Tudalen:Yn y Wlad.pdf/109

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

oes hon am hen seintiau a hen arglwyddi. Yr oedd y Mortimeriaid o bobtu iddi; a lle y ceir hwy ceir hanes cyffrous bob amser. Tra'r oedd llawer eraill yn ymladd a'r pagan yn enw Crist yng nghanol y ddeuddegfed ganrif, yr oedd llaw Huw fab Rawlff yn rhydd i ail osod iau'r Normyn ar wŷr Elfael, ac i godi castell yn eu canol. Dro arall yr oedd yr Arglwydd Rhys yn mynd i gwrdd a brenin Lloegr i Gaerloew, a'r tywysogion heriasent y brenin yn ei osgordd, ac yn y llu yr oedd Madog o Faelenydd ac Einion Clud o Elfael. Ddydd arall daeth Gilis, esgob uchelgeisiol a rhyfelgar Henffordd, drwy'r fro; ond gadawodd gastell Colwyn a bryniau Elfael i fab Einion Clud, yr hen arglwydd. Beunydd y deuai yr estron, gyda'i beiriannau rhyfel a'i gynlluniau medrus; ond, pan ddeuai'r Arglwydd Rhys neu Lywelyn Fawr i'r gororau, codai uchelwyr Elfael i'w croesawu megis un gŵr.

Nid gwladgarwch bob amser oedd yn cyffroi yr uchelwyr a'u dyledogion. Byddai'r estron yn ymyrryd â'u hawliau i'r porfeydd, hynny wnai droell eu naturiaeth yn fflam. Yr uchelwyr sy'n diflannu, y mae'r bobl yn aros. Y mae dull brwydrau'n newid, y mae bywyd y bryniau yn aros yn debig o hyd. Bu sychter mawr yn y Gwanwyn yn y broydd hyn unwaith, yr oedd gwres yr haul mor fawr fel y sychodd y ddaear dano, fel na thyfodd dim frwyth ar goed na maes, ac na chaed pysgod môr nac afonydd. Ac ar ddiwedd y cynhaeaf, hynny oedd ohono, wele'r llifeiriant glaw. Bu gymaint glawogydd fel y cuddiodd y llif-ddyfroedd wyneb y ddaear, hyd na allai'r ddaear sych agenog, er cymaint hiraethasai yn y sychter mawr am dano, lyncu y diluw dwfr. Ac fel pe na bai eu