Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf I.djvu/83

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Bydded i'r Arglwydd ei arddel fwy-fwy. Yr oedd y dref fechan hono hefyd yn adseinio ' Gogoniant.' Parha, fendigedig Iesu, i farchog yn llwyddianus trwy ein gwlad. Llanw eni calonau oerion a'th gariad, ac yna ni a'th folianwn di o fôr i fôr."

Yr oedd gan yr Hybarch Grifíìths, Nevern, y syniadau uchaf am Rowland fel píegethwr. [1] "Yr oedd y pregethwr mawr hwn," meddai, "yn ei weinidogaeth gyhoeddus, yn gyffelyb i ymchwydd ac ymdoriad tònau y môr, pan fyddo y gwynt yn cynhyrfu mynwes yr eigion. Deuai nerth oll-orchfygol dylanwad yr Yspryd yn mlaen yn raddol, fel tòn y môr, gan gynyddu fwy-fwy. Dechreuai ei bregeth yn dawel, ond fel yr elai yn mlaen, cynyddai ei fater a'i arddull mewn dyddordeb. Byddai ei gynulleidfa, yx hon oedd yn wastad yn anferth o fawr, yn dwys syllu arno, gyda llygaid yn dysgleirio fel sêr, gan sylwi arno gyda phleser wrth ei fod yn myned rhagddo mewn modd mor ardderchog. Dygid eu meddyliau a'u teimladau yn mlaen gydag ef yn y modd mwyaf nerthol a melus, gan fod wedi eu cyffroi i radd uchel o gynhyrfiad crefyddol, nes yn mhen enyd y cyrhaeddai ei hyawdledd ei uchaf-bwynt; ac yna ymdorai ei hyawdledd, dan y dylanwadau dwyfol, mewn ardderchawgrwydd, fel ymchwydd y dòn, gan lwyr orchfygu y dyrfa fawr yn y modd mwyaf rhyfedd. Y pryd hwn, byddai angerddolrwydd eu teimladau yn cael gradd o ryddhad mewn bloeddiadau o 'Haleliwia,' a 'Bendigedig fyddo Duw.' Arafa y pregethwr; rhydd seibiant i'r gynulleidfa i fwynhau y wledd; yn wir, ni chlywsid ei lais pe yr elai yn ei flaen. Yr oedd yn angenrheidiol hefyd i'w brwdaniaeth gael pasio, er eu cymhwyso i wrando ar y gweddill o'r bregeth gyda budd. Felly ceisiant gadw eu teimladau danodd, ac ymdawelu, gan eu bod yn awyddus am fwynhau y danteithion a arlwyid ger eu bron gan genhadwr rhyfedd y nefoedd, yr hwn oedd wedi cael ei ddonio mor arbenig. Dechreua yntau adran arall o'i bregeth yn bwyllog a thawel, gan ymddyrchafu yn raddol, fel tòn arall o'r môr, i uchder gogoneddus mewn syniadau a theimladau, y rhai ydynt wir a naturiol effeithiau syniadau efengylaidd, a dylanwad yr Yspryd. Tan addysgiant Yspryd Duw, cynyrcha y rhai hyn eu cyffelyb yn y gwrandawyr. Y maent yn crogi wrth ei wefusau; gwyliant bob ysgogiad o'i eiddo, gan eu bod yn gwybod oddiwrth ei fater a'i ddullwedd fod ymdoriad gerllaw. Ei lais yntau, a gwedd ei wyneb, sydd yn cyfnewid, cynydda ei ymresymiad mewn nerth, ac yna dyna ei hyawdledd efengylaidd yn ymdori fel ymchwydd y dòn drachefn. Ar hyn y mae y gynulleidfa yn cael ei gorchfygu gan ei theimladau unwaith eto, ac yn tori allan mewn llefau uchel, 'Hosanai FabDafydd.' Yr oedd arddull, llais, ac osgo y dyn mawr hwn, ar adegau o'r fath, yn anarluniadwy o ardderchog ac effeithiol. Yr oedd holl gyhyrau ei wyneb yn siarad, a'i wedd yn pelydru mewn dysgleirdeb, fel yr haul yn ei nerth."

Er prawf pa mor rymus oedd dylanwad Rowland, a'r modd yr oedd teithwyr o gyrau pellaf y Dywysogaeth yn anghofio eu holl ludded tan swyn ei weinidogaeth, adrodda Dr. Owen Thomas yr hanes canlynol, wedi ei gael ganddo oddiwrth yr hen bregethwr hybarch, Mr. John Williams, Dolyddelen, "yr hwn," meddai, "nid oedd mewn un modd yn un gwanaidd, difeddwl, a pharod i ymollwng gyda phob awel a chwythai ar ei dymherau.[2] Dywedai ei fod ef (John Williams), un tro, wedi myned i Langeitho, gan gerdded yr holl ffordd o Ddolyddelen. 'Yr oeddwn,' meddai, 'wedi blino cymaint fel yr oeddwn yn llawer fftiach i fyned i fy ngwely nag i fyned i'r capel. Ond fe aeth Rowland i bregethu. Y testun oedd: ' Ac Arglwydd y lluoedd a wna i'r bobloedd yn y mynydd hwn wledd o basgedigion, gwledd o loyw-win; o basgedigion breision, a gloyw-win puredig.' Ac ni chlywsoch chwi erioed y fath beth. Fe aeth ati i dapio barilau y cyfamod gras, ac i ollwng allan y gwin puredig, ac i ddiodi y bobl ag o. Yn wir, yr oedd o yn llifo trwy y capel. Mi yfais inau o hono, nes yr oeddwn i wedi meddwi fel ffŵl; a dyna lle y bum i, ac ugeiniau gyda mi, heb feddwl dim am flinder, yn gwaeddu, a rhai o honom yn neidio, am oriau.' "

Byddai yn gamwri gadael allan ddesgrifiad Christmas Evans o hono. Yr oedd Christmas, fel yntau, wedi ei eni a'i ddwyn i fynu yn Sir Aberteifi, ac yn 24 mlwydd oed pan y bu farw; a diau felly iddo gael cyfleustra i wrando arno lawer gwaith. Fel hyn y dywed yr hen Fedyddiwr

hyawdl:[3] " Calfinaidd yn mhob ystyr o'r

  1. Ministerial Records
  2. Cofiant John Jones, Talsarn
  3. Hanes Bywyd Christmas Evans.