn fawr gan ei hirfeithder. Ymdrinient â phob gwirionedd, yn bynciol ac yn ddadleugar, heb ei ddwyn adref gyda difrifwch at eu gwrandawyr. Cadwent ddrysau eu capeli yn agored bob Sabbath, fel bugail yn cadw drws y gorlan yn agored, modd y gallai y ddafad golledig ddychwelyd, ond nid anfonid y bugail allan i'r anialwch i chwilio am dani. Nid elent allan i'r prif ffyrdd a'r caeau i gymhell yr esgeuluswyr i mewn fel y llenwid y tŷ. . . Erbyn yr ychwanegir at hyn yr ymadawiad mawr oddiwrth y ffydd oedd mewn nifer o eglwysi, nid yw yn rhyfedd o gwbl fod nerth yr eglwysi wedi gwanychu, ac nad oedd ynddynt y gallu hwnw y mae yn rhaid ei gael i ddarostwng gwlad i'r efengyl. Nid oeddynt eto ond wedi cyffwrdd ag ymylon cymdeithas." Felly yr ysgrifena Dr. John Thomas, ac y mae y darlun a dynir ganddo o gyflwr yr hen Ymneillduwyr yn dra gresynus. Gwelwn hwynt wedi llwyr golli yr yspryd ymosodol y rhaid ei gael i efengyleiddio gwlad; nid ydynt yn myned ar ol y colledig; caiff y werin bobl redeg tua'r trueni heb unrhyw ymdrech i'w hachub o'u tu hwy, rhagor na chadw drysau eu capelau yn agored. Eu haddoliad sydd yn ffurfiol ac yn oer; y pregethau ydynt yn bynciol ac yn ddadleugar, ac yn hollol amddifad o ymdrech i wasgu y gwirionedd adref at y gydwybod. Yn ychwanegol, y mae ymadawiad mawr oddiwrth y ffydd mewn amryw leoedd, a nerth yr eglwysi wedi gwanychu yn ddirfawr o'r