Tudalen:Yn y Wlad.pdf/101

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

draw, yn y fynwent brydferth ar lan Llyn Tegid, nag sydd yn aros yn y dref. Deuent i'm meddwl yn lluoedd, ac ni welwn yr heol yn wag mwy. Wrth feddwl am danynt, gallwn ddweyd fel y dywedodd Ap Vychan, pan ddaeth yno i weled bedd ei hoff chwaer,—

"Cawsom ni oll ein gwasgaru,
A'n taflu ymhell o dy ein tad,
Cefaist ti er hynny lonydd
Ar aelwydydd d'anwyl wlad;
Rhodiaist hyd ei huchel fannau,
Glynnoedd, bryniau mawr eu bri,
A chest fedd, ar ddydd dy arwyl,
Yn ei hanwyl fynwes hi."


Oherwydd nid ydynt yn Llanecil i gyd. Pe dechreuwn ddweyd hanes fy hen gyfeillion, byddai raid i'm meddwl grwydro i bedwar ban y byd. Bob yn dipyn ffarweliodd llu mawr o garedigion â'm meddwl hiraethus, yn ysbrydion distaw pur. Ond mynnai tri aros ar ol y lleill, fel y gwnaethant lawer tro o'r blaen.

Yn Heol y Castell, parhad o'r Stryd Fach i fryniau'r Fron, yr oedd cartref William Roberts. Yr oedd o deulu caredig, mwyn, a theimladwy. Rhoddodd ei fywyd i Fryn Crug, a dysgodd genhedlaethau o blant fel na fedr wneud ond a fyddo yn eu caru. Collodd ei ferch, oedd yn dod i edrych am dano o weini ar glwyfedigion yn Ffrainc, drwy frad tanforwyr y gelyn. A suddodd yntau i'r bedd, yn anwyl gan bawb. Y tro olaf y gwelais ef, arhosodd yn sydyn ar y ffordd, a dywedodd,—"Mae'n rhaid i chwi ateb un cwestiwn eto. Beth ydyw'r rheswm fod y bechgyn fyddaf fi'n ganmol ac yn wobrwyo yn ei gwneud hi'n salach yn y byd na bechgyn fyddaf yn geryddu?" "Yr oedd eich cerydd mor dyner," oedd yr unig ateb y medrwn