Tudalen:Yn y Wlad.pdf/9

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

RHAGAIR

A DDEALLAIST ti, ddarllennydd mwyn o Gymro, gyfrinion y môr neu swyn natur? A welaist ti brydferthwch Cymru, dy fam-wlad dy hun? Os do, cei weled Cymru yn brydferthach nag erioed o ddarllen y llyfr hwn; os na welaist ac na theimlaist hud dy wlad, cei agoriad llygad. Ceisia ddeall cariad angerddol Owen Edwards tuag at ei "Walia fach"; fe fyddi'n well Cymro wedyn, ac yn well dyn.