Tudalen:Y tadau methodistaidd Cyf II.djvu/255

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto


219

o'u pregethwyr i weinyddu yr ordinhadau. Trwy yr holl amser y bu Mr. Charles yn Uafurio yn niysg y Methodistiaid, ym- drechai bron yn wastad fod gartref Sul pen mis i weinyddu y sacrament, yr hwn oedd bob amser yn unol â ffurf gwasanaeth yr Eglwys, gan arfer yr un weddi cyn ac ar ol derbyn yr elfenau. Syn oedd canfod y torfeydd a ymgynuUent ar yr achlysuron hyn, llawer o ba rai a ddeuent odrosddeu- ddeg neu bedair-milltir-ar-ddeg o bellder.

Ac yn wir, nid oes gwahaniaeth hanfodol rhwng yr hyn a ddywed a'r hyn a ysgrif- enwyd gan y Parch. Thomas Jones ; ond yn unig fod y ddau yn edrych ar y mater o wahanol safieoedd. Wrth gymharu eu tystiolaethau, a bwrw golwg ar yr hyn ydym wedi ddysgu o ffynonellau eraill, mewn cysylltiad ag agwedd Mr. Charles at gwestiwn yr ordeiniad, ymddengysy pethau canlynol i ni yn glir : —

I, Ddarfod iddo wrthwynebu y neillduad

•MR. ROBERT SAÜNDERSON, BALA.

[Argmffydd Mr, Charles.]

A dymunol oedd gweled ar eu gwynebau yr effeithiau dedwydd oedd y cyfarfodydd difrifol hyn yn gael arnynt."

Yr oedd Robert Saunderson yn ddyn didwyll ; yn ychwanegol, yr oedd ar delerau tra chyfeiUgar â Mr. Charles ; gan hyny, er mai Eglwyswr ydoedd, a'i fod yn ddiau yn awyddus am gyflwyno ei hen gyfaill i sylw yr Esgob Short yn y wedd fwyaf boddhaol i'r Prelad hwnw, yr ydym yn derbyn ei dystiolaeth am ei Ilawn werth.

am amryw flynyddoedd yn gryf a chyndyn. " Mewn modd tirion " y gwrthwynebai ; yr oedd boneddigeiddrwydd ei yspryd, a lledneisrwydd ei dymher, yn ddigon i'w waredu rhag myned yn dymherog a châs; ond nid oedd ei wrthwynebiad yn llai pen- derfynol oblegyd fod ei eiriau yn gym- hedrol. Hawdd genym gredu i'r ddadleu- aeth beri iddo ofid dirfawr, a rhoddi iddo aml noson ddigwsg. Yn wir, yn y Ilesgedd cynyddol oedd yn dyfod arno fel gvr arfog,