Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Yn Llefaru Eto.djvu/19

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

FEL PREGETHWR.

Gan y Parch. Griffith Parry, D.D., Carno.

𝕾YLW gwir iawn oedd hwnw a wnaeth Carlyle, mai hanes gwirioneddol gwlad ydyw hanes ychydig o ddynion mawr. Ac nid ydyw yn anhawdd rhoddi cyfrif am hyn. Gweithredoedd sydd yn y golwg; ond y mae gweithredoedd yn cael eu bod yn y meddwl. Yn y dirgel y mae ffynhonau bywyd y byd. Ac os edrychwn ar hanes y byd fel goruchwyliaeth Rhagluniaeth Duw, yr hon yw y wedd uchaf arno, nid oes dim yn yr olwg hon yn anghyson â'r sylw a ddyfynwyd. Nid yn ddigyfrwng y mae Duw yn gweithio. Yn hanes y byd a'r eglwys y mae y gweithrediad dwyfol trwy offerynoliaeth ddynol. Os Duw sydd yn "tywys ei bobl fel defaid," y mae hyny "trwy law Moses ac Aaron." Pan y mae "yr awr" wedi dyfod y mae "y dyn" yn barod.

Gellid rhanu dynion mawr gwlad neu oes i ddau ddosbarth. Gwneir un i fyny o'r dynion sydd yn gwneyd y gwaith mwyaf rhagorol yn amgylchiadau yr oes y maent yn byw ynddi-y rhedegwyr glewaf ar linellau meddwl a gwaith eu hoes eu hunain. Ond y mae dosbarth arall, uwch; sef y dynion sydd yn agor llinellau newydd i diriogaethau newydd o feddwl a gwaith. Y mae y rhai hyn yn rhoddi argraff eu personoliaeth nerthol eu hunain ar eu hoes. Cyfyd ychydig ddynion sydd yn grëwyr cyfnodau. Y maent yn rhoddi cyfeiriad newydd i feddwl oesoedd. Dynion i'w hoes yw y rhai hyn mewn modd arbenig, yn gynyrch eu hoes, ond o flaen eu hoes, ac ar ar yr un pryd yn meddu digon o rym i dynu eu hoes i'w canlyn. Meddylwyr mawr a diwygwyr mawr. Un fel hyn oedd Dr. Chalmers yn Ysgotland. Ac un fel hyn yn arbenig oedd Dr. Edwards yn Nghymru.