Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf II.djvu/13

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

XXXV. —YR OFFEIRIAID DDARFU LYNU

Rhieni y Parch. John Williams, Lledrod, yn ddyeithr i grefydd—Ei dad yn marw pan yn ieuanc, ac yntau yn cael ei ddwyn i fynu gan ei fodryb—Y mae yn llanc gwyllt, ond yn ddysgwr gwych—Yn cael ei ordeinio i guwradiaeth Lledrod a Llanwnws—Profi nad oedd yn Fethodist—Ofergoeledd yr ardal— Mr. Williams yn cael ei argyhoeddi trwy Williams, Llanfair—Yn pregethu gyda nerth—Ei Fethodistiaeth yn peri iddo orfod ymadael a'r Eglwys Sefydledig—Yn bwrw ei goelbren yn mhlith y Methodistiaid—Yn cael odfaeon nerthol Ei ffraeth ddywediadau mewn cyfarfodydd eglwysig — Yn troi yn gryf o blaid y Neillduad—Ei nodwedd fel pregethwr—Ei farwolaeth—Geni y Parch. Howell Howells, Trehill, yn ardal Ystradgynlais—Y mae yn cael troedigaeth yn ieuanc—Ei hynodrwydd fel gweddiwr—Yn dechreu pregethu pan ar daith yn y Gogledd gyda Mr. John Evans, Cilycwm—Yn myned i'r offeiriadaeth—Yn guwrad yn Glyncorwg, a chwedi hyny yn St. Nicholas— Crefydd yn uchel yn Mro Morganwg ar y pryd—Llangan yn Jerusalem y wlad —Gwrthwynebiad Mr. Thomas, Tresimwn, iddo gael ei ferch yn wraig—Yn dyfod yn y blaen yn y byd—Gorfod ymadael a St. Nicholas—Cael ei droi allan o guwradiaeth Llanddiddan Fach—Ei ymlyniad wrth y Methodistiaid— Llythyrau—Ei nodwedd fel pregethwr—Marwolaeth y Parch. Howell Howells.

XXXVI.—YR OFFEIRIAID DDARFU LYNU—(parhad)

William Howells yn Fethodist—Teulu Llwynhelyg—William yn gwrthod myned yn gyfreithiwr—Yn parotoi i'r offeiriadaeth, ac yn myned i Rydychain —Cael siomedigaeth tra yno, a'i iechyd yn gwanychu mewn canlyniad—Ei ordeiniad—Dadl rhyngddo a'r Esgob Watson—Yn dyfod yn guwrad i Langan— Ei boblogrwydd fel pregethwr—Marwolaeth Mr. Jones, Llangan—Gwrthod y fywioliaeth i'r Parch. William Howells am ei fod yn Fethodist—Ei guwrad— iaeth gyntaf yn Llundain—Esgob Llundain yn ymholi yn ei gylch—Ei boblogrwydd dirfawr yn mysg pob gradd—Gwrthod y fywioliaeth iddo ar farwolaeth Mr. Goode—Y mae yn cymeryd prydles ar gapel esgobol Longacre —Ei nodweddion fel dyn, ac fel pregethwr—Hanesion am dano—Darnau o'i bregethau—Ei farwolaeth—Rhieni y Parch. William Lloyd, Caernarfon— Y mae yn tyfu yn ddifater am grefydd—Yn graddio yn Rhydychain—Y mae yn ffafrddyn gan Esgob Bangor, a boneddigion Môn—Ei droedigaeth hynod— Y mae yn myned i'r seiat at y Methodistiaid—Ei ymadawiad a'r Eglwys— Y mae yn gwisgo ffedog ledr fel barcer—Yn preswylio yn Nefyn, yna yn Brynaera, ac yn ddiweddaf yn Nghaernarfon—Ei nodweddion fel pregethwr— Ei gystudd olaf, a'i farwolaeth—Haniad y Parch. Simon Lloyd, B.A.—Yn cael addysg dda, ac yn dyfod yn ysgolor gwych—Ei helynt gyda'r Esgob— Ei ymuniad a'r Methodistiaid—Ei nodweddion fel llenor a phregethwr—Ei farwolaeth.

XXXVII.—YR OFFEIRIAID DDARFU GEFNU...

Pwy a feddylir wrth yr Offeiriaid Methodistaidd—Coffadwriaeth y rhai ddarfu gefnu wedi cael ei esgeuluso—Nathaniel Rowland yn cael ei ddwyn i fynu i'r offeiriadaeth—Ei enwogrwydd mewn dysgeidiaeth ac mewn dawn— Ei yspryd trahaus a thra—arglwyddaidd —Helynt y capelau yn Hwlffordd— Nathaniel Rowland yn cael ei ddiarddel oddiwrth y Methodistiaid—Teulu y Parch. David Griffiths, Nefern—Yn cael ei ddwyn at grefydd yn ieuanc—Yn priodi Miss Bowen, Llwyngwair—Yn cael ei urddo yn offeiriad—Yn ymwasgu at y Methodistiaid, ac yn pregethu mewn lleoedd annghysegredig—Ei wroldeb —Boneddigeiddrwydd ei ymddangosiad—Yn bregethwr nodedig—Desgrifiad o hono fel pregethwr—Elfenau eraill yn amlwg yn ei gymeriad—Yn blaenori yn yr ymdrech yn erbyn y Neillduad—Ei fywyd gwedi ei ymadawiad a'r Methodistiaid—Cyfarfod weithiau a'i frodyr gynt—Ei farwolaeth—Y Parch. William Jones, Llandudoch—Y Parch. D. Davies, Cynwil—Offeiriaid eraill y dywedir iddynt gefnu ar y Methodistiaid. Lle genedigaeth Ebenezer Morris—Ei rieni yn symud i ddyffryn Troedyraur —Tyfu yn fachgen direidus a gwyllt—Yn symud i Drecastell—Ei argyhoeddiad — Yn dechreu pregethu—Y mae yn enill sylw ar unwaith—Yn dychwelyd i Dwrgwyn—Yn cael ei osod i bregethu yn Llangeitho—Marwolaeth Rowland— Marwolaeth Dafydd Morris—Ebenezer Morris yn cael ei alw yn fugail, ac yn priodi—Desgrifiad o hono—Ei ddewrder—Diarddeliad Nathaniel Rowland— Gosod taw ar y ddiacones—Tynerwch Mr. Morris—Michael Penuwch—Nerth a phereidd—dra llais Mr. Morris—Yn ei ogoniant ar faes y Gymdeithasfa— Rhai o'i odfaeon hynod.

XXXVIII. EBENEZER MORRIS

Lle genedigaeth Ebenezer Morris—Ei rieni yn symud i ddyffryn Troedyraur —Tyfu yn fachgen direidus a gwyllt—Yn symud i Drecastell—Ei argyhoeddiad Yn dechreu pregethu—Y mae yn enill sylw ar unwaith—Yn dychwelyd i Dwrgwyn —Yn cael ei osod i bregethu yn Llangeitho—Marwolaeth Rowland— Marwolaeth Dafydd Morris—Ebenezer Morris yn cael ei alw yn fugail, ac yn priodi—Desgrifiad o hono—Ei ddewrder—Diarddeliad Nathaniel Rowland— Gosod taw ar y ddiacones—Tynerwch Mr. Morris—Michael Penuwch—Nerth a phereidd—dra llais Mr. Morris—Yn ei ogoniant ar faes y Gymdeithasfa— Rhai o'i odfaeon hynod.

XXXIX.—THOMAS JONES, DINBYCH.. Thomas Jones yn hanu o deulu cyfoethog — Ei rieni yn ei fwriadu i'r offeiriadaeth — Yn yr ysgol yn Nghaerwys ac yn Nhreffynon — Yn cael amrai waredigaethau hynod — Dechreuad Methodistiaeth yn Nghaerwys — Y Capel