Tudalen:Yn y Wlad.pdf/51

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Fel arfer, daethum hyd ddyffryn gwyrdd hyfryd Ystwyth. Yr oedd y gwres yn llethol, oherwydd mis Gorffennaf oedd hi. Yr oedd y gwair ysgafn yn sychu'n grin bron newydd ddisgyn oddiwrth y bladur, yr oedd pawb yn dianc i'r cysgod rhag y gwres. Oddiar ael y bryn, lle dringai'r tren dan goed hyfryd eu cysgod, gwelem danbeidrwydd yr haul ar y dolydd odditanom ac ar y bryniau a'r dyffrynnoedd draw. Toc daethom i ben y tir, lle y bu Ieuan Brydydd Hir yn hiraethu am dano,—

"O, Gymru lân ei gwaneg,
Hyfryd yw oll, hoyw—fro deg!
Hyfryd, gwyn ei fyd a'i gwel,
Ac iachus yw, ac uchel;
Afonydd yr haf yno,
Yn burlan ar raean ro,
A redant mewn ffloyw rydau,
Mal pelydr mewn gwydr yn gwau."

Dacw ysgol Ystrad Meurig ar ael y bryn. Mor hoffus oedd bywyd yr athraw Edward Richard, ac mor felys yw ei fugeilgerddi ar y mesur tri tharawiad. Bob tro y dof i'r llecyn hyfryd hwn, daw ei linellau melodaidd i'm meddwl, a hefyd y cof iddo. unwaith adael ei ysgol am flwyddyn oherwydd fod ei gydwybod yn dweyd y dylai ddysgu ychwaneg. Ac yn awr wele'r gors o'n blaen, ac yr ydym ninnau ar ei minion.

A rhyfedd iawn, wele hi, nid yn ddu a thrist fel arfer, ond yn wen fel pe bai dan gaenen o eira. Nid eira mo hono, gwyddwn hynny'n dda, ar haf fel hwn. Yr oedd y gwynder yn fwy cain na gwynder eira, yr oedd yn wyn cynnes disglair hefyd, gwyn fel gwyn edyn angylion oedd. Nid oedd y gors yn wen i gyd, ond yr oedd y llanerchau gwynion oedd hyd—ddi fel pe'n taenu eu purdeb gwyn a