Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf I.djvu/74

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

heb osod cofnod o'r weithred ar y Llyfrau. Ac felly y gwnaeth yr Esgob Squire.

Yn y flwyddyn 1763 y trowyd Daniel Rowland allan. Ceir dau draddodiad gwahanol gyda golwg ar yr amgylchiad. Dywed y Parch. John Owen, yn ei fywgraffiad, i hyn gael ei wneyd yn gyhoeddus ar y Sul yn Llanddewi-brefi. Cawsai efe yr hanes oddi wrth hen ŵr duwiol a breswyliai yn y lle, ac a gofiai yr amgylchiad yn dda. Daeth dau offeiriad i'r eglwys pan yr oedd Rowland yn esgyn grisiau y pwlpud. Un o'r ddau oedd y Parch, Mr. Davies, brawd Cadben Davies, Llanfechan; ni wyddis enw y llall. Estynyyd llythyr i Rowland yn y pwlpud. Gwedi ei ddarllen, trodd at y gynulleidfa anferth oedd wedi ymgynull, gan ddweyd na oddefid iddo bregethu. Daeth i lawr o'r pwlpud, ac aeth allan o'r eglwys, yn cael ei ganlyn gan y bobl, y rhai a wylent yn hidl. Yr adroddiad hwn a ddilynir gan y Parch. E. Morgan, Ficer Syston, yn y bywgraffiad a gyfansoddodd yntau; ond ychwanega ddarfod i'r gynulleidfa, gwedi myned allan, daer gymhell Rowland i bregethu, yr hyn a wnaeth yntau oddiar glawdd y fynwent.

Eithr cafodd y Parch. John Hughes, Liverpool, adroddiad gwahanol gan David Jones, Dolau-bach, yr hwn oedd yn flaenor yn Llangeitho, ac yn ŵr tra chraffus. Fel hyn y dywed efe: " Yn Nadolig, 1763, y trowyd ef allan gan swyddogion yr Esgob. Tybiaf fod camgymeriad yn hanes ei fywyd gan y Parch. J. Owen, pan y dywed mai o Landdewibrefi y trowyd ef allan. Canys y mae yr hanesion a gefais i yn sicrhau mai yn Llangeitho a Llancwnlle yr oedd ef yn gweinidogaethu ar y pryd. Bum yn ymddiddan a hen ŵr o'r enw John Jenkins, yr hwn, pan yn hogyn tua phymtheg mlwydd oed, a aethai gyda'i rieni i Llancwnlle i wrando Rowland ryw Sabbath; ac i ddau swyddog oddiwrth yr Esgob ddyfod yno i droi Rowland allan, a bod Rowland wedi dechreu yr addoliad cyn eu dyfod. Ataliodd y bobl y gwŷr wrth y drws, nes iddo orphen pregethu; yna aeth rhywun ato i'w hysbysu am eu dyfodiad a'u dyben. Ar hyn, disgynodd yntau yn ddioed o'r pwlpud, a daeth atynt i'r drws, gan ofyn eu neges. Hwythau a fynegasant iddo. ' O,' ebai Rowland, 'gallasai ei arglwyddiaeth gymeryd llai o boen arno na'ch danfon chwi yma; o'm rhan i, nid âf byth o fewn ei muriau mwy; os mynwch chwi, hi gaiff fod yn llety dylluanod. Mae y bobl yn barod i ddod gyda fi.' Tystia yr hen ŵr ei fod ef yn bresenol ar y pryd, yn gweled ac yn clywed hyn oll, ac mai yn y modd a ddarluniwyd y bu yr amgylchiad. Ac fe wyr pawb sydd mewn oedran i gofio hefyd mai yn gwbl anghyfanedd yn mron y bu y rhan fwyaf o'r llanau, yn y cymydogaethau hyn, am amser maith ar ol troad Rowland allan." Nid yw y ddau adroddiad o angenrheidrwydd yn anghyson. Nid yw yn anmhosibl i Daniel Rowland gael ei atal yn y boreu rhag gweinyddu yn Llanddewi-brefi, ac iddo farchogaeth rhyw chwech milldir i Lancwnlle erbyn y gwasanaeth prydnhawnol, yn yr hwn le y digwyddodd yr amgylchiad a gofnodir gan yr hen flaenor duwiol o'r Dolau-bach. Ond iddo gael ei droi allan sydd sicr. Ni amheuwyd hyn gan nac Eglwyswr nac Ymneillduwr am fwy na chan' mlynedd gwedi i'r peth ddigwydd. Hysbysai y Parch. Howell Davies[1] ar gyhoedd yn Nghapel Llangeitho, ddarfod i'r weithred brofi yn flin i'r Esgob mewn canlyniad; ei fod mewn ing enaid oblegyd hyn ar ei wely angau, ac iddo ddolefain: " Ymdrechais yr ymdrech (ai yr ymdrech yn erbyn Methodistiaeth a olygai?), gorphenais fy nghyrfa, ond collais fy enaid, ac yr wyf bellach yn andwyol!" A bu farw dan gnofeydd cydwybod ofnadwy. Byddai hyn, yn annibynol ar bob prawf arall, yn ddigon o sicrwydd ddarfod i ddrysau yr Eglwys gael eu cau yn erbyn Daniel Rowland; oblegyd yr oedd Howell Davies ac yntau yn gyfeillion o'r fath fwyaf mynwesol tra y buont ill dau byw; ac yn ychwanegol, yr oeddynt mewn cyfathrach berthynasol, gan i Nathaniel, ail fab Rowland, briodi merch Howell Davies. Rhaid felly fod amgylchiadau troad Rowland allan yn gwbl hysbys i Mr. Davies. Yr oedd Rowland yn gweled yr ystorm yn dyfod, ac yn parotoi i ymadael a'r Eglwys Sefydledig.[2] "Difyr yw darllen," meddai Dr. Lewis Edwards, "am y dull y llwyddodd yr hen ddiacon craffus o'r Dolau-bach i gael allan brofion fod Rowland yn Ymneillduwr ewyllysgar. Nid oes un ymresymiad cadarnach yn Euclid. Ond er bod Rowland yn parotoi i ymadael, tynodd yr Eglwys Sefydledig arni ei hun yr anfri o'i droi allan. Os oedd y pechod o sism yn gysylltiedig o gwbl a'r

  1. Ministerial Records
  2. Traethodau Llenyddol tudal 498