Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Yn Llefaru Eto.djvu/17

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

o £25,000. Yn y swydd o Brifathraw Coleg y Bala, am agos i haner can' mlynedd, efe a enillodd barch ac edmygedd tua mil o fyfyrwyr a fu dano o dro i dro, ac y mae ei ddylanwad yn amlwg ac arhosol ar fwyafrif gweinidogion Cyfundeb yn Ne a Gogledd Cymru. Cafodd Dr. Edwards gynyg y teitl o D.D. gan Brifysgol Princeton, ond gwrthododd ef. Yn 1865, cynygiwyd yr un anrhydedd iddo gan ei Brifysgol ei hun yn Edinburgh, ac aeth yno i dderbyn y teitl. Penod ddyddorol yn hanes Dr. Edwards yw yr un ar ei gysylltiad ag Addysg. Gwnaeth ymdrechion personol mawr i gael addysg. Ac fel y crybwyllwyd yn nglyn a sefydliad Athrofa y Bala, yr oedd yn gynar ar ei oes wedi ei ddwfn argyhoeddi o'r angenrheidrwydd am addysg drwyadl i weinidogion ieuainc. Yr oedd ei syniad mor eang ar y pwnc hwn fel y dychrynai ambell un rhag i'r wlad gael ei harwain i ganol peryglon anffyddiaeth Lloegr. Prawf nodedig o hyn ydoedd ei benderfyniad i anfon ei fab hynaf---Dr. Thos. Charles Edwards, Prifathraw presenol Coleg Duwinyddol y Bala--i Rydychain. Heddyw nid oes hynodrwydd o gwbl yn hyn, ond y pryd hwnw yr oedd yn newydd-beth ac yn gofyn cryn wroldeb, canys y ffaith yw ddarfod i'r holl weinidogion a blaenoriaid yr ymgynghorodd â hwy ar y mater geisio yn daer ei berswadio rhag y fath gwrs peryglus, A chydag addysg gyffredinol y genedl, bu eangder ei syniadau ef yn ddylanwad grymus i gael y vlad i symud yn y cyfeiriad hwn. Ac er cynydd addysg a'r manteision yn nglyn a hyny, credai a dadleuai os oedd effeithiolrwydd a dylanwad y pwlpud i barhau fod yn rhaid darpar ar gyfer addysg y weinidogaeth.

Yn ei Gyfundeb, cafodd ei anrhydeddu, a bu yn offeryn i roi symudiad mawr yn mlaen i deyrnas Dduw. Efe sicrhaodd y fugeiliaeth eglwysig i'r Methodistiaid, er gwaethaf llawer ystorm a gododd a'r difrawder i symud yn mlaen. Ei awgrymiad ef oedd y Gymanfa Gyffredinol. Efe yw tad y Gronfa Gynorthwyol a Thrysorfa y Gweinidogion ; a bu yn gefnogydd cryf i'r Achosion Saesneg.

Gyda thristwch cenedlaethol y derbyniwyd y newydd am farwolaeth Dr. Edwards, boreu ddydd Mawrth, Gorphenaf, 19, 1887. Ni welwyd erioed arwyddion o deimlad mwy cyffredinol o golled. Cenedl gyfan a alarai am fod un o oreugwyr y ganrif wedi cwympo. Diwrnod mawr oedd y dydd Gwener dilynol, pryd y dygwyd ei gorff ar ysgwyddau ei hen efrydwyr i fynwent anwyl Llanycil.