Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf I.djvu/91

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENOD V.

HOWELL HARRIS

Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Howel Harris
ar Wicipedia

Ei enedigaeth a'i ddygiad i fynu—Ei argyhoeddiad yn eglwys Talgarth—Cael dyddanwch yn Nghrist—Dechreu cynal addoliad teuluaidd a chynghori—Yn myned i Rydychain—yn gadael Rhydychain—Myned o gwmpas i rybuddio yr annuwiol—Gwrthwynebiad yr offeiriaid a'r boneddwyr—Cael ei erlid—Sefydlu seiadau—Myned i lefaru i Sir Faesyfed—Argyhoeddiad Mr. Gwynn—Harris yn myned ar daith i Sir Fynwy—Yn ymweled a Sir Forganwg y tro cyntaf—Rhanau o'i ddyddlyfr—Cyfarfod a Whitefield yn Nghaerdydd—Myned i Lundain—Myned y tro cyntaf i'r Gogledd, mor bell a'r Bala—Dalenau ychwanegol o'i ddydd—lyfr—Myned i Sir Benfro—Sessiwn Trefynwy—Ail daith i'r Gogledd—Ei erlid yn y Bala—Myned i Sir Gaernarfon—Yn teithio ac yn gweithio yn ddidor.

Copi o'r Darlun Gwreiddiol

NID oes unrhyw dywyllwch yn gorchuddio hanes Howell Harris, oblegyd, yn wahanol i'r oll o'r Tadau Methodistaidd eraill, gadawodd Hunan-gofiant ar ei ol; yr hwn gofiant a gynwysa, nid yn unig ffeithiau ei fywyd, ond ei deimladau a'i brofiad yn ogystal. Cafodd yr Hunangofiant ei olygu, a'i gyhoeddi, gydag ychwanegiad, gwedi ei farw, gan "y rhai oeddynt o'r dechreuad yn gweled."Y rhai hyn oedd "teulu" Trefecca, y bu yn myned i mewn ac allan yn eu mysg, ac yn llywodraethu arnynt am yr yspaid o dair blynedd ar hugain. Yn ychwanegol, cadwai ddydd-lyfr, yn mha un y croniclai yn fanwl bob nos, holl helynt y diwrnod blaenorol, yn arbenig ystâd ei feddwl, a'r temtasiynau tumewnol a pha rai y buasai yn brwydro. Yr oedd hefyd yn ysgrifenydd llythyrau lawer, o ba rai y mae swm dirfawr ar gael hyd y dydd hwn. Rhwng ysgrifeniadau Harris ei hun, a thystiolaeth y "teulu" a gasglodd o'i gwmpas, y rhai oeddynt yn gydnabyddus a'i holl symudiadau, ac yn gwybod ei amcanion, y mae y goleuni dysgleiriaf sydd yn bosibl wedi cael ei daflu ar ei gymeriad ac ar ei waith. Nis geill neb wadu ei fod yn ddyn arbenig. Ymddengys fel Elias y prophwyd, yn wrol ei wedd, a gair Duw yn llosgi fel tân yn ei yspryd, ac yn taranu gyda holl angerddoldeb ei natur yn erbyn drygioni y genhedlaeth drofaus y cawsai ei anfon yn genad ati. Yr oedd teulu Howell Harris yn hanu o Sir Gaerfyrddin, o gymydogaeth Llandilo Fawr, nid yn nepell o'r fangre lle y preswyliai henafiaid y Parch. Henry a William Rees; a symudasant i Frycheiniog tua'r flwyddyn 1700. Perchenogai ei rieni, Howell a Susanna Harris, y tyddyn y darfu