gelwir, yn dweyd fel y canlyn wrth Howell Harris:—
"Pa beth a dâl trâd i ddyn truan,
A rhoi 'r mawr anhunedd arno fo 'i hunan,
I yru dynion anonest i'r ne',
Dan rorio, oni cheiff ynte 'r arian?
Mi rois i sos go dda i'r Saeson,
Mae yno bob bedlem yn abl boddlon;
Ped ferdid tithe'n medru gyru 'r Cymry o'u co',
Nyni a 'sguben holl eiddo 'r Esgobion.
Ac a gaem ferdid y Brenin ar fyrder
A'r Parlament i wneyd ffwrn saith mwy ei phoeth'der,
Na ffwrnas Nebucodonosor sur,
I losgi gwyr Eglwys Loeger."
Hysbysir ni ar waelod y ddâlen fod y penill olaf hwn yn cynwys " geiriau a ddywedwyd gan Mr. Dan Rowlands, yn Lleyn, a chan Tho Jones, o Bortdinllaen."' Y mae'r interliwd trwyddi, a chynwysa dros driugain tudâlen, yn llawn o'r cyffelyb gam-ddarluniadau o amcanion y Methodistiaid, ac o'r athrawiaethau a bregethid ganddynt. Ond ein hunig amcan ni yn awr, wrth ei difynu, oedd profi ddarfod i Daniel Rowland ymweled a Lleyn, cyn y flwyddyn 1745.
Cawn hanes hefyd am dano yn teithio trwy ranau o Sir Gaernarfon a Sir Fôn, yn 1747, ac yn ffodus y mae cryn dipyn o hanes y daith ar gael. Yn Mhenmorfa, ger Porthmadog, bygythiwyd ef yn dost, gan ei sicrhau, os pregethu a wnai, y gwneid ei esgyrn yn ddigon mân i'w gosod mewn cwd. Diystyru eu bygythion a wnaeth. Aeth yn ei flaen i Leyn, lle y cyfarfyddodd a rhai cyfeillion serchog. Yn Llanmellteyrn, gwnaed cais am gael yr eglwys iddo, am ei fod yn offeiriad urddedig, ond nacawyd hi. Pregethodd yntau oddiar y gareg farch wrth borth y fynwent. Ei destun oedd, Jer. xxx. 21:—[1]]] "Canys pwy yw hwn a lwyr roddodd ei galon i nesau ataf fi? medd yr Arglwydd." Yn ei bregeth profai nad oedd neb ond Crist wedi llwyr roddi ei galon i'r perffeithrwydd ag y mae deddf Duw yn gofyn. Yna darluniai gyfiawnder yn dangos yn mlaen llaw i Iesu Grist y dyoddefiadau y byddai raid iddo fyned trwyddynt, os elai yn ei flaen i dâlu dyled pechaduriaid. " Gwybydd," meddai cyfiawnder, " er dyfod at yr eiddot dy hun, na chai ond tŷ yr anifail i letya, a phreseb yn gryd, a chadachau yn wisgoedd." Ond yn lle cilio yn ol, atebai y Gwaredwr, "Boddlawn i'r driniaeth hono er mwyn fy nyweddi." " Os wynebu i fyd sydd dan y felldith, cai fod heb le i roi dy ben i lawr; ie, byddi yn nôd i eithaf llid a malais creaduriaid sydd yn cael eu cynal genyt bob moment." " O íy nghyfraith lân, yr wyf yn foddlawn i hyny! " " Cai hefyd chwysu dafnau gwaed ar noswaith oer, a phoeri yn dy wyneb, a'th goroni a drain; a'th ddysgyblion, wedi bod cyhyd o amser yn gweled dy wyrthiau, ac yn gwrando dy nefol athrawiaethau, yn dy adael yn yr ing mwyaf; ie, un o honynt yn dy werthu, ac un arall yn dy wadu, gan dyngu a rhegu yn haerllug na adwaenai mo honot." "Er caleted hyn oll," meddai Iesu Grist, "ni throaf yn ol; cuddiwyd edifeirwch o'm golwg." Yn ganlynol, dyma gyfiawnder a'r gyfraith yn cyd-dystio:— "O dydi, Wrthrych clodforedd holl angyhon y nef, a gwir hyfrydwch y Jehofah Dad, os anturi i'r fachnïaeth ddigyffelyb yma, bydd holl allu uffern yn ymosod arnat, a digofaint dy Dad nefol yn ddigymysg ar dy enaid a'th gorff sanctaidd ar y groes; ie, os rhaid dweyd y cyfan, bydd raid i ti oddef tywallt allan y diferyn olaf o waed dy galon! " Yn awr, pwy heb syndod a all feddwl am y Meichiau bendigedig, yn ymrwymo yn ngwyneb yr holl ystormydd i gymeryd y gorchwl caled arno ei hun, ac yn ngwyneb y cwbl yn gwaeddu " Boddlawn!" Ni allodd fyned yn y blaen ymhellach mewn ffordd o bregethu, canys torodd allan yn un floedd orfoleddus o wylo a diolch, megys y blwch enaint gynt yn llenwi y lle a'i berarogl. Ni anghofiwyd y tro hwn gan lawer ddyddiau eu hoes.
Ymwelodd lawer gwaith a'r Gogledd wedi hyn. Dywedir y rhoddai dro trwy y rhan fwyaf o Gymru unwaith yn y flwyddyn am ysbaid lled faith o'i oes. Bu yn gwasanaethu yn aml yn Llundain; a phregethai nid yn anfynych yn nghapelau yr Iarlles Huntington yn Bristol, Bath, a manau eraill.
Fel y rhan fwyaf o'r Diwygwyr, cafodd yntau ei erlid a'i faeddu yn fynych. Nid anaml byddai offeiriad y plwyf, neu foneddwr a breswyliai yn yr ardâl, yn cyflogi nifer o ddihirwyr i ymosod arno, pan y byddai yn ceisio llefaru. Mewn llythyr at Whitefield, dyddiedig Chwefror 14, 1743, dywed Howell Harris,[2] "Yr wyf wedi gweled y brawd Wm. Williams, ar ei ddychweliad oddiwrth y brawd Rowland, ac fe'm hysbyswyd ganddo ddarfod i'r
gelyn gael ei ollwng yn rhydd arnynt ill